
Dyfed Rhys Morgan
Ar Ddydd Gwener 11 Medi 2020 fe gafwyd Dyfed Rhys Morgan, un o fyfyrwyr KESS 2 o Brifysgol Bangor, gyfweliad gyda Aled Hughes ar Radio Cymru ynglŷn a’i waith ymchwil gyda bragdai bach yng Nghymru. Mae modd gwrando eto ar y sgwrs trwy ddilyn y linc yma (cychwyn o 1 awr 14 munud). https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000mdgb
Gallwch ddarllen trawsgrifiad o’r sgwrs ddiddorol hon isod:
[Mae’r eitem hon yn dilyn sgwrs ar y sioe rhwng Aled Hughes a Phil o fragdy Twt Lol ynglŷn a bragdai bach a gwerth bragu cwrw tra’n defnyddio’r Gymraeg i’w gwneud yn wahanol o fewn y diwydiant cwrw crefft]
Aled: Croeso ata ni Dyfed,
Dyfed: Bore da Aled,
Bore da. Wyt ti’n gwneud astudiaeth PhD, ti’n mynd am ddoethuriaeth yn y maes yma o fragdai bach ydwyt?
Yndw, dwi’n edrych ar wahanol elfennau o gynaliadwyedd o fewn y diwydiant cwrw crefft yn Nghymru.
Ti’n sôn am gynaliadwyedd, hynny ydi sut mae nhw’n gweithio fel busnesau a sut mae nhw’n cyfrannu yn lleol i’r economi ag ati?
Ia, wel dau agwedd o gynaliadwyedd mwy na dim, sef agwedd cymunedol a wedyn
ôl traed amgylcheddol nhw. Fel oedd Phil yn ddweud, mae nhw’n hanfodol o bwysig oherwydd economi lleol, mae nhw’n cefnogi pobol lleol, mae’r arian yn cael ei wario yn lleol ag mae nhw’n denu lot o dwristiaeth bwyd a diod i’r ardal. Maent yn aml yn agor eu bragdai ar benwythnosau fel y bod pobol yn gallu dod yna i drio’r cynnyrch a hynny yw’r gysylltiad agosaf gewch chi bosib hefo cynhyrchu’r cwrw yna. Mae’n siŵr bod pobol sydd yn eistedd yn y bragdai yn mwynhau y diod a mae o i gyd yn eistedd mewn tanciau tu ôl nhw a mae’r cysylltiad yna hefo’r bwyd mor agos i lle mae yn cael ei gynhyrchu.
Felly, am wn i ti ‘di dechrau drwy gwneud rhyw fath o fap neu rhyw fath o syniad faint o fragdai bach sydd ‘na erbyn hyn, oes gen ti syniad?
Do, y cam cyntaf wnes i gymryd oedd cael syniad o faint ohonyn nhw oedd yn bodoli yn Nghymru, ag oedd hyn yn 2017, ag oni wedi cyfri 87 bragdy yn Nghymru, ag oedd hyn yn cynnwys y rhai mawr rhyngwladol yn De Cymru a mae ‘na nifer o rhai rhanbarthol sydd hefo tai tafarnau. Ond o agwedd y bragwyr annibynnol wnes i gyfri 73, ond dwi’n saff mae y rhifau wedi codi ers hynny. A wedyn mi gysylltais a’r 73 ohonyn nhw i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil yma.
Oeddet yn sôn am ôl troed a’r amgylchedd, wyt ti felly yn edrych ar y gadwyn o ddosbarthu ag ati?
Yndw, am y broses o fesur ôl traed amgylcheddol nhw dwi’n defnyddio methodoleg “life cycle assessment” a wedyn edrych ar ôl traed yn ei gyfanswm o’r gadwyn werth, o dyfu’r cynhwysion amrwd yna a phob peth sydd yn mynd i fewn i’w dyfu o; y gwrtaith, y gwaith sydd yn mynd efo’r peiriannau a wedyn trosglwyddo’r cynnyrch o’r maes unwaith mae wedi tyfu draw i gael ei brosesu fel yna hefo haidd. Mae nhw’n cael eu maltio hefo hops, mae nhw angen eu sychu ag yna dosbarthu nhw ymlaen wedyn. So mae yna elfen o drafnidiaeth i fyny o’r maes draw at y bragdy. [Wedyn] y gwaith yna sydd i gyd yn mynd ymlaen ar lawr y bragdy, faint o drydan mae nhw’n ddefnyddio, nwy, dŵr wrth gwrs, offer glanhau… popeth sydd yn mynd drwy’r bragdy. Wedyn sut mae’r bragwyr yn pecynnu y cwrw; ydi nhw’n rhoi o mewn casgen neu rhoi o mewn potel? Wedyn y trafnidiaeth o’r bragdy ymlaen i lle mae o’n cael ei werthu, fel tŷ tafarn neu mewn siop, a wedyn beth sydd yn digwydd efo’r gwastraff, ydi o mynd i ailgylchu neu ydi o’n ffeindio ei ffordd i dirlenwi neu’i losgi?
Felly, ai un o’r pethau wyt ti’n geisio ddarganfod ydi be ydi gwerth y diwydiant neu wyt ti’n mynd i grynhoi i bwyntiau penodol?
Mae’n bosib o’r canlyniadau neu o’r data wnes i gasglu i weithio allan faint o gynnyrch sydd yn mynd i fod yn cael ei ddefnyddio. Dwi wedi edrych ar tua 10% o’r diwydiant felly mae’r pennod yna eto i’w ysgrifennu. Ond eto mae’n siŵr wnâi edrych ar faint ydi gwerth y cynhwysion amrwd ‘na i’r diwydiant yn Nghymru. Mae yna rhywfaint o haidd yn cael ei dyfu yn De Cymru ond mae o i gyd yn cael ei symud i ardaloedd yn Lloegr i’w brosesu, fel maltio. Does ‘na ddim unlle dwi’n wybod amdano sydd yn maltio yr haidd yng Nghymru. A hops wedyn, fel oedd Phil yn ddweud, mae rheini yn trafaelio yn bellach na unrhyw gynnyrch arall. Mae ‘na lot ohonynt, fel y bragdai bychan yma, yn trio gwahaniaethu ei hunain o’r bragdai eraill. Mae nhw’n experimentio hefo gwahanol hops ag mae hyn yn dibynnu ar rhai sydd yn dod o ardaloedd yr Unol Daleithiau a Awstralia a Seland Newydd hefo’r hops ‘ma sydd yn rhoi yr arogl ag y blas “tropical” fel oedd Phil yn ei ddweud.
Ia, fel oeddwn yn sôn mae o yn waith diddorol ag yn faes diddorol, a Dyfed pob lwc efo’r gwaith. Mae rhaid imi ofyn yn sydyn, dwi’n gwybod na cefndir peirianneg sydd gen ti. Mi oeddet ti’n hyfforddi i fod yn drydanwr, be oedd hi, eistedd hefo peint trwy pnawn a mynd, “Os gwn i be ydi’r hanes?” – Sut ddechreuodd o?
Dwi ers erioed wedi cael diddordeb yn y diwydiant, ag oni’n gwneud cwrw adra. Ar ôl i mi weithio fel trydanwr am ryw 10 mlynedd ges i ddechrau gweithio mewn cwmni peirianneg yn Gaer, a wedyn rhan fwyaf o amser oni hefo nhw oni yn y bragdai mawr rhyngwladol yma ar draws Gogledd Lloegr a De Cymru. A wedyn ar ôl gweithio yn y safleoedd yma wnaeth o jest sbarcio diddordeb mewn bragdai bach a safon y cwrw, a gwerth y cynnyrch mae nhw’n wneud, ag y safon uchel yna a gymaint mor werthfawr ydyn nhw i’n economi lleol ni. Oedd o’n rywbeth oeddwn wirioneddol a diddordeb edrych i fewn i ymchwilio.
Gwych, a dyna be ti am ei wneud ynde. Diddorol iawn, iawn. Diolch am y sgwrs gyfaill, bore da Dyfed.
Diolch yn fawr.