Gweminarau Cynaliadwyedd 2020
Gan nad ydym yn gallu cynnig Gweithdai Cynaliadwyedd KESS 2 wyneb yn wyneb ar hyn o bryd rydym wedi eu haddasu i’w rhedeg fel gweminarau. Bydd y gweminarau hyn yn eich helpu i ddeall sut mae eich ymchwil yn cyfrannu at gynaliadwyedd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (LlCC), prif fframwaith datblygiad cynaliadwy yng Nghymru.
Bydd yn gyfle i ddarganfod sut mae LlCC yn berthnasol i’ch ymchwil, i’ch partner diwydiannol a’r sefydliad academaidd. Bydd cyfle hefyd i edrych ar sut mae eich ymchwil yn cyfrannu at y nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer y Cymru mae pawb eisiau weld. Darllenwch fwy am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a lles cenedlaethau’r dyfodol.
Cyflwyniad i Gynaliadwyedd
Y dyddiadau a’r amseroedd sydd ar gael ar gyfer Gweminarau Cyflwyniad i Gynaliadwyedd yw:
Dydd Mercher, 11 Tachwedd : 11 am – 12.30 pm |
Dydd Iau, 26 Tachwedd : 1 – 2.30 pm |
Archebwch eich lle: Os hoffech chi fod yn bresennol, e-bostiwch Penny ar p.j.dowdney@bangor.ac.uk gan nodi pa ddyddiad yr ydych am archebu ar ei gyfer.
|
Gwybodaeth am: Cyflwyniad i Weminarau Cynaliadwyedd
Gwybodaeth am: Cyflwyniad i Weminarau Cynaliadwyedd
Disgrifiad y gweminar
Bydd y weminar rhyngweithiol hon yn eich helpu i ddeall sut mae eich ymchwil yn cyfrannu at gynaliadwyedd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (LlCD), prif fframwaith datblygu cynaliadwy yng Nghymru, a Nodau Datblygu Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Uniedig (UN SDGs). Mi fydd yn gyfle i ddarganfod sut mae’r LlCD a’r UN SDGs yn berthnasol i’ch ymchwil, eich partner diwydiannol a sefydliad academaidd.
Nodau’r sesiwn
Ar ddiwedd y weminar, bydd mynychwyr:
- Wedi cael cyflwyniad i gynaliadwyedd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (LlCD)
- Yn deall y cyd-destun polisi a fframwaith LlCD yn syml
- Yn gallu cysylltu LlCD i’w gweithgaredd ymchwil a gweithgaredd busnes
- Wedi cael syniadau ar gyfer eu hymchwil
- Wedi ystyried cynaliadwyedd a COVID-19
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y weminar bydd mynychwyr yn gallu:
- Dangos eu bod yn deall themâu sylfaenol a chysyniadau LlCD
- Defnyddio’r fframwaith LlCD gyda’ch ymchwil
- Cyfathrebu’r budd o ystyried fframwaith LlCD i gynulleidfa eang
Mi fydd y weminar yn cael ei gynnal gan Dr Gwenith Elias, Y Lab Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor. Byddwch yn derbyn 5 credyd tuag at eich Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA).
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gweminar KESS 2 misol ar Nod Datblygu Cynaliadwy’r Mis y Cenhedloedd Unedig yn agored i holl gyfranogwyr KESS 2. Mae rhagor o wybodaeth ymhellach ymlaen i lawr y dudalen hon.
Mae hefyd cyfres o fideos byr gan fyfyrwyr KESS 2 yn rhannu sut mae eu hymchwil yn cyfrannu at nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ewch i adran Fideos y tudalenau Cynaliadwyedd i weld mwy.
Adnoddau
Gweminarau Nod y Mis y Cenhedloedd Unedig
Er mwyn ategu’r Gweminarau Cyflwyniad i Gynaliadwyedd KESS 2, bydd Y Lab Cynaliadwyedd Bangor hefyd yn cynnig cyfres o weminarau ar Nod y Mis y Cenhedloedd Unedig, fel y gallwn archwilio pob nod ymhellach. Mae manylion llawn am y gyfres gweminar a sut i ymuno isod. Nid oes angen archebu ar gyfer y weminar hon – dilynwch y ddolen i ymuno.
Ynglŷn â'r gweminar
Gweminar Gweithredu ar yr Hinsawdd
Ym mis Tachwedd, byddwn yn edrych ar Gweithredu ar Newid Hinsawdd – Nod Datblygu Cynaliadwy 13. 2019 oedd yr ail flwyddyn gynhesaf ar gofnod a diwedd y degawd cynhesaf (2010-2019) a gofnodwyd erioed. Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob gwlad ar bob cyfandir. Mae’n tarfu ar economïau cenedlaethol ac yn effeithio ar fywydau. Mae patrymau tywydd yn newid, mae lefelau’r môr yn codi ac mae digwyddiadau tywydd yn dod yn fwy eithafol. Rhagwelir y bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gostwng tua 6% yn 2020 oherwydd gwaharddiadau teithio ac arafu economaidd o ganlyniad i COVID-19. Dim ond dros dro yw’r gwelliant hwn, unwaith y bydd yr economi fyd-eang yn gwella, mae disgwyl i’r allyriadau ddychwelyd i lefelau uwch. Mae llawer o wledydd yn defnyddio eu cynlluniau adfer i symud tuag at economi lân, werdd a mwy gwydn.
Nodau’r gweminar
Ar ddiwedd y gweminar, bydd mynychwyr:
- Wedi cael cyflwyniad i ‘Gweithredu ar Newid Hinsawdd’ – SDG 13.
- Trafod sut mae’n berthnasol i Gymru a KESS2
- Yn gallu cysylltu’r nod â gweithgaredd ymchwil
- Wedi cael syniadau ar gyfer eu hymchwil
- Wedi ystyried effaith COVID-19 ar y nod
Gweminarau blaenorol yn y gyfres
Mae cyfres o fideos byr gan fyfyrwyr KESS 2 yn rhannu sut mae eu hymchwil yn cyfrannu at nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ewch i adran Fideos y tudalenau Cynaliadwyedd i weld mwy.
Adnoddau