Tag: Prifysgol Bangor

KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor yn arddangos cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop i ddirprwyaeth o Lywodraeth Cymru

Ddydd Gwener 14 Medi, ymunodd dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru â phobl sy’n cymryd rhan yn KESS 2 i arddangos prosiectau yn y Ganolfan Reolaeth ym Mangor. Dewiswyd rhaglen KESS 2 fel enghraifft dda sy’n dangos manteision Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a chafodd y ddirprwyaeth weld amrywiaeth o brosiectau ymchwil. Roedd y bore’n gyfle i’r dirprwywyr weld… Darllen mwy »

Prosiect ymchwil dilyn gwenyn chwyldroadol yn cael ei gynnwys ar BBC Countryfile

BBC Countryfile

Ar ddydd Sul 26 Awst 2018, cafodd prosiect KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymchwilio i ddilyn gwenyn ei gynnwys ar raglen gyfoes BBC One, Countryfile. Siaradodd y goruchwyliwr academaidd, Dr Paul Cross ac ymgeisydd PhD, Jake Shearwood â Matt Baker am ymchwil a datblygu’r dechnoleg ar gyfer dilyn gwenyn gyda dyfeisiau electronig bach chwyldroadol,… Darllen mwy »

Gwobrau KESS 2 : Digwyddiad Blynyddol : 2018

Awards 2018

Ar ddydd Iau, 26 Gorffennaf 2018, cynhaliwyd yr ail noson Gwobrau KESS 2, digwyddiad blynyddol a gynhaliwyd ar gyfer cyfranogwyr y prosiect a ariennir gan ESF, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd. Roedd y noson yn cynnwys cystadleuaeth fyw o gyflwyniadau, pob un yn cystadlu am gyfle i ennill hyd at ddau wobr;… Darllen mwy »

Llwyddiant Womenspire i oruchwyliwr academaidd KESS 2 Delyth Prys

Delyth Prys

Mae goruchwyliwr academaidd KESS 2 a pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, Delyth Prys, wedi derbyn gwobr gan brif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny am ei gwaith arloesol ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Mae Delyth yn arwain tîm o raglennwyr, datblygwyr meddalwedd a therminolegwyr yn yr Uned Technolegau Iaith, uned arbenigol… Darllen mwy »

Myfyrwraig KESS 2, Non Williams, wedi ei ethol i eistedd ar ‘Fforwm Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth’ Llywodraeth Cymru

Hoffai KESS 2 ymestyn llongyfarchiadau i’n hymgeisydd PhD Non Williams ar gael ei ethol yn ddiweddar i eistedd ar fforwm ‘Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth’ Llywodraeth Cymru yn Llanfair-ym-Muallt. Bydd Non, sy’n ymchwilio ‘Rheoli porfa ucheldir wedi’i optimeiddio ar gyfer buddion economaidd ac amgylcheddol’, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o fewn strwythur KESS 2,… Darllen mwy »

Cyfranogwyr KESS 2 yn dathlu Diwrnod Ewrop 2018 (Map Rhyngweithiol)

Dydd Mercher, 9 Mai 2018, fe ddathlodd cyfranogwyr KESS 2 Diwrnod Ewrop trwy fynd â’r cyfryngau cymdeithasol i rannu’r buddion y mae arian yr UE yn eu darparu ar gyfer eu hastudiaeth lefel ddoethuriaeth yng Nghymru. Dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae KESS 2 yn hwyluso prosiectau ymchwil cydweithredol rhwng prifysgolion a busnesau ledled Cymru ac… Darllen mwy »

Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol

Cyhoeddwyd yr erthygl gwreiddiol gan Brifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/news/diweddaraf/hen-blant-bach-yn-ennill-gwobr-arian-mewn-g%C5%B5yl-ffilm-a-theledu-ryngwladol-36444 Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen… Darllen mwy »

Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu

Hen Blant Bach

Cyhoeddwyd yr erthygl gwreiddiol gan Brifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/news/diweddaraf/hen-blant-bach-ar-restr-fer-gwobrau-rhyngwladol-ffilm-a-theledu-35876 Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018. Mae Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi’i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn… Darllen mwy »