{"id":1568,"date":"2017-01-23T15:39:01","date_gmt":"2017-01-23T15:39:01","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?page_id=1568"},"modified":"2023-06-05T14:13:18","modified_gmt":"2023-06-05T13:13:18","slug":"staff-profiles","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/contacts\/staff-profiles\/","title":{"rendered":"Proffiliau Staff"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><span style=\"color: #b9006a;\"><strong>T\u00eem Canolog KESS 2<\/strong> ym Mhrifysgol Bangor<\/span><\/h2>\n<hr \/>\n<p><a name=\"Penny\"><\/a><\/p>\n<h3><strong><br \/>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-1663\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/pd.png\" alt=\"Dr Penny Dowdney\" width=\"170\" height=\"218\" \/>Penny Dowdney<br \/>\n<\/strong>Rheolwr KESS 2\u00a0Cymru \/ Rheolwr Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor<\/h3>\n<p>Mae Penny wedi gweithio ym Mhrifysgol Bangor dros y 15 mlynedd diwethaf. Graddiodd Penny yn wreiddiol o Brifysgol Aberystwyth, cyn symud ymlaen i wneud cyrsiau \u00f4l-raddedig mewn Addysg, gan arbenigo mewn Addysg Uwch ac yn ddiweddarach mewn TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor), EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) ac ESP (Saesneg at Ddibenion Penodol).<\/p>\n<p>Mae wedi gweithio dramor fel athrawes, hyfforddwr athrawon ac ymgynghorydd, gan wneud gwaith mewn Prifysgolion, Colegau ac Ysgolion yn Japan, Korea, Tsieina, De Affrica a Chanol America. Mae ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor wedi ymwneud yn bennaf \u00e2 gwaith ymgynghori a thiwtora gyda myfyrwyr \u00f4l-raddedig tramor; ysgrifennu, datblygu a chyfarwyddo cyrsiau (gyda meysydd arbenigol gan gynnwys Ysgrifennu Cyfreithiol a Gwyddonol); datblygu deunyddiau; datblygu ac ehangu gwaith ymgynghorol dramor a rhyw gymaint o waith profi a recriwtio dramor (ee sefydlu rhaglenni 2 + 2 yn Tsieina).<\/p>\n<p>Yna symudodd i r\u00f4l newydd yn y Swyddfa Ymchwil a Menter fel Rheolwr Datblygu Sgiliau Ymchwil, gan weithio ar y Prosiect Ysgoloriaethau\u2019r Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS), o\u2019r Uned Datblygu Academaidd lle sefydlodd y Rhaglen Sgiliau Graddedigion (hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer ymchwilwyr doethurol). Fel rhan o\u2019r r\u00f4l newydd hon bu\u2019n sefydlu Cymhwyster Datblygu Sgiliau \u00d4l-radd ar gyfer holl gyfranogwyr KESS, ym mhob Prifysgol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn 2013 penodwyd Penny yn Rheolwr Cymru KESS, gan arwain y prosiect o Fangor gyda th\u00eem canolog a gan gydlynu\u2019r Prifysgolion partner ar draws Cymru. Yn ystod ei hamser fel Rheolwr Cymru KESS mae Penny wedi sefydlu cyswllt traws-genedlaethol cryf i\u2019r prosiect, gan adeiladu cronfa ddata o arbenigedd (ymchwil a chwmn\u00efau) ar draws rhwydwaith o Brifysgolion Ewropeaidd. Roedd KESS yn rhaglen a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a oedd wedi\u2019i hen sefydlu, ac ar y sail hon cyhoeddwyd cyllid o \u00a336 miliwn o arian ESF ar gyfer KESS 2 yng Nghymru, i gefnogi gweithrediad Cymru gyfan am 6 blynedd arall, gan ddarparu 650+ o ysgoloriaethau Doethurol a Meistr Ymchwil sy\u2019n cyplysu academia a diwydiant drwy gydweithio.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu: 01248 382266 \/ <a href=\"mailto:p.j.dowdney@bangor.ac.uk\">p.j.dowdney@bangor.ac.uk<\/a><\/strong><\/p>\n<hr \/>\n<p><a name=\"Aashu\"><\/a><\/p>\n<h3><strong><br \/>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-1665\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/aashu.png\" alt=\"Aashu Jayadeep\" width=\"170\" height=\"218\" \/>Aashu Jayadeep<br \/>\n<\/strong>Gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol<\/h3>\n<p>Daeth Aashu i Brifysgol Bangor fel myfyriwr yn y lle cyntaf i wneud ei hail gwrs Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA \u2013 Rheoli Gwybodaeth) a graddiodd gyda rhagoriaeth yn 2013. Cafodd gyfle i ymuno \u00e2\u2019r Swyddfa Ymchwil a Menter fel rhan o\u2019r prosiect KESS yn 2014 ac ers hynny mae wedi cefnogi\u2019r gwaith o reoli Skills Forge ar gyfer prosiectau Meistr Ymchwil a PhD KESS.<\/p>\n<p>Dechreuodd fel gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol ym mis Rhagfyr 2015 a gyda\u2019i chyfrifoldebau yn y swydd honno mae\u2019n cael cyfle i weithio\u2019n agos \u00e2 rheolwr yr Ysgol Ddoethurol yn cefnogi\u2019r elfen weinyddu, hyfforddi a datblygu doethurol. Ymysg ei dyletswyddau y mae cydlynu\u2019r rhaglen hyfforddiant Doethurol ar draws Prifysgol Bangor a hyrwyddo\u2019r Ysgol Ddoethurol yn y Brifysgol a thu hwnt. Mae\u2019n gweithio gyda\u2019r gymuned Ddoethurol yn y Brifysgol (myfyrwyr \u00f4l-radd ymchwil, goruchwylwyr academaidd, Cyfarwyddwyr Astudiaethau Graddedig) ac mae hefyd yn gyfrifol am dudalennau gwe\u2019r Ysgol Ddoethurol a\u2019i phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p>Ym maes TG a Rheolaeth Addysg Uwch y mae ei chefndir. Ar \u00f4l cwblhau ei gradd Meistr gyntaf mewn Rhaglenni Cyfrifiadurol yn y College of Engineering Trivandrum (CET), yr India, bu\u2019n gweithio fel hyfforddwr cyfrifiaduron mewn sefydliadau yn yr India ac Oman. Yna bu Aashu yn gweithio i\u2019r Middle East College (MEC), Oman, sef sefydliad Addysg Uwch o fri sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Phrifysgol Coventry (DU) fel darlithydd Cyfrifiadureg. Yn ystod ei hamser yn y sefydliad, bu\u2019n gweithio hefyd fel Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a Swyddog Polisi, yn cydlynu a rheoli nifer o wahanol brosiectau oedd yn ymwneud ag Archwilio a Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch. Mae\u2019r holl brofiadau hyn wedi ei helpu i gael gwybodaeth werthfawr am weinyddu a rheoli ym maes addysg uwch.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu: 01248 382357 \/ <a href=\"mailto:a.jayadeep@bangor.ac.uk\">a.jayadeep@bangor.ac.uk<\/a><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<hr \/>\n<p><a name=\"Mererid\"><\/a><\/p>\n<h3><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-8426\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/20210707_104201-2-227x300.jpg\" alt=\"\" width=\"168\" height=\"222\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/20210707_104201-2-227x300.jpg 227w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/20210707_104201-2-775x1024.jpg 775w\" sizes=\"auto, (max-width: 168px) 100vw, 168px\" \/>Mererid Haf Gordon<br \/>\n<\/strong>Swyddog Dylunio, Marchnata a Chyhoeddusrwydd KESS 2<\/h3>\n<p>Mae Mererid wedi\u2019i lleoli gyda\u2019r t\u00eem KESS 2 canolog ym Mhrifysgol Bangor yn cefnogi elfennau marchnata, cyhoeddusrwydd a chyfathrebu gweledol y prosiect. Mae hyn yn cynnwys casglu a rhannu newyddion a straeon llwyddiant KESS 2, cyd-gynllunio digwyddiadau allweddol gyda\u2019r t\u00eem a chynhyrchu deunyddiau marchnata newydd tra\u2019n monitro cysondeb ac arddull y brand yn gyffredinol. Ochr yn ochr \u00e2 Rheolwr Cymru KESS 2, mae Mererid yn bwynt cyswllt ar gyfer partneriaid KESS 2 ledled Cymru i roi arweiniad ar ddulliau marchnata megis cyfryngau cymdeithasol, taflenni gwybodaeth, posteri, y wefan, canllawiau brandio gan helpu i gydlynu ymdrechion marchnata yn \u00f4l yr angen.<\/p>\n<p>Mae Mererid wedi gweithio ym Mhrifysgol Bangor er mis Mehefin 2013, gan ymuno \u00e2 th\u00eem KESS ym mis Rhagfyr 2014. Arferai weithio ar y rhaglen a noddwyd drwy\u2019r UE, GO Wales, ac felly mae ei phrofiad o brosiectau sy\u2019n gweithredu drwy arian allanol o\u2019r math hwn yn addas iawn wrth weithio i gyfleu nodau ac egwyddorion sylfaenol KESS 2.<\/p>\n<p>A hithau wedi ennill ei BA (anrh) mewn Celfyddydau Graffeg yn 2011, mae maes arbenigedd Mererid yn caniat\u00e1u iddi gyfuno ei gwybodaeth gefndirol gyda sgiliau cyfathrebu a dylunio gweledol wrth greu deunydd newydd ar gyfer KESS 2, gan weithio\u2019n greadigol i farchnata ac ennyn cyhoeddusrwydd i\u2019r prosiect.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu: 01248 388715 \/ <a href=\"mailto:m.h.gordon@bangor.ac.uk\">m.h.gordon@bangor.ac.uk<\/a> <\/strong><\/p>\n<hr \/>\n<p><a name=\"Sandra\"><\/a><\/p>\n<h3><strong><br \/>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-1664\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/slr.png\" alt=\"Sandra Roberts\" width=\"170\" height=\"218\" \/>Sandra Roberts<br \/>\n<\/strong>Swyddog Monitro KESS 2<\/h3>\n<p>Mae Sandra yn gyfrifol am fonitro cynnydd a chanlyniadau ysgoloriaethau KESS 2, ar gyfer Prifysgol Bangor a phrifysgolion eraill yng Nghymru sy\u2019n bartneriaid yn y cynllun. Mae\u2019n delio \u00e2\u2019r system rheoli data ar gyfer y prosiect i gasglu a chyflwyno adroddiadau am allbynnau ar gyfer Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), ac mae\u2019n ofynnol iddi gynorthwyo gyda gwybodaeth ar gyfer archwiliadau a gwiriadau dilysu. Mae hefyd yn cydlynu cyrsiau sefydlu ar gyfer myfyrwyr, academyddion a goruchwylwyr cwmn\u00efau.<\/p>\n<p>Bu Sandra gyda\u2019r Brifysgol er 1990. Treuliodd saith mlynedd yn y Swyddfa Gyllid ac wedyn fel Uwch Swyddog Clercyddol a Swyddog Cefnogi Prosiectau ar gyfer y Swyddfa Ymchwil a Menter. Mae hi wedi gweithio gyda phrosiectau a ariannwyd gan ESF ar gyfer ardaloedd Amcan 1, 3, 5b ac ardaloedd y rhaglen Gydgyfeirio, ysgoloriaethau Meistr a addysgir yn bennaf. Y rhai mwyaf diweddar oedd Mynediad i Gyrsiau Meistr (dan arweiniad Prifysgol Abertawe) a KESS (dan arweiniad Bangor), mae\u2019r prosiectau ESF cydweithredol hyn yn ariannu prosiectau Meistr (ATM) a phrosiectau PhD a Meistr Ymchwil (KESS). Mae ei phrofiad yn cynnwys asesu pwy sy\u2019n gymwys gyda cheisiadau ysgoloriaeth, paratoi contractau, datblygu a chynnal systemau data, rheoli taflenni amser a chyflogau myfyrwyr, monitro ariannol ac anariannol, a gwneud adroddiadau ar gyfer WEFO, archwiliadau a gwerthuswyr allanol.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu: 01248 382501 \/ <a href=\"mailto:s.l.roberts@bangor.ac.uk\">s.l.roberts@bangor.ac.uk<\/a><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<hr \/>\n<p><a name=\"Dawn\"><\/a><\/p>\n<h3><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-1882\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/dd-1.png\" alt=\"Dawn Davies\" width=\"170\" height=\"218\" \/>Dawn Davies <\/strong><br \/>\nCydlynydd Ariannol Prosiect KESS 2 Dwyrain<\/h3>\n<p>Mae Dawn yn gweithio yn y swyddfa gyllid, gyda Brian Murcutt, ac yn darparu cymorth gweinyddol ac ariannol ar gyfer prosiect KESS 2. Mae prif gyfrifoldebau Dawn yn cynnwys paratoi hawliadau rheolaidd ar gyfer darpariaeth Bangor, cyhoeddi a chadw golwg ar anfonebau am gyfraniadau ariannol y cwmn\u00efau sy\u2019n bartneriaid yn KESS 2, sicrhau bod myfyrwyr yn gymwys a chydlynu\u2019r broses o dalu lwfansau cyflog misol i\u2019r myfyrwyr ar amser ar \u00f4l iddynt gyflwyno eu taflenni amser. Hi hefyd sy\u2019n gweinyddu\u2019r wybodaeth gyllidebol reolaidd ar gyfer myfyrwyr ac academyddion ac mae\u2019n cynorthwyo gydag archwiliadau a gwiriadau dilysu KESS 2.<\/p>\n<p>Mae Dawn wrthi\u2019n astudio ar gyfer ei chymhwyster AAT, i ddatblygu ei sgiliau a\u2019i gwybodaeth ymhellach. Yn ei hamser hamdden mae Dawn yn mwynhau treulio amser gyda\u2019i theulu a\u2019i hanifeiliaid anwes. Mae hi\u2019n ddilynwr selog ar d\u00eem rygbi ei mab (RGC \u2013 Rygbi Gogledd Cymru) ac fel teulu maent yn mwynhau mynd i gynifer o gemau \u00e2 phosibl i ddangos eu cefnogaeth.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu: 01248 382846 \/\u00a0<\/strong><a href=\"mailto:d.davies@bangor.ac.uk\">d.davies@bangor.ac.uk<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<h3><\/h3>\n<h3><b><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-8356\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Picture1-272x300.png\" alt=\"\" width=\"170\" height=\"187\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Picture1-272x300.png 272w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Picture1.png 545w\" sizes=\"auto, (max-width: 170px) 100vw, 170px\" \/>Dafydd Jones<br \/>\n<\/b>Swyddog Dylunio, Marchnata a Chyhoeddusrwydd KESS 2<\/h3>\n<p>Mae Dafydd yn rhan o d\u00eem canolog KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor ac mae&#8217;n cefnogi agweddau marchnata, cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddusrwydd y prosiect ochr yn ochr \u00e2 Mererid. Mae Dafydd hefyd yn cynorthwyo Rheolwr KESS 2 Cymru \u00e2 phostio hysbysebion ysgoloriaeth ac yn chwarae rhan bwysig yn helpu i gasglu astudiaethau achos a straeon newyddion o bob rhan o Gymru.<\/p>\n<p>Graddiodd Dafydd o Brifysgol Bangor gydag MA mewn Busnes a Marchnata yn 2019. Mae\u2019n mwynhau ffotograffiaeth yn ei amser hamdden, bob amser gyda chamera mewn llaw wrth ymweld \u00e2 lleoedd newydd ac threulio amser gyda theulu a ffrindiau.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu: 01248 388524 \/ <a href=\"mailto:abu43f@bangor.ac.uk\">abu43f@bangor.ac.uk<\/a><\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>T\u00eem Canolog KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor Penny Dowdney Rheolwr KESS 2\u00a0Cymru \/ Rheolwr Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor Mae Penny wedi gweithio ym Mhrifysgol Bangor dros y 15 mlynedd diwethaf. Graddiodd Penny yn wreiddiol o Brifysgol Aberystwyth, cyn symud ymlaen i wneud cyrsiau \u00f4l-raddedig mewn Addysg, gan arbenigo mewn Addysg Uwch ac yn ddiweddarach mewn&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/contacts\/staff-profiles\/\" title=\"DarllenProffiliau Staff\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":2485,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1568","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1568","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1568"}],"version-history":[{"count":47,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1568\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9849,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1568\/revisions\/9849"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2485"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1568"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}