{"id":3080,"date":"2017-08-31T11:52:03","date_gmt":"2017-08-31T10:52:03","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?page_id=3080"},"modified":"2017-09-05T10:12:50","modified_gmt":"2017-09-05T09:12:50","slug":"press-release-notes","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/press-release-notes\/","title":{"rendered":"Paratoi Datganiad i&#8217;r Wasg"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae datganiadau i\u2019r wasg yn ddefnyddiol ar gyfer tynnu sylw\u2019r cyfryngau at eich prosiect neu eich llwyddiannau unigol. Yn KESS 2, rydym yn hoffi clywed am gynnydd a newyddion da ein holl gyfranogwyr! Os ydych chi\u2019n Fyfyriwr, yn Academydd, yn Bartner Cwmni neu\u2019n Gyn-fyfyriwr, gall t\u00eem KESS 2 eich helpu chi i hybu a rhoi cyhoeddusrwydd i\u2019ch straeon a\u2019ch gweithgareddau drwy&#8217;r <a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/category\/news\/\">dudalen Newyddion<\/a>\u00a0ac ar Twitter <a href=\"https:\/\/twitter.com\/KESS_Central\" target=\"_blank\">@KESS_Central.<\/a><\/strong><\/p>\n<p>Dyma ambell awgrym a chyngor i\u2019ch helpu chi i ysgrifennu datganiad i\u2019r wasg effeithiol:<\/p>\n<h3><strong>1. Gwnewch yn si\u0175r bod y wybodaeth yn deilwng o le yn y newyddion<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Eitemau newyddion yw datganiadau i\u2019r wasg a dylent gynnwys gwybodaeth sy\u2019n deilwng o sylw newyddion: mae hynny\u2019n golygu gwybodaeth newydd a manwl gywir sy\u2019n amserol, yn berthnasol ac yn ddiddorol.<\/li>\n<li>Gofynnwch i chi eich hun, \u201cSut mae hyn yn berthnasol i fywyd bob dydd? Sut mae\u2019n effeithio ar y dyn ar y stryd? Pam ddylen nhw fod \u00e2 diddordeb yn yr hyn sydd gen i i\u2019w ddweud?\u201d<\/li>\n<li>Gall y pynciau fod yn ymchwil newydd\/datblygiadau newydd, digwyddiadau anarferol neu unigryw, llwyddiannau nodedig iawn gan randdeiliaid neu fyfyrwyr, ymweliadau pwysig neu ddigwyddiadau.<\/li>\n<\/ul>\n<div id=\"attachment_3114-2\" style=\"width: 1050px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3114-2\" class=\"wp-image-3114 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/AnnualEvent-Photo.jpg\" alt=\"KESS 2 Annual Event 2017\" width=\"1040\" height=\"460\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/AnnualEvent-Photo.jpg 1040w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/AnnualEvent-Photo-300x133.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/AnnualEvent-Photo-1024x453.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1040px) 100vw, 1040px\" \/><p id=\"caption-attachment-3114-2\" class=\"wp-caption-text\">Cofiwch gynnwys llun i gyd-fynd \u00e2\u2019ch datganiad. Gall lluniau benderfynu a yw stori\u2019n cael ei defnyddio ai peidio!<\/p><\/div>\n<h3><strong>2. Cadwch bethau&#8217;n syml<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Dylai datganiadau i\u2019r wasg ddefnyddio iaith bob dydd, gan osgoi geiriau a brawddegau hir (ceisiwch gadw\u2019r brawddegau\u2019n llai na 25 gair).<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 defnyddio gormod o jargon. Os oes rhaid defnyddio iaith academaidd, mae cyflwyno cyd-destun neu enghreifftiau o help, i gyfathrebu\u2019r pwnc yn effeithiol i gynulleidfa heb fod yn academaidd.<\/li>\n<li>Byddwch yn fyr ac yn gryno. Peidiwch \u00e2 defnyddio mwy na 450 o eiriau ac mae cyfanswm sy\u2019n nes at 250 yn well.<\/li>\n<li>Ysgrifennwch ddatganiadau i\u2019r wasg yn y trydydd person. Defnyddiwch \u2018mae o\u2019, \u2018mae hi\u2019 a \u2018maen nhw\u2019 yn hytrach na \u2018rydw i\u2019 \u2018rydym ni\u2019 a \u2018ni\u2019<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 \u201chysbysebu\u201d. Newyddion ydi\u2019r maes. Cadwch at y ffeithiau.<\/li>\n<\/ul>\n<h3><strong>3. Cydnabod ein cyllidwyr<\/strong><\/h3>\n<p>Mae holl brosiectau KESS 2 yn cael eu cyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a rhaid cydnabod hynny. <strong>Gwnewch yn si\u0175r bod pob stori\u2019n cynnwys cyfeiriad at gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop a KESS 2<\/strong> \u2013 gall hyn hefyd helpu i wneud y stori\u2019n ddiddorol oherwydd mae\u2019n dangos sut mae cyllid yr UE o fudd i ymchwil a datblygu yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio&#8217;r testun canlynol at ddiben cyfeirio, neu ei gynnwys yn eich stori:<\/p>\n<p><em>Mae Ysgoloriaethau Sgiliau&#8217;r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch ledled Cymru sy\u2019n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Caiff ei hariannu&#8217;n rhannol gan raglen cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a&#8217;r Cymoedd.<\/em><\/p>\n<h3><strong>4. Strwythuro eich datganiad i\u2019r wasg<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Wrth ysgrifennu eich stori, mae pum peth yn hanfodol fel canllaw: <strong>Pwy<\/strong>, <strong>Beth<\/strong>, <strong>Ble<\/strong>, <strong>Pryd<\/strong> a <strong>Pham<\/strong>.<\/li>\n<li>Ysgrifennwch y darn pwysicaf o wybodaeth neu\u2019r elfen fwyaf trawiadol yn y paragraff cyntaf (<strong>Pwy<\/strong>, <strong>Beth<\/strong>, <strong>Ble<\/strong>, <strong>Pryd<\/strong>)<\/li>\n<li>Mae\u2019r paragraffau canlynol yn chwarae r\u00f4l ategol, gan ychwanegu mwy o wybodaeth a safbwyntiau neu farn bersonol mewn dyfyniadau. Rhowch y stori yn ei chyd-destun &#8211; <strong>Pam<\/strong> mae\u2019n bwysig a sut daeth i fod.<\/li>\n<li>Cofiwch gynnwys manylion cyswllt bob amser (rhif ff\u00f4n ac e-bost) ar waelod y datganiad i\u2019r wasg a gwnewch yn si\u0175r bod y person cyswllt a enwir ar gael i ymateb i unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau, rhag i chi golli unrhyw gyfleoedd dilynol am gyhoeddusrwydd.<\/li>\n<\/ul>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-3181\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/InvertedPyramid-PR-Cy.png\" alt=\"Inverted Pyramid \" width=\"586\" height=\"508\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/InvertedPyramid-PR-Cy.png 996w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/InvertedPyramid-PR-Cy-300x260.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 586px) 100vw, 586px\" \/>\n<h3><strong>5. Ac yn olaf&#8230;<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Meddyliwch am ddelweddau i gyd-fynd \u00e2\u2019ch datganiad a chofiwch gynnwys <strong>llun<\/strong> os yw hynny\u2019n bosib &#8211; gall lluniau benderfynu a yw stori\u2019n cael ei defnyddio ai peidio.\u00a0 Hefyd ystyriwch gynnwys fideos\/delweddau\u2019n symud ar gyfer cynnwys ar-lein.<\/li>\n<li>Meddyliwch pwy fydd ar gael i roi unrhyw gyfweliadau\/ateb unrhyw gwestiynau pellach a hefyd a fydd siaradwr Cymraeg ar gael.<\/li>\n<li>Cytunwch ar ddyddiad rhyddhau ar gyfer y stori &#8211; ar gyfer straeon ymchwil, efallai y bydd rhaid i chi ystyried cyfrinachedd\/protocol rhyngrwyd\/embargo.<\/li>\n<li>Rhaid i ddatganiadau i\u2019r cyfryngau fod yn ddwyieithog. Gall t\u00eem canolog KESS 2 helpu gyda chael cyfieithiad o\u2019r testun terfynol y cytunwyd arno. Anfonwch e-bost i <a href=\"mailto:kess2@bangor.ac.uk\">kess2@bangor.ac.uk<\/a> am help.<\/li>\n<\/ul>\n<h3><strong>Cysylltiadau defnyddiol:<\/strong><\/h3>\n<p><strong>Gallwch glicio i lawrlwytho&#8217;r canllaw defnyddiol yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Paratoi-Datganiad-ir-Wasg-KESS-2.pdf\" target=\"_blank\">Paratoi Datganiad i&#8217;r Wasg (PDF)<\/a>\u00a0\u00a0<\/strong><em>[yn agor mewn tab newydd]<\/em><\/p>\n<p>Gellir cael rhagor o gyfarwyddyd am ddatganiadau i&#8217;r cyfryngau o Swyddfa\u2019r Wasg eich Prifysgol neu eich Cwmni. Ar gyfer Prifysgol Bangor ewch i: <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/ccm\/press-office.php.en\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/ccm\/press-office.php.en<\/a>\u00a0<em>[yn agor mewn tab newydd]<\/em><\/p>\n<p>The Guardian<em>: How to write an effective press release<\/em> gan Janet Murray (Gorffennaf 2014) <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/small-business-network\/2014\/jul\/14\/how-to-write-press-release\">https:\/\/www.theguardian.com\/small-business-network\/2014\/jul\/14\/how-to-write-press-release<\/a>\u00a0<em>[yn agor mewn tab newydd]<\/em><\/p>\n<p>ProCopywriters: <em>How to write an effective press release<\/em> gan Lorraine Forrest-Turner (Medi 2015) <a href=\"https:\/\/www.procopywriters.co.uk\/2015\/09\/how-to-write-an-effective-press-release\/\">https:\/\/www.procopywriters.co.uk\/2015\/09\/how-to-write-an-effective-press-release\/<\/a>\u00a0<em>[yn agor mewn tab newydd]<\/em><\/p>\n<p><em>Nid yw KESS 2 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. <\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae datganiadau i\u2019r wasg yn ddefnyddiol ar gyfer tynnu sylw\u2019r cyfryngau at eich prosiect neu eich llwyddiannau unigol. Yn KESS 2, rydym yn hoffi clywed am gynnydd a newyddion da ein holl gyfranogwyr! Os ydych chi\u2019n Fyfyriwr, yn Academydd, yn Bartner Cwmni neu\u2019n Gyn-fyfyriwr, gall t\u00eem KESS 2 eich helpu chi i hybu a rhoi&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/press-release-notes\/\" title=\"DarllenParatoi Datganiad i&#8217;r Wasg\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3080","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3080","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3080"}],"version-history":[{"count":47,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3080\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3184,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3080\/revisions\/3184"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3080"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}