{"id":5,"date":"2016-01-05T12:47:35","date_gmt":"2016-01-05T12:47:35","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?page_id=5"},"modified":"2023-07-24T16:50:00","modified_gmt":"2023-07-24T15:50:00","slug":"business","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/business\/","title":{"rendered":"Partneriaid Cwmni"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h1>Partneriaid Cwmni KESS 2<\/h1>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/about\/\">KESS 2<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/east\/\">KESS 2 Dwyrain<\/a> yn darparu cyfleoedd PhD a Meistr Ymchwil wedi\u2019u hariannu ledled Cymru hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023. Cefnogir y ddwy raglen gan\u00a0Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth\u00a0Cymru ac maent yn cynnwys holl brifysgolion Cymru, dan arweiniad Prifysgol Bangor. Yn dilyn rhaglen lwyddiannus gyntaf KESS (2009-2014), bydd KESS 2 a KESS 2 Dwyrain yn darparu dros 645 o ysgoloriaethau yn ystod eu cyfnodau gweithredu.<\/p>\n<p>Mae prosiectau KESS 2 yn unigryw gan eu bod wedi\u2019u teilwra i ddarparu ymchwil cyffrous ac arloesol wrth\u00a0gwrdd ag anghenion busnes gweithredol neu ei\u00a0sector. Rhaid i\u2019r ymchwil a wneir drwy brosiect KESS\u00a02 gyd-fynd ag un o bedwar Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru sef: Gwyddorau Bywyd ac Iechyd; Peirianneg a Deunyddiau Uwch; Carbon Isel, Ynni a&#8217;r Amgylchedd; TGCh a&#8217;r Economi Ddigidol.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cRoedd grant KESS 2 yn gyfle gwych i ni ddod ag ymchwilydd ifanc i mewn. Mae&#8217;n dod \u00e2 manteision enfawr. Rydym yn cael ein gwneud yn ymwybodol o gyfleoedd, darnau newydd o offer, elfennau newydd o gyllid, newidiadau mewn deddfwriaeth a newidiadau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin \u00e2 phethau. Rydyn ni&#8217;n dod yn ymwybodol o&#8217;r rhain yn syml trwy&#8217;r rhyngweithio.&#8221;<\/p>\n<p>Dr Andy Pitman, Lignia Wood<\/p><\/blockquote>\n<p>I berchnogion a rheolwyr busnes, un o&#8217;r manteision mwyaf yw gallu canolbwyntio sgiliau ar faes ymchwil sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;u busnes &#8211; rhywbeth nad yw&#8217;n bosibl yn aml heb adnoddau ychwanegol costus. Mae\u2019r cyhoeddusrwydd cadarnhaol a\u2019r cysylltiadau ynghylch prosiectau KESS 2 yn aml yn golygu bod busnesau wedi cael elw rhagorol ar eu buddsoddiad ymhell cyn cyhoeddi canlyniadau\u2019r ymchwil, neu cyn i\u2019w heffaith deimlo. Mae adborth gan gyfranogwyr blaenorol yn dangos bod cwmn\u00efau wir yn gwerthfawrogi\u2019r cyswllt y maent yn ei adeiladu gyda\u2019r prifysgolion, ac mae hyn yn aml wedi arwain at gydweithrediadau eraill.<\/p>\n<h2>Manteision KESS 2 i gwmn\u00efau<\/h2>\n<p>Mae prosiectau KESS 2 yn gyfle gwerthfawr i gael ymchwilydd \u00f4l-raddedig i weithio ar faes penodol i&#8217;r busnes. Mae llawer o fanteision i bartneriaid cwmni KESS 2 gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Datblygu diwylliant ymchwil o fewn eu sefydliad<\/li>\n<li>Gosod eu sefydliad fel llais awdurdod ac arweinydd marchnad yn eu sector<\/li>\n<li>Profi honiadau, canfyddiadau a phrofiadau ynghylch eu cynnyrch, gwasanaeth neu frand<\/li>\n<li>Sefydlu a chynnal cysylltiadau gwerthfawr gyda&#8217;u prifysgol leol<\/li>\n<li>Denu a chefnogi datblygiad ymchwilwyr newydd yn eu cwmni<\/li>\n<li>Gan fanteisio ar y gost mynediad isel iawn ar gyfer enillion posibl y prosiect<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Partneriaid cwmni ledled Cymru<\/h2>\n<p>Gall amrywiaeth o gwmn\u00efau a sefydliadau gymryd rhan yn KESS 2, gan gynnwys Cwmn\u00efau Micro, BBaChau, Cwmn\u00efau Mawr, y Trydydd Sector a Mentrau Cymdeithasol. Mae gan KESS 2 <strong>453 o gwmn\u00efau<\/strong> ar ein cronfa ddata sydd wedi bod yn ymwneud \u00e2\u2019r prosiect ac mae <strong>61% o\u2019r sefydliadau sy\u2019n cymryd rhan yn KESS 2 yn BBaChau<\/strong>. Mae ein <a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/a-z-company-partners\/\">Map Partner Cwmni<\/a> a gasglwyd yn ddiweddar yn dangos cwmpas eang partneriaid cwmni yr ydym wedi cydweithio \u00e2 hwy o bob rhan o Gymru hyd yn hyn, gyda&#8217;r nifer hwn yn cynyddu wrth i brosiectau newydd gael eu creu a&#8217;u cychwyn.<\/p>\n<h2>Beth a ddisgwylir gan bartner cwmni KESS 2?<\/h2>\n<ul>\n<li>Bod gan y cwmni sylfaen weithredol o fewn Ardal Gydgyfeirio Cymru (<a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/ConvergenceMap.pdf\">cliciwch i weld y map<\/a>) ar gyfer prosiectau KESS 2 (Gorllewin) neu yn Nwyrain Cymru (ardaloedd nad ydynt wedi&#8217;u cynnwys yn yr Ardal Gydgyfeirio) ar gyfer prosiectau KESS 2 Dwyrain.<\/li>\n<li>Bod goruchwyliwr cwmni yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd cynnydd chwarterol a chwblhau adroddiadau cynnydd.<\/li>\n<li>Y gall y cwmni ddarparu o leiaf <strong>30 diwrnod<\/strong> o leoliad y flwyddyn ar gyfer yr ymchwilydd \u00f4l-raddedig yn y cwmni, yn amodol ar gytundeb rhwng y cwmni a goruchwylwyr academaidd. Gall hyn fod yn hyblyg yn dibynnu ar y prosiect.<\/li>\n<li>Y gall cynrychiolydd cwmni oruchwylio&#8217;r ymchwilydd \u00f4l-raddedig tra&#8217;i fod ar leoliad o fewn y cwmni.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gyflogi eich ysgolor KESS 2\u00a0ar ddiwedd yr ymchwil, er y byddai hwn yn ganlyniad rhagorol i\u2019r prosiect.<\/p>\n<div id=\"accordion-2\" class=\"accordion no-js\" role=\"tablist\" aria-multiselectable=\"true\"><h3 id=\"accordion-2-t1\" class=\"accordion-title\" role=\"tab\" aria-controls=\"accordion-2-c1\" aria-selected=\"false\" aria-expanded=\"false\" tabindex=\"0\" >Cyfraniadau Arian Parod y Cwmni ar gyfer KESS 2 (Gorllewin)<\/h3><div id=\"accordion-2-c1\" class=\"accordion-content\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"accordion-2-t1\" aria-hidden=\"true\"><\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfraniadau arian y cwmni ar gyfer prosiectau KESS 2 wedi eu nodi ar y siart isod. Mae holl gyfraniadau arian parod yn <strong>amodol ar TAW<\/strong> (dylai partneriaid gael cyngor gan eu Hadran Gyllid).<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><em>Cyfraniadau Ariannol Cwmni KESS 2 <span style=\"color: #000000;\">(<\/span><a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CCchart_web_Cym.png\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cliciwch yma i chwyddo&#8217;r siart mewn tab newydd<\/a><span style=\"color: #000000;\">)<\/span><\/em><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-953 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CCchart_web_Cym.png\" alt=\"Cyfraniadau Cwmni\" width=\"1500\" height=\"619\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CCchart_web_Cym.png 1500w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CCchart_web_Cym-300x124.png 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CCchart_web_Cym-1024x423.png 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1500px) 100vw, 1500px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><\/div><h3 id=\"accordion-2-t2\" class=\"accordion-title\" role=\"tab\" aria-controls=\"accordion-2-c2\" aria-selected=\"false\" aria-expanded=\"false\" tabindex=\"0\" >Cyfraniadau Arian Parod y Cwmni ar gyfer KESS 2 Dwyrain<\/h3><div id=\"accordion-2-c2\" class=\"accordion-content\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"accordion-2-t2\" aria-hidden=\"true\"><\/p>\n<h3><strong>Ysgoloriaethau PhD<\/strong><\/h3>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-5018 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-PhD2.png\" alt=\"\" width=\"1171\" height=\"562\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-PhD2.png 1171w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-PhD2-300x144.png 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-PhD2-1024x491.png 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1171px) 100vw, 1171px\" \/>\n<p><em>Mae pob Cyfraniad Ariannol yn destun TAW (dylai partneriaid geisio cyngor gan eu Hadran Cyllid)<\/em><\/p>\n<h3><strong>Ysgoloriaethau Meistr Ymchwil<\/strong><\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-5019 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-MRes2.png\" alt=\"\" width=\"1167\" height=\"593\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-MRes2.png 1167w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-MRes2-300x152.png 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CY-KESS2East-CCC-MRes2-1024x520.png 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1167px) 100vw, 1167px\" \/><em>Mae pob Cyfraniad Ariannol yn destun TAW (dylai partneriaid geisio cyngor gan eu Hadran Cyllid)<\/em><\/p>\n<p><\/div><\/div>\n<h2>Pwy sy\u2019n berchen ar unrhyw HED a ddaw o ganlyniad i\u2019r prosiect?<\/h2>\n<p>Er mwyn dangos eich bod cydymffurfio \u00e2 rheolau Cymorth Gwladwriaethol, bydd unrhyw Eiddo Deallusol a ddaw yn sg\u00eel prosiect KESS 2 yn eiddo i\u2019r brifysgol berthnasol. Bydd ED cefndirol a gafodd ei ddefnyddio mewn cysylltiad \u00e2 phrosiect KESS 2 yn eiddo i\u2019r parti sy\u2019n ei gyflwyno a bydd yn amodol ar ymrwymiadau cyfrinachedd.\u00a0 Bydd y brifysgol berthnasol yn gadael i\u2019r cwmni partner gael y dewis cyntaf ar un ai trwydded gyfyngol neu anghyfyngol i ddefnyddio\u2019r Eiddo Deallusol neu unrhyw HED arall sy\u2019n cael ei gynhyrchu drwy\u2019r prosiect, fel sy\u2019n cael ei drafod rhwng y part\u00efon sydd ynghlwm ag ef.<\/p>\n<h2>Hyfforddiant sgiliau lefel uwch ar gyfer yr ymchwilydd \u00f4l-raddedig<\/h2>\n<p>Mae gan bob ysgoloriaeth KESS 2 raglen hyfforddi sgiliau lefel uwch integredig ar gyfer yr ymchwillydd \u00f4l-raddedig sy\u2019n cymryd rhan, sy\u2019n arwain at <a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/psda-postgraduate-skills-development-award\/\">Ddyfarniad Datblygu Sgiliau \u00d4l-raddedig<\/a>, ac mae\u2019n ymdrin ag unrhyw wybodaeth neu fylchau mewn sgiliau a nodwyd.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Partneriaid Cwmni KESS 2 Mae KESS 2\u00a0a\u00a0KESS 2 Dwyrain yn darparu cyfleoedd PhD a Meistr Ymchwil wedi\u2019u hariannu ledled Cymru hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023. Cefnogir y ddwy raglen gan\u00a0Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth\u00a0Cymru ac maent yn cynnwys holl brifysgolion Cymru, dan arweiniad Prifysgol Bangor. Yn dilyn rhaglen lwyddiannus gyntaf KESS (2009-2014), bydd KESS&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/business\/\" title=\"DarllenPartneriaid Cwmni\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-featbusiness.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-5","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5"}],"version-history":[{"count":257,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9901,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5\/revisions\/9901"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}