{"id":1001,"date":"2016-11-10T12:24:47","date_gmt":"2016-11-10T12:24:47","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=1001"},"modified":"2017-11-16T11:27:37","modified_gmt":"2017-11-16T11:27:37","slug":"positive-psychology-project-aims-to-improve-work-place-wellbeing-and-individuals-job-prospects-in-rhyl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/positive-psychology-project-aims-to-improve-work-place-wellbeing-and-individuals-job-prospects-in-rhyl\/","title":{"rendered":"Project Seicoleg Bositif yn anelu at wella lles yn y gweithle a rhagolygon gwaith i unigolion yn Y Rhyl"},"content":{"rendered":"<p>Mewn byd lle mae&#8217;r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o&#8217;n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy&#8217;n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno.\u00a0 Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno.\u00a0 Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.<\/p>\n<div id=\"attachment_1003\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-1003\" class=\"wp-image-1003 size-medium\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/KateIsherwood-300x258.jpg\" alt=\"Kate Isherwood and Alison Thomas of Rhyl City Strategy.\" width=\"300\" height=\"258\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/KateIsherwood-300x258.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/KateIsherwood.jpg 1000w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-1003\" class=\"wp-caption-text\">Kate yn trafod deunyddiau y mae hi wedi eu cynhyrchu gydag Alison Thomas o RCS.<\/p><\/div>\n<p>Dan Ysgoloriaeth Sgiliau&#8217;r Economi Wybodaeth, bydd Kate yn partneru \u00e2 Strategaeth Dinas Y Rhyl \/ Rhyl City Strategy (RCS), i gael profiad yn y byd go iawn ynghyd \u00e2 phrofiad ymchwil gwerthfawr. Bydd yn cyd-gynllunio ei hastudiaethau PhD gyda&#8217;r fenter a&#8217;u rhoi ar waith yn y byd go iawn.<\/p>\n<p>Kate yw un o&#8217;r rhai cyntaf i dderbyn cyllid dan raglen newydd KESS 2,\u00a0 a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran Sector Addysg Uwch Cymru.\u00a0 Mae KESS2 yn canolbwyntio ar ddatblygiad o fewn y Rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd. Maent yn rhoi cyfle i fyfyrwyr Meistr trwy ymchwil a PhD gael eu cysylltu \u00e2 chwmni partner, gydag ysgoloriaethau&#8217;n cael eu cefnogi gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Fe wnaeth rownd KESS flaenorol lwyddiannus helpu myfyrwyr yng Nghymru i gael 230 o brojectau PhD a 223 o rai Meistr trwy ymchwil.<\/p>\n<p>Meddai Kate:\u00a0 &#8220;Rwy&#8217;n ei theimlo&#8217;n fraint i fod yn un o&#8217;r ychydig fyfyrwyr sydd wedi cael y cyfle i roi fy ymchwil ar waith yn y byd go iawn.\u00a0 Mae&#8217;n wych medru gwneud ymchwil i iechyd meddwl positif a chynhyrchiant yn y gweithle, gydag ymyriadau hawdd y gallwn eu defnyddio bob dydd.\u00a0 Pethau fel cadw dyddiadur tri pheth da, lle rydym yn nodi tri pheth da a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.<\/p>\n<p>Dechreuais fy ymchwil ym mis Mai ac rwy&#8217;n gwirioneddol fwynhau ymchwilio i fyd ysgogiad a materion iechyd meddwl, ac rwy&#8217;n chwilio&#8217;n gyson am fethodolegau arloesol y gallaf eu rhoi ar waith i roi sylw i sialensiau gwirioneddol ymysg y boblogaeth.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Seicoleg Bositif yn faes sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg ar hyn o bryd lle edrychir ar wella gwytnwch unigolion, adeiladu eu cryfderau positif, a hyrwyddo ansawdd bywyd drwyddo draw.\u00a0 Yn hytrach na thrin iechyd meddwl yn benodol, canolbwyntir ar dwf personol ac atal salwch.\u00a0 Bydd Kate yn edrych ar wella lles yn y gweithle drwy ymchwilio i faterion yn cynnwys ysgogiad, dod dros sialensiau a rheoli emosiynau.<\/p>\n<p>Bydd Kate yn gweithio gyda RCS, sefydliad lleol nad yw&#8217;n gwneud elw ac sy&#8217;n cynllunio a chyflwyno gwasanaethau i helpu pobl ddod dros rwystrau i gyflogaeth, megis cyflyrau iechyd.\u00a0 Bydd Kate yn gweithio gyda RCS i ddatblygu ystod o ymyriadau seicoleg bositif i roi hwb i siawns pobl o gael gwaith a dal gafael arno drwy wella gwytnwch ac ysgogiad.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n gweithio dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, a ddywedodd:\u00a0 &#8220;Mae&#8217;r rhaglen KESS yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng y brifysgol a&#8217;r gymuned.\u00a0 Rydym yn datblygu perthynas hir-dymor \u00e2 Strategaeth Dinas Y Rhyl sy&#8217;n ein galluogi i fireinio ein hymyriadau seicolegol fel eu bod yn effeithiol o ran helpu gydag anghenion y boblogaeth leol.&#8221;<\/p>\n<p>Bydd Kate yn gweithio&#8217;n agos hefyd \u00e2 Chyfarwyddwr Gweithredol RCS, Alison Thomas, a ddywedodd:\u00a0 &#8220;Rydym yn hynod falch o weithio gyda Kate a chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor yn y maes ymchwil addawol yma ac rydym yn teimlo&#8217;n hynod gyffrous ynghylch potensial yr ymyriadau syml hyn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.&#8221;<\/p>\n<p><em>Cyhoeddwyd yn gyntaf ar dudalen newyddion Prifysgol Bangor:<\/em><a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/project-seicoleg-bositif-yn-anelu-at-wella-lles-yn-y-gweithle-a-rhagolygon-gwaith-i-unigolion-yn-y-rhyl-29500\">\u00a0https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/project-seicoleg-bositif-yn-anelu-at-wella-lles-yn-y-gweithle-a-rhagolygon-gwaith-i-unigolion-yn-y-rhyl-29500<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mewn byd lle mae&#8217;r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o&#8217;n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy&#8217;n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno.  Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno.  Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,286,278,300,285,302],"class_list":["post-1001","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-business","tag-phd","tag-psychology","tag-students","tag-wellbeing"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1001","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1001"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1001\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3295,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1001\/revisions\/3295"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1001"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1001"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1001"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}