{"id":1018,"date":"2016-11-17T11:32:08","date_gmt":"2016-11-17T11:32:08","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=1018"},"modified":"2017-11-16T11:28:15","modified_gmt":"2017-11-16T11:28:15","slug":"kess-2-scoops-a-double-at-business-insider-awards","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/kess-2-scoops-a-double-at-business-insider-awards\/","title":{"rendered":"KESS 2 yn cipio\u2019r dwbl yng Ngwobrau Business Insider"},"content":{"rendered":"<p>Enillodd KESS 2 \u2018ddwbl\u2019 yng Ngwobrau Partneriaethau Addysg a Busnes 2016 diweddar <em>Business <\/em><em>Insider<\/em>.<\/p>\n<p>Enillodd KESS 2, sy\u2019n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru, y Wobr Partneriaeth ac enillwyd y Wobr am Broses Newydd gan Dr Steffan Thomas o Brifysgol Bangor Recordiau Sain Cyf\/Sain Records Ltd. Roedd hwn hefyd yn brosiect a gyflawnwyd trwy\u2019r cynllun KESS blaenorol a Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).<\/p>\n<div id=\"attachment_1020\" style=\"width: 874px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-1020\" class=\"wp-image-1020 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/WalesBEPA_KESS2.jpg\" alt=\"KESS 2 at WalesBEPA Awards 2016\" width=\"864\" height=\"772\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/WalesBEPA_KESS2.jpg 864w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/WalesBEPA_KESS2-300x268.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><p id=\"caption-attachment-1020\" class=\"wp-caption-text\">Dr Penny Dowdney, Brian Murcutt, Bryn Jones a Dr Steffan Thomas yn derbyn y Wobr Partneriaeth ar gyfer KESS 2 yng Ngwobrau Partneriaethau Addysg a Busnes 2016.<\/p><\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Ysgoloriaethau Sgiliau\u2019r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn gynllun gwerth \u00a336m sy\u2019n cael ei gefnogi gan yr UE i ddatblygu ymchwil \u00f4l-raddedig a sgiliau arloesi mewn partneriaeth \u00e2 busnesau bach a chanolig. Mae\u2019n gynllun Cymru gyfan pwysig sy\u2019n cynnwys pob un o\u2019r wyth Prifysgol yng Nghymru ac mae\u2019n cael cymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru. Yn dilyn y cynllun KESS llwyddiannus dros ben rhwng 2009 a 2014, mae KESS 2 yn awr yn yr ail rownd gyllido a bydd yn cynnig 645 o ysgoloriaethau yn ystod y chwe blynedd nesaf.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:<\/p>\n<p>\u201cRwyf yn falch dros ben bod KESS 2 wedi cael y gydnabyddiaeth hon, mae\u2019n gynllun gwerthfawr sy\u2019n galluogi addysg uwch ledled Cymru i gynnig sgiliau ymchwil a datblygu i raddedigion ac i helpu busnesau a sefydliadau hanfodol Cymru. Mae prosiect KESS gyda Sain, yn enghraifft ardderchog o sut y gall arbenigedd prifysgolion helpu busnesau i dyfu ac i addasu ar gyfer marchnadoedd newydd.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Dr Penny Dowdney, Rheolwr Cymru KESS 2:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n anrhydedd fawr i KESS 2 i ennill y wobr hon ar ran y prifysgolion sydd wedi bod yn gysylltiedig \u00e2\u2019r cynllun. Mae\u2019n dangos sut y gallwn weithio mewn partneriaeth i gyflawni prosiectau ymchwil sy\u2019n cael effaith bellgyrhaeddol mewn cydweithrediad \u00e2 phartneriaid busnes lleol.\u201d<\/p>\n<p>Mae prosiect Dr Steffan Thomas yn enghraifft ragorol o fformat llwyddiannus y prosiect. Fel rhan o brosiect KESS, bu Dr Thomas yn ymchwilio\u2019n fanwl i wahanol agweddau ar Recordiau Sain Cyf, gan gynnwys e-farchnata, ymddygiad defnyddwyr, cyfraith hawlfraint, lladrad hawlfraint, modelau busnes newydd sy\u2019n dod i\u2019r amlwg, yn ogystal ag edrych ar arferion eraill yn y diwydiant cyfryngau. Ar \u00f4l casglu a dadansoddi\u2019r ymatebion i\u2019r arolwg o 1,500 o bobl, datblygwyd model busnes newydd, a oedd yn addas ar gyfer cwmni cynhyrchu sy\u2019n gweithio mewn iaith leiafrifol. Prif ganlyniad y cydweithredu hwn rhwng Prifysgol Bangor a Recordiau Sain Cyf oedd datblygu gwefan newydd a siop ddosbarthu digidol newydd. Mae\u2019r datblygiad hwn wedi gweld cynnydd o 70% yng ngwerthiant digidol y cwmni yn ystod y 12 mis cyntaf a chynnydd o 15% arall o flwyddyn i flwyddyn wedi hynny.<\/p>\n<p>Meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Recordiau Sain Cyf:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r berthynas \u00e2 Phrifysgol Bangor a Dr Steffan Thomas wedi ein galluogi ni yn Sain i fentro\u2019n hyderus, i drosglwyddo ein cynnwys a\u2019n gwasanaethau i fformatau digidol a lansio Apton, gwasanaeth ffrydio newydd i danysgrifwyr. Mae\u2019r datblygiadau hyn yn hanfodol os ydym ni am sicrhau dyfodol cynaliadwy i\u2019r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Mae KEES 2 yn cysylltu busnesau ag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i weithio ar brosiectau ymchwil ar y cyd; mae KESS 2 yn adeiladu ar yr arbenigedd a ddatblygwyd yn ystod cam cyntaf KESS, a\u2019r nod yw meithrin cysylltiadau dyfnach \u00e2 chwmn\u00efau partner yn ogystal \u00e2 ffurfio partneriaethau newydd. Mae Ysgoloriaethau KESS 2 yn datblygu sgiliau lefel uwch, agwedd ar y prosiect sydd o fudd i\u2019r holl gyfranogwyr.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae 83 o brosiectau KESS 2 ar waith, ac mae 137 wedi cael eu cymeradwyo, ac mae gan bob un gysylltiadau busnes \u2013 academaidd cryf gydag ymchwil arloesol yn yr arfaeth. Mae\u2019r ymchwil lefel doethuriaeth cyfredol yn cynnwys prosiectau \u00e2 chwmn\u00efau partner fel: ConvaTec Ltd \u00a0i ddatblygu <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-north-west-wales-36956141\">\u2018Gorchuddion gwrthlidiol ar gyfer wlserau diabetig&#8217;<\/a>; Cwmni Da \u00a0i <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/studentlife\/studentnews\/student-assists-on-major-s4c-series-asking-who-are-the-welsh-youth-20967\">werthuso llwyddiant appiau a deunydd digidol Cymraeg a dwyieithog y cwmni<\/a>; Jellagen; Cultech Ltd; Siemens Healthcare Diagnostics; P&amp;S Nano; Tenovus a llawer mwy.<\/p>\n<p><em>Gallwch hefyd ddarllen y stori yma ar wefan Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor:<\/em> <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/doctoral-school\/newyddion\/kess-2-yn-cipio-r-dwbl-yng-ngwobrau-business-insider-29513\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/doctoral-school\/newyddion\/kess-2-yn-cipio-r-dwbl-yng-ngwobrau-business-insider-29513<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Enillodd KESS 2, sy\u2019n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru, y Wobr Partneriaeth ac enillwyd y Wobr am Broses Newydd gan Dr Steffan Thomas o Brifysgol Bangor Recordiau Sain Cyf\/Sain Records Ltd. Roedd hwn hefyd yn brosiect a gyflawnwyd trwy\u2019r cynllun KESS blaenorol a Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[283,1],"tags":[273],"class_list":["post-1018","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-events","category-news","tag-bangor-university"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1018","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1018"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1018\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3296,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1018\/revisions\/3296"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1018"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1018"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1018"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}