{"id":1790,"date":"2017-01-31T16:06:09","date_gmt":"2017-01-31T16:06:09","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=1790"},"modified":"2022-03-02T11:36:00","modified_gmt":"2022-03-02T11:36:00","slug":"former-kess-phd-student-published-in-nature-communications-following-insightful-environmental-dna-research-of-llyn-padarn-snowdonia","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/former-kess-phd-student-published-in-nature-communications-following-insightful-environmental-dna-research-of-llyn-padarn-snowdonia\/","title":{"rendered":"Former KESS PhD student published in \u2018Nature Communications\u2019 following insightful environmental DNA research of Llyn Padarn, Snowdonia"},"content":{"rendered":"<p>Mae llyn sydd wedi ymddangos ym miloedd o luniau twristiaid o\u2019r Wyddfa hefyd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gwella sut y gellir monitro llynnoedd ac afonydd yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Llyn Padarn, sy\u2019n gorwedd wrth droed yr Wyddfa, oedd man profi ymchwil a all arwain at fonitro amgylcheddau afonydd a llynnoedd yn fwy effeithiol a chyflym. Mae hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Bangor ac eraill, a gyhoeddwyd yn\u00a0<em>Nature Communications<\/em>\u00a0(<a href=\"http:\/\/www.nature.com\/articles\/ncomms14087\">coi10.1038\/ncomms14087<\/a>).<\/p>\n<p>Mae technegau biofonitro newydd, sydd yn defnyddio sampl o dd\u0175r croyw neu dd\u0175r m\u00f4r, yn rhoi ffyrdd cyflymach i chwilio am rywogaethau ac asesu\u2019r amrediad a\u2019r niferoedd o rywogaethau sydd mewn amgylchedd. Gwneir hyn drwy echdynnu ac adnabod darnau microsgopig o DNA \u00a0o blanhigion ac anifeiliaid sydd yn parhau yn y sampl.<\/p>\n<p>Mae\u2019r asiantaethau amgylcheddol ac asiantaethau eraill sy\u2019n gyfrifol am asesu a monitro iechyd yr amgylchedd yn dangos cryn ddiddordeb mewn mabwysiadu\u2019r dechnoleg i gyflymu&#8217;r broses o fonitro amgylcheddol mewn amgylchedd d\u0175r, ac o gynnal monitro amlach neu mewn mwy o leoliadau. Mae\u2019r asiantaethau\u2019n cydweithio gyda phrifysgolion a chwmn\u00efau newydd sydd yn ymateb i\u2019r galw am y\u00a0 gwasanaeth hwn. Hyd yma mae\u2019r dechnoleg wedi ei defnyddio\u2019n bennaf i chwilio am rywogaethau arbennig, yn hytrach nag asesu\u2019r amrediad o rywogaethau sy\u2019n bodoli mewn un man.<\/p>\n<p>\u201cMae cryn ddiddordeb yn y dechnoleg newydd ond, hyd yma, doedd neb yn sicr am ba hyd roedd yr \u2018arwydd\u2019 DNA yn parhau yn y d\u0175r mewn llyn go iawn. A oeddem yn canfod dim ond y creaduriaid oedd yno ar y pryd, ynteu creaduriaid a oedd wedi bod yno &#8211; a faint o amser oedd wedi mynd heibio ers iddynt fod yno? Yr her yr ydym wedi ei ddatrys oedd canfod am ba hyd y mae\u2019r arwydd DNA yn parhau yn yr amgylchedd. \u00a0Yn ffodus, roedd yr \u2018arwydd\u2019 DNA yn dangos yr amrywiad tymhorol arferol, o aeaf i haf, yn union yr un fath \u00e2\u2019r hyn yr ydym yn ei weld mewn grwpiau gwirioneddol o anifeiliaid.\u201d<\/p>\n<p>Bu\u2019r t\u00eem, sy\u2019n arweinwyr ym maes DNA amgylcheddol (eDNA) a bar-codio DNA, yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd gyda chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys y broblem.<\/p>\n<p>Bu\u2019r t\u00eem e-DNA ym Mangor yn monitro Llyn Padarn gan ddefnyddio DNA a dulliau adnabod rhywogaethau traddodiadol dros flwyddyn gron. Fe wnaethant\u00a0 ganfod gwahaniaeth yn nifer rhywogaeth yn \u00f4l y tymor, a gweld cydberthynas agos rhwng canlyniadau samplu DNA a chanlyniadau samplu tacsonomig traddodiadol. Mae\u2019r t\u00eem wedi profi nad yw DNA yn goroesi mewn d\u0175r croyw, ac felly gellir defnyddio dull e-DNA i roi arweiniad dibynadwy i\u2019r anifeiliaid a thrychfilod a geir mewn llyn d\u0175r croyw.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Doug Wilson Pennaeth Ymchwil, Dadansoddi a Gwerthusiad Asiantaeth yr Amgylchedd:<\/p>\n<p>\u201cMae\u00a0 hwn yn waith gwych. Rwyf wedi fy nghyffroi wrth ddysgu mwy am sut y gallwn hel data o eDNA i\u2019n cynorthwyo wrth wneud ein hasesiadau ecolegol yn fwy effeithlon. Dyma pan ein bod yn cydweithio\u2019n agos gyda\u2019r gymuned ymchwil o ddatblygu\u2019r moddau hyn.\u201d<\/p>\n<p>Bydd yr Athro Creer ynghyd \u00e2 th\u00eem o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor, Caerdydd a Birmingham, a\u2019r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, yn canolbwyntio ar yr hyn sy\u2019n digwydd i\u2019r \u2018arwydd\u2019 Edna wrth i\u2019r d\u0175r deithio i amgylchedd yr afon, gyda chefnogaeth grant \u00a3 1.25M gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).<\/p>\n<p>Cyllidwyd y project gan Asiantaeth yr Amgylchedd a thrwy Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS), menter sgiliau uwch bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru.\u00a0 Fe&#8217;i cyllidir yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a&#8217;r Cymoedd. Derbyniodd y t\u00eem budd ariannol pellach gan grant peilot Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, (NERC) a Gwobr Gilson Le Cran 2014 y Freshwater Biological Association.<\/p>\n<p>Diolch i Gyfoeth Naturiol Cymru am y fideo\u00a0anhygoel o&#8217;r pysgod Torgoch prin o Lyn Padarn Hawlfraint Walter Hanks,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/NatResWales\/\">Cyfoeth Naturiol Cymru \/ Natural Resources Wales<\/a><\/p>\n<p><em>Wedi ei gyhoeddi yn wreiddiol ar dudalen newyddion Prifysgol Bangor:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/newyddion\/dna-yn-datgelu-newidiadau-tymhorol-ym-mhoblogaeth-llyn-eiconig-yn-eryri-30841\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/newyddion\/dna-yn-datgelu-newidiadau-tymhorol-ym-mhoblogaeth-llyn-eiconig-yn-eryri-30841<\/a><\/em><\/p>\n<p><em>Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyn-fyfyrwraig PhD KESS, Dr Iliana Bista, wedi cyhoeddi ei hymchwil ddiweddaraf yn &#8216;Nature Communications&#8217; gyda astudiaethau sy&#8217;n canolbwyntio ar DNA amgylcheddol yn Llyn Padarn ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Darllenwch y stori llawn ar dudalen newyddion Prifysgol Bangor yma: <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/biology\/newyddion\/dna-yn-datgelu-newidiadau-tymhorol-ym-mhoblogaeth-llyn-eiconig-yn-eryri-30841\">www.bangor.ac.uk\/biology\/newyddion<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1795,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[287,273,437,285,469],"class_list":["post-1790","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-alumni","tag-bangor-university","tag-publication","tag-students","tag-wwd2022"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1790","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1790"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1790\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4423,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1790\/revisions\/4423"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1795"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1790"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1790"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1790"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}