{"id":3064,"date":"2017-08-29T16:05:47","date_gmt":"2017-08-29T15:05:47","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=3064"},"modified":"2017-11-16T17:08:06","modified_gmt":"2017-11-16T17:08:06","slug":"developing-new-long%e2%80%92range-micro-backpacks-for-bees","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/developing-new-long%e2%80%92range-micro-backpacks-for-bees\/","title":{"rendered":"Datblygu paciau cefn bychain i wenyn"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy\u2019r tirlun yn datblygu\u2019n dda yn \u00f4l gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor.<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-medium wp-image-3428\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/bee-259983_1280-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/bee-259983_1280-300x200.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/bee-259983_1280-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/bee-259983_1280.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi dr\u00f4nau bach i\u2019w dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn<\/p>\n<p>Bydd hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae\u2019r gwenyn yn casglu neithdar a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.<\/p>\n<p>Bydd y ddyfais ysgafn, sy\u2019n dilyn hynt y gwenyn dros gryn bellter, yn defnyddio ynni trydanol y gwenyn ei hun ar gyfer ei bweru, ac mae\u2019r gwyddonwyr newydd brofi eu gallu i wneud hyn.<\/p>\n<p>Y cam nesaf yw profi\u2019r paciau cefn mewn twnnel, ac mae\u2019r gwyddonwyr yn gobeithio gwneud hyn yn ystod y misoedd nesaf.<\/p>\n<p>Fel yr eglurodd Paul Cross o\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/senrgy\/index.php.cy\">Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth<\/a>:<\/p>\n<p>\u201cMae poblogaethau gwenyn, sy&#8217;n hanfodol i beillio planhigion a choed, yn dirywio&#8217;n gyflym ar hyn o bryd o ganlyniad i sawl peth, yn blaleiddiaid a gwiddon varroa i enwi ond dau.<\/p>\n<p>Bydd \u00a0gallu i defnyddio\u2019r ficrodechnoleg ddiweddaraf er mwyn medru dilyn hynt gwenyn dros yr holl bellter y maent yn teithio yn ddefnyddiol ar gyfer sawl achlysur. Mae pryfleiddiaid neonicotinaidd ac eraill er enghraifft yn effeithio ar allu\u2019r gwenyn i fordwyo. Bydd \u00a0gallu eu dilyn yn bell yn ein galluogi i ganfod sut mae\u2019r neonicotinoidau yn effeithio ar eu synnwyr cyfeiriad. Bydd defnyddiau eraill yn cynnwys dilyn y gacynen Asiaidd sydd yn fygythiad difrifol i sawl rhywogaeth o wenyn yn Ewrop, gyda\u2019r bwriad o\u2019u rheoli neu eu difa cyn ei bod yn rhy hwyr.\u201d<\/p>\n<p>Esboniodd Dr Cristiano Palego, arbenigwr microsystemau yn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/eng\/index.php.cy\">Ysgol Peirianneg Electronig<\/a>\u00a0y Brifysgol:<\/p>\n<p>\u201cMae cyfyngiadau o ran y defnydd y gellir ei wneud o declynnau presennol i fonitro gwenyn oherwydd eu pwysau, y pellter y gallant weithredu drosto a pha mor hir y mae eu ffynhonnell b\u0175er yn parhau &#8211; dyma\u2019r problemau yr ydym wedi ceisio\u2019u goresgyn gan ddefnyddio\u2019r dechnoleg ficro ddiweddaraf.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi profi ein gallu i hel a defnyddio ynni electronig y gwenyn er mwyn cael gwared \u00e2\u2019r angen i ddefnyddio batri a bydd ein teclyn tracio hunangynhaliol yn pwyso ond tua thraean pwysau corff y gwenyn a llai na diferyn o law. Mae hyn yn datrys problemau pwysau a bywyd y batri.\u201d<\/p>\n<p>\u201cEin cam nesaf yw datblygu derbynnydd symudol a dilyn y signal a yrrir gan y gwenyn wrth iddo symud ar draws y tir.\u201d<\/p>\n<p>Fel yr eglurodd Paul Cross:<\/p>\n<p>&#8220;Mewn gwirionedd mae hyn yn debyg i wenyn yn cario rycsac &#8211; o&#8217;i gymharu \u00e2 chario&#8217;r hyn sy&#8217;n cyfateb i fwrdd y gegin a chadeiriau ar ei gefn fel sy&#8217;n digwydd ar hyn o bryd!&#8221;<\/p>\n<p>Cyllidir y project cychwynnol drwy raglen Ysgoloriaethau Sgiliau&#8217;r Economi Wybodaeth (KESS).\u00a0 Y sefydliad sy&#8217;n bartner yn y fenter yw The Apiary Enterprise Limited, sy&#8217;n awyddus i gyllido ymchwil i ddulliau tracio gwenyn m\u00eal mewn amgylcheddau tymherus a throfannol er mwyn gweld pa mor bell mae&#8217;r gwenyn yn ei deithio i gasglu eu bwyd dan wahanol amodau hinsawdd ac amgylcheddol.\u00a0 Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fwy manwl a chynhwysfawr i&#8217;r cwmni wrth benderfynu lle i sefydlu gwenynfeydd newydd.<\/p>\n<p><em>Wedi&#8217;i gyhoeddi yn wreiddiol gan Swyddfa Wasg Prifysgol\u00a0Bangor ar\u00a029 Awst 2017:<br \/>\n<\/em><a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/datblygu-paciau-cefn-bychain-i-wenyn-33257\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/datblygu-paciau-cefn-bychain-i-wenyn-33257<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy\u2019r tirlun yn datblygu\u2019n dda yn \u00f4l gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi dr\u00f4nau bach i\u2019w dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn Bydd hyn yn&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/developing-new-long%e2%80%92range-micro-backpacks-for-bees\/\" title=\"DarllenDatblygu paciau cefn bychain i wenyn\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3428,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273],"class_list":["post-3064","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3064","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3064"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3064\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3429,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3064\/revisions\/3429"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3428"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3064"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3064"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3064"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}