{"id":3199,"date":"2017-09-23T10:00:21","date_gmt":"2017-09-23T09:00:21","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=3199"},"modified":"2017-10-23T10:45:15","modified_gmt":"2017-10-23T09:45:15","slug":"understanding-our-oceans","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/understanding-our-oceans\/","title":{"rendered":"Deall ein moroedd: Sut mae pysgod yn nofio, ac i ble?"},"content":{"rendered":"<p>Mae Ysgolion\u00a0Gwyddorau Eigion,\u00a0Peirianneg Electronig\u00a0a\u00a0Chyfrifiadureg\u00a0Prifysgol Bangor, ar y cyd \u00e2 chwmni partner &#8216;Tidal Lagoon Power&#8217; yn <a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/buk2129\/\">chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg<\/a> i&#8217;w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd &#8211; sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae&#8217;r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan\u00a0KESS 2, yn bwriadu olrhain pysgod bach y m\u00f4r i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r project wedi tarddu o ddiddordeb y &#8216;Tidal Lagoon Power&#8217; mewn clustnodi safleoedd penodol o amgylch y byd i ddefnyddio grym llanw i gynhyrchu trydan.<\/p>\n<p>Er mwyn deall ecoleg yr ardal a chael cydsyniad ar gyfer unrhyw ddatblygiad, mae&#8217;n rhaid cynnal asesiad effaith amgylcheddol.\u00a0 Rhan o hyn fyddai deall patrymau ymfudol eog, brithyll y m\u00f4r a rhywogaethau d\u0175r arfordirol eraill.<\/p>\n<div id=\"attachment_3203\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3203\" class=\"wp-image-3203 size-medium\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/T.WHittonSaitheandPollack-300x122.jpg\" alt=\"Saithe &amp; Pollack Fish\" width=\"300\" height=\"122\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/T.WHittonSaitheandPollack-300x122.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/T.WHittonSaitheandPollack.jpg 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-3203\" class=\"wp-caption-text\">Morlesiaid a chwithyniaid glas<\/p><\/div>\n<p>Gyda&#8217;r dechnoleg a ddefnyddir ar hyn o bryd, mae tagiau&#8217;n cael eu gosod ar bysgod sy&#8217;n rhyddhau signal a anfonir at dderbynyddion acwstig sydd wedi eu hangori ar wely&#8217;r m\u00f4r er mwyn ceisio olrhain symudiadau pysgod wrth iddynt symud drwy&#8217;r ardal.\u00a0 Mae&#8217;r dull hwn yn ddrud ac yn heriol yn logistaidd, gan roi ciplun yn unig ar symudiadau gwirioneddol y pysgod.<\/p>\n<p>Bu i &#8216;Tidal Lagoon Power&#8217;, sydd \u00e2 diddordeb mewn edrych ar ddulliau ymchwil amgen i ymdrin \u00e2&#8217;r broblem hon, gydweithio gyda th\u00eem SEACAMS ym Mhrifysgol Bangor, i edrych ar y defnydd o gerbydau tanddwr annibynnol (<em>Autonomous Underwater Vehicles<\/em>\u00a0&#8211; AUVs) i olrhain pysgod. \u201cRydym ni&#8217;n gweld hyn fel y dyfodol mewn olrhain pysgod, ac os allwn ni ddatblygu ateb nad ydyw&#8217;n costio llawer, mae potensial anferthol i wyddoniaeth y tu hwnt i&#8217;n projectau ni a photensial gwirioneddol ar gyfer masnacheiddio. Rydym ni&#8217;n awyddus iawn datblygu, profi a defnyddio&#8217;r dechnoleg hon mor fuan ag sy&#8217;n bosib, a chyda&#8217;r t\u00eem gwych a roddwyd at ei gilydd gan SEACAMS a Phrifysgol Bangor, mae hyn yn bendant yn bosibl.\u201d<\/p>\n<p>Mae siarcod mawr wedi cael eu tracio&#8217;n llwyddiannus gan ddefnyddio&#8217;r math yma o dechnoleg, a bydd y project hwn yn gobeithio edrych a ellir defnyddio hyn gyda physgod ymfudol bychain megis brithyll y m\u00f4r a rhywogaethau arfordirol eraill.<\/p>\n<p>Bydd yr AUV yn tracio gan ddefnyddio acwsteg, ac ar \u00f4l iddo gloi ar signal y tag y mae&#8217;r pysgod yn ei gludo, bydd yn symud y tu \u00f4l i&#8217;r pysgod gan gofnodi ei safle wrth iddo fynd ar ei hynt, gan roi darlun llawnach o sut mae&#8217;r pysgod yn defnyddio ardal.\u00a0 Mae&#8217;r gwyddonwyr yn gobeithio y bydd y cerbyd hwn yn gallu tracio pysgod am nifer o ddiwrnodau.<\/p>\n<p>Mae deall sut mae pysgod yn symud o gwmpas yn ein moroedd wedi bod yn fwlch mewn gwybodaeth sydd wedi bod yn her i ecolegwyr am flynyddoedd; Dywedodd Jenny Whitmore, Ymchwilydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion:<\/p>\n<p>\u201cMae gan y project hwn botensial mawr i ateb cwestiynau&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chadwraeth rhywogaethau gwarchodedig, stoc ac asesiadau o gynefinoedd, cynllunio morol ac ecoleg pysgodfeydd; gobeithiwn y gellir defnyddio&#8217;r dechnoleg yr ydym yn ei datblygu gydag amrywiaeth o rywogaethau mewn amryw o wahanol amgylchfeydd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Iestyn Pierce o&#8217;r Ysgol Peirianneg Electronig:<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n gyffrous iawn meddwl y bydd un o&#8217;n myfyrwyr yn llenwi&#8217;r bwlch gwybodaeth sy&#8217;n bodoli yn y maes hwn, ac y gallem baratoi&#8217;r ffordd i gael mwy o ddealltwriaeth o fyd cyfrinachol pysgod.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Dr Bill Teahan o&#8217;r Ysgol Cyfrifiadureg:<\/p>\n<p>&#8220;Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y project cyffrous hwn yn ysgrifennu meddalwedd arloesol ac yn gweithio gyda gwyddonwyr o wahanol ddisgyblaethau i gyflwyno&#8217;r dechnoleg&#8221;.<\/p>\n<p>Mae cydweithwyr academaidd eraill, ym Mhrydain a thramor, mewn trafodaeth \u00e2&#8217;r t\u00eem, sy&#8217;n bwriadu dod ag arbenigedd at ei gilydd ar bob elfen o&#8217;r project cyffrous hwn. Mae RS Aqua, partner masnachol sy&#8217;n arbenigo mewn offer m\u00f4r a chyfarpar acwstig, yn darparu offer a chyngor technegol wrth i&#8217;r project symud yn ei flaen.<\/p>\n<p>Mae Ysgoloriaethau Sgiliau\u2019r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau uwch i Gymru gyfan sy\u2019n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe\u2019i cyllidir yn rhannol gan raglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a\u2019r Cymoedd.<\/p>\n<h3><strong>Eisiau cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn?<\/strong><\/h3>\n<p>Cewch fanylion llawn am yr efrydiaeth MRes blwyddyn a gyllidir gan KESS 2 yma: <a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/buk2129\/\">https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/buk2129\/<br \/>\n<\/a>Y dyddiad cau yw hanner-nos ar\u00a0<strong>1af Rhagfyr 2017<\/strong><\/p>\n<p>I gael rhagor o fanylion e-bostiwch <a href=\"mailto:KESS2@bangor.ac.uk\">KESS2@bangor.ac.uk<\/a> neu ffoniwch 01248 382162.<\/p>\n<hr \/>\n<p><em>Stori a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar dudalen newyddion Prifysgol Bangor, 7 Awst 2017<\/em><br \/>\n<em><a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/deall-ein-moroedd-33006\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/deall-ein-moroedd-33006<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Ysgolion\u00a0Gwyddorau Eigion,\u00a0Peirianneg Electronig\u00a0a\u00a0Chyfrifiadureg\u00a0Prifysgol Bangor, ar y cyd \u00e2 chwmni partner &#8216;Tidal Lagoon Power&#8217; yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i&#8217;w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd &#8211; sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae&#8217;r project newydd a&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/understanding-our-oceans\/\" title=\"DarllenDeall ein moroedd: Sut mae pysgod yn nofio, ac i ble?\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3203,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,286,303,304,290,293,305],"class_list":["post-3199","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-business","tag-computer-science","tag-electronic-engineering","tag-mres","tag-scholarship","tag-software-engineering"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3199","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3199"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3199\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3257,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3199\/revisions\/3257"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3203"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3199"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3199"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3199"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}