{"id":3459,"date":"2017-12-07T12:11:51","date_gmt":"2017-12-07T12:11:51","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=3459"},"modified":"2018-06-14T10:22:06","modified_gmt":"2018-06-14T09:22:06","slug":"tears-and-laughter-as-young-and-old-share-experiences","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/tears-and-laughter-as-young-and-old-share-experiences\/","title":{"rendered":"Dagrau a chwerthin wrth i&#8217;r hen a&#8217;r ifanc rannu profiadau"},"content":{"rendered":"<p><strong>Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd &#8211; a bydd y canlyniadau&#8217;n si\u0175r o syfrdanu.<\/strong><\/p>\n<p>Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy&#8217;n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae <strong>Hen Blant Bach<\/strong> yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr &#8211; a&#8217;r effeithiau trawsnewidiol sy&#8217;n bosib.<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/4qt5FAT5xFo?rel=0\" width=\"560\" height=\"315\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n<p>Mae tri chanolfan ddydd \u2013 yng Ngarnant, Blaenau Ffestiniog a Bangor &#8211; yn rhan o&#8217;r arbrawf wrth i gamer\u00e2u cudd ddilyn yr henoed a&#8217;r plant yn bwyta, chwarae a magu perthynas \u00e2&#8217;i gilydd dros gyfnod o dridiau. Yn ogystal, mae dwy seicolegydd o Brifysgol Bangor yn clustfeinio ar y sgyrsiau ac yn gosod gweithgareddau er mwyn dod \u00e2&#8217;r ddwy genhedlaeth yn nes at ei gilydd.<\/p>\n<p>Canolfan ddydd i&#8217;r henoed yng Ngarnant, Sir Gaerfyrddin, yw&#8217;r lleoliad cyntaf i gynnal yr arbrawf wrth iddyn nhw groesawu plant rhwng dwy a phedair blwydd oed o feithrinfa Cae&#8217;r Ffair yng Ngorslas.<\/p>\n<p>Dr Nia Williams yw un o&#8217;r seicolegwyr o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor sy&#8217;n cymryd rhan yn y rhaglen ac mae hi&#8217;n arbenigo mewn datblygiad plant. Meddai:<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r cyfnod hyd at bedair oed yn allweddol i blant. Be&#8217; &#8216;dan ni isio&#8217;i wybod ydi pa effaith mae treulio amser hefo pobl h\u0177n yn mynd i&#8217;w gael ar y datblygiad yma.&#8221;<\/p>\n<p>Meddai Dr Catrin Hedd Jones, sy&#8217;n seicolegydd ac yn ddarlithydd mewn astudiaethau dementia yn Ysgol gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol:<\/p>\n<div id=\"attachment_3460\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3460\" class=\"wp-image-3460 size-medium\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HBB-thumb-300x122.jpg\" alt=\"Hen Blant Bach\" width=\"300\" height=\"122\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HBB-thumb-300x122.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HBB-thumb.jpg 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-3460\" class=\"wp-caption-text\">Trwy&#8217;r dagrau a&#8217;r chwerthin, byddwn yn gweld bod gan y ddau gr\u0175p oedran yma yn fwy yn gyffredin nag y byddai rhywun yn tybio.<\/p><\/div>\n<p>&#8220;Mae unigedd yn gallu bod yn broblem gynyddol wrth i bobl fynd yn h\u0177n a &#8216;dan ni&#8217;n gwybod bod gan bensiynwyr gymaint i&#8217;w gynnig. Fel hyn, mae&#8217;r bobl h\u0177n yn cael cyfle i gyfrannu yn hytrach na derbyn gofal. Wrth ddod \u00e2 phlant i&#8217;w cwmni, mae&#8217;r bobl h\u0177n yn cael eu hannog i symud a chodi o&#8217;r seddi ar gyfer mwynhau gweithgareddau gyda&#8217;r plant.&#8221;<\/p>\n<p>Mae\u2019r gyfres eleni yn elwa o gefnogaeth Ysgoloriaeth KESS 2 mewn partneriaeth a Darlun.\u00a0Esbonia Dr Catrin Hedd Jones:<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r gefnogaeth hyn wedi galluogi i ni gynnal ymchwil pwysig\u00a0i effaith yr tri diwrnod ar y plant, oedolion a&#8217;r staff sydd ynghlwm ar sefydliadau.\u00a0Rydym wedi apwyntio myfyrwraig o dan y cynllun, sydd yn gwneud Meistr Ymchwil a gyllidwyd gan KESS 2 ac yn gweithio ar y cyd gyda&#8217;r cwmni teledu a\u2019r Brifysgol i ddatblygu\u2019r gweithgaredd gan gasglu gwybodaeth cyn i\u2019r plant a pobl hyn gwrdd a&#8217;i gilydd ac yn dilyn y wythnos o weithgareddau.\u201d<\/p>\n<p>Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe\u2019i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a\u2019r Cymoedd.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r pensiynwyr a gafodd fudd o&#8217;r profiad oedd Noel Francis McNamara, neu Mac, sy&#8217;n 85 oed. Roedd Mac yn bryderus am sut y byddai&#8217;n ymateb i&#8217;r plant am ei fod wedi cael amser anodd iawn yn feddyliol dros y blynyddoedd diwethaf.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd y newid ynddo erbyn diwedd y tridiau yn rhyfeddol,&#8221; meddai rheolwr y ganolfan dydd, Bernadette Thomas. &#8220;Ar y dechrau, roedd Mac bron yn ofn beth fyddai&#8217;n digwydd. Ond mae e wedi dod yn fyw gyda&#8217;r plant a bod y Mac &#8216;dyn ni&#8217;n gwybod sydd yno, er nad ydyn ni&#8217;n gweld hynny o hyd.&#8221;<\/p>\n<p>Trwy&#8217;r dagrau a&#8217;r chwerthin, byddwn yn gweld bod gan y ddau gr\u0175p oedran yma yn fwy yn gyffredin nag y byddai rhywun yn tybio.<\/p>\n<p><strong>Hen Blant Bach<br \/>\nNos Sul 10 Rhagfyr 8.00, S4C<br \/>\nIsdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael<br \/>\nAr alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill<br \/>\nCynhyrchiad Darlun ar gyfer S4C mewn cydweithrediad \u00e2 Sony Pictures Television<\/strong><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd &#8211; a bydd y canlyniadau&#8217;n si\u0175r o syfrdanu. Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy&#8217;n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/tears-and-laughter-as-young-and-old-share-experiences\/\" title=\"DarllenDagrau a chwerthin wrth i&#8217;r hen a&#8217;r ifanc rannu profiadau\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3460,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,333,290,300,302],"class_list":["post-3459","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-dementia","tag-mres","tag-psychology","tag-wellbeing"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3459","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3459"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3459\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3467,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3459\/revisions\/3467"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3460"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3459"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3459"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3459"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}