{"id":3473,"date":"2017-12-14T10:32:36","date_gmt":"2017-12-14T10:32:36","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=3473"},"modified":"2017-12-14T15:27:21","modified_gmt":"2017-12-14T15:27:21","slug":"brewing-sustainable-craft-beer-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/brewing-sustainable-craft-beer-in-wales\/","title":{"rendered":"Bragu Cwrw Crefft Cynaliadwy yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_3480\" style=\"width: 386px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3480\" class=\"wp-image-3480\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Dyfed-Morgan-684x1024.jpg\" alt=\"Dyfed Morgan\" width=\"376\" height=\"563\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Dyfed-Morgan-684x1024.jpg 684w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Dyfed-Morgan-200x300.jpg 200w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Dyfed-Morgan.jpg 1000w\" sizes=\"auto, (max-width: 376px) 100vw, 376px\" \/><p id=\"caption-attachment-3480\" class=\"wp-caption-text\">Dyfed Morgan<\/p><\/div><\/p>\n<p>Mae gwaith ymchwil marchnata diweddar wedi dangos fod y nifer o ddiod alcohol sydd yn cael ei yfed ym Mhrydain wedi gostwng o 18% ers 2004. Yn gyffredinol mae\u2019r sector bragu wedi gweld gostwng ar y cyfan, ond o fewn y sector cwrw crefft \/bragdai bychan mae tyfiant iach wedi ei nodi pob blwyddyn gan y\u00a0<em>Society of Independent Brewers<\/em>.<\/p>\n<p>Mae mwy o fragdai wedi eu sefydlu dros y cyfnod diweddar nac unrhyw amser ers 70 mlynedd, sef dros 1800 ym Mhrydain hyd at 2015 a \u2018does dim arwydd bod y twf yma yn y sector yn arafu na\u2019r galwad am y cwrw lleol yn lleihau.<\/p>\n<p>Mae ymchwil PhD yn cael ei gynnal ar gynaliadwyedd ar gwrw crefft yng Nghymru yn yr\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/senrgy\/index.php.cy\">Ysgol Amgylchedd Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth<\/a>\u00a0ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y gwaith yn seiliedig ar wybodaeth o fragdai bychan ar draws Cymru gyfan ac mae wedi cael ei ariannu trwy gynllun\u00a0KESS 2.<\/p>\n<p>Penodwyd Dyfed Morgan sydd yn wreiddiol o Gricieth yn ddiweddar trwy bartneriaeth ariannu ar gyfer yr ymchwil gyda Llywodraeth Cymru (Bwyd a Diod) a bragdai bychan lleol.<\/p>\n<p>Dywedodd Dyfed: \u201cMae gennyf ddiddordeb mawr yn y diwydiant bragu, ac ar gyfer fy nhraethawd hir fy nghwrs MBA yn 2015, mi wnes i ymchwil i&#8217;r diwydiant bragu crefft ficro.\u00a0 Fy amcanion i oedd deall yn well lwyddiant y bragdai crefft yn yr ardal &#8211; sut maent wedi datblygu dros y blynyddoedd, a&#8217;u hagwedd tuag at rwydweithio gyda busnesau eraill yn y diwydiant i lwyddo.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch iawn o gael y cyfle i aros yn y maes bragu, a bydd y gwaith ymchwil newydd yma yn edrych ar \u00f4l traed amgylcheddol bragdai yng Nghymru a hefyd yn dadansoddi\u2019r manteision i\u2019r economi ardal leol sy\u2019n cael ei greu gan y bragdai lleol. Mae\u2019r prosiect yn un Gymru gyfan ac yr wyf yn awyddus i gysylltu \u00e2 bragwyr o bob ardal. Hyd yn hyn, mae\u2019r ymateb wedi bod yn bositif iawn hefo llawer o fragwyr \u00e2 diddordeb yn eu mesuriad amgylcheddol. Nid yn unig y bydd y canlyniadau yn ddifyr o safbwynt academaidd, ond bydd hefyd yn ddefnyddiol oherwydd bydd modd dangos cyfleoedd i\u2019r bragdai arbed arian.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiect yn cael ei gyd-arolygu gan Dr Eifiona Thomas Lane a Dr David Styles ym Mhrifysgol Bangor. Meddai Dr Lane: \u201cYn y prosiect ymchwil gweithredol yma sydd yn dibynnu ar bartneriaeth gyda chwmn\u00efau lleol, byddem yn defnyddio\u2019r wybodaeth bydd yn cael ei rannu gan y bragwyr i gefnogi cynhyrchu mwy cynaliadwy ac felly mwy cystadleuol. Oherwydd hyn mae\u2019r ymchwil yma yn arloesol ac yn eithaf cynhyrfus o ystyried y gwahaniaeth y gall ei wneud i fragwyr crefft Cymru a\u2019r sector fragu ehangach. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio a\u2019r bragwyr unigryw sydd gennym ar draws Cymru a hefyd gyda\u2019r gymuned cwrw crefft yn fwy byd eang.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe\u2019i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a\u2019r Cymoedd<em>.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gwaith ymchwil marchnata diweddar wedi dangos fod y nifer o ddiod alcohol sydd yn cael ei yfed ym Mhrydain wedi gostwng o 18% ers 2004. Yn gyffredinol mae\u2019r sector bragu wedi gweld gostwng ar y cyfan, ond o fewn y sector cwrw crefft \/bragdai bychan mae tyfiant iach wedi ei nodi pob blwyddyn gan&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/brewing-sustainable-craft-beer-in-wales\/\" title=\"DarllenBragu Cwrw Crefft Cynaliadwy yng Nghymru\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3474,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,326,328,327,284],"class_list":["post-3473","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-environment","tag-geography","tag-natural-resources","tag-sustainability"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3473","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3473"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3473\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3482,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3473\/revisions\/3482"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3474"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3473"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3473"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3473"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}