{"id":3611,"date":"2018-01-23T15:09:25","date_gmt":"2018-01-23T15:09:25","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=3611"},"modified":"2018-02-05T16:20:48","modified_gmt":"2018-02-05T16:20:48","slug":"oral-chemotherapy-management-in-the-home-an-exploratory-case-study-of-treatment-adherence-in-people-with-cancer-living-in-the-valleys-of-south-east-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/oral-chemotherapy-management-in-the-home-an-exploratory-case-study-of-treatment-adherence-in-people-with-cancer-living-in-the-valleys-of-south-east-wales\/","title":{"rendered":"Rheoli cemotherapi drwy&#8217;r geg gartref: astudiaeth achos archwiliadol o ymlyniad at driniaeth ymysg pobl sydd \u00e2 chanser ac yn byw yng Nghymoedd De-Ddwyrain Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Myfyriwr:\u00a0<\/strong>I&#8217;w gadarnhau<br \/>\n<strong>Goruchwyliwr:<\/strong>\u00a0Yr Athro Jane Hopkinson<br \/>\n<strong>Lleoliad:\u00a0<\/strong>Prifysgol Caerdydd<br \/>\n<strong>Math o Ganser:<\/strong>\u00a0Pob un &#8211; Cemotherapi<br \/>\n<strong>Dyddiad dechrau a gorffen:<\/strong>\u00a0Hydref 17 &#8211; Hydref 20<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae dros 25% o driniaeth ganser yn cael ei roi drwy ddefnyddio meddyginiaethau gwrth-ganser. Prin yw\u2019r wybodaeth am reoli triniaeth canser gartref. Mae\u2019n golygu bod angen gwybodaeth, sgil a hyder ar y person sydd \u00e2 chanser, a gofalwr hefyd yn aml, wrth reoli meddyginiaethau. Mae\u2019n bosibl i gamgymeriadau gyda meddyginiaethau ddigwydd. Rhaid i gleifion ddeall pwysigrwydd ymlyniad er mwyn cael y canlyniadau gorau i\u2019r driniaeth a lleihau&#8217;r tocsiceddau. Yn \u00f4l y dystiolaeth, mae&#8217;r lefelau isaf o ymlyniad i&#8217;w gael ymysg pobl h\u0177n, sy&#8217;n teimlo\u2019n isel, sy\u2019n teimlo eu bod yn cael llai o gymorth cymdeithasol, sydd \u00e2\u2019r statws economaidd-gymdeithasol isaf a\u2019r rhai sy&#8217;n cael sgil-effeithiau i driniaeth.<\/p>\n<p>Ceir adroddiadau bod cleifion yn methu cymaint ag un rhan o dair o\u2019r ddos a ragnodwyd iddynt. Efallai na fydd y triniaethau\u2019n gweithio os nad ydyn nhw\u2019n cael eu cymryd fel y rhagnodwyd. Gall ymlyniad gwael arwain at gostau gofal iechyd uwch os yw\u2019r clefyd yn gwaethygu ac angen triniaethau ychwanegol.<\/p>\n<p>Mae angen ymchwil i ddeall y ffactorau sy\u2019n cael effaith gadarnhaol a negyddol ar ymlyniad.\u00a0 Bydd yr astudiaeth hon yn astudiaeth achos archwiliadol yng Nghymoedd De-ddwyrain Cymru i gael gwybodaeth am ymlyniad at driniaeth canser drwy\u2019r geg. Bydd yn canolbwyntio ar y ffactorau ymarferol, emosiynol a chymdeithasol sy\u2019n gallu bod yn rhwystrau neu\u2019n alluogwyr i ymlyniad at feddyginiaeth gartref. Y pwrpas yw creu argymhellion i gael gwelliannau mewn ymlyniad at feddyginiaethau ar bresgripsiwn i drin canser mewn lleoliadau difreintiedig, o gymharu ag mewn ardaloedd mwy cyfoethog. Effaith bosibl ymchwil o&#8217;r fath yw\u2019r canlyniadau gwell o ran goroesi ac ansawdd byw, ac arbedion cysylltiedig o ran costau i\u2019r GIG.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/case-studies\/current-kess-2-projects-in-partnership-with-tenovus-cancer-care\/\"><strong>&lt;&lt; Yn \u00f4l<\/strong><\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Myfyriwr:\u00a0I&#8217;w gadarnhau Goruchwyliwr:\u00a0Yr Athro Jane Hopkinson Lleoliad:\u00a0Prifysgol Caerdydd Math o Ganser:\u00a0Pob un &#8211; Cemotherapi Dyddiad dechrau a gorffen:\u00a0Hydref 17 &#8211; Hydref 20 Erbyn hyn, mae dros 25% o driniaeth ganser yn cael ei roi drwy ddefnyddio meddyginiaethau gwrth-ganser. Prin yw\u2019r wybodaeth am reoli triniaeth canser gartref. Mae\u2019n golygu bod angen gwybodaeth, sgil a hyder ar&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/oral-chemotherapy-management-in-the-home-an-exploratory-case-study-of-treatment-adherence-in-people-with-cancer-living-in-the-valleys-of-south-east-wales\/\" title=\"DarllenRheoli cemotherapi drwy&#8217;r geg gartref: astudiaeth achos archwiliadol o ymlyniad at driniaeth ymysg pobl sydd \u00e2 chanser ac yn byw yng Nghymoedd De-Ddwyrain Cymru\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[332],"tags":[],"class_list":["post-3611","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-tenovus-cancer-care"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3611","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3611"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3611\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3756,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3611\/revisions\/3756"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3611"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3611"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3611"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}