{"id":3749,"date":"2018-02-06T16:57:28","date_gmt":"2018-02-06T16:57:28","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=3749"},"modified":"2018-02-12T11:36:55","modified_gmt":"2018-02-12T11:36:55","slug":"dementia-care-with-smart-technology","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/dementia-care-with-smart-technology\/","title":{"rendered":"Galwad am bobl i gymryd rhan mewn prosiect sydd wedi cael cyllid drwy KESS 2 sy\u2019n cyfuno gofal dementia \u00e2 thechnoleg clyfar"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-3785\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/SDW-meta.jpg\" alt=\"Smart.Dementia.Wales\" width=\"1040\" height=\"400\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/SDW-meta.jpg 1040w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/SDW-meta-300x115.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/SDW-meta-1024x394.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1040px) 100vw, 1040px\" \/>\n<p><strong>Mae Steve Williams, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol De Cymru yn chwilio am bobl i ateb\u00a0<\/strong><a href=\"http:\/\/sd-w.ddns.net\/index.php\/your-invitation\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>holiadur<\/strong><\/a><strong>\u00a0fel rhan o\u2019r prosiect ymchwil\u00a0<\/strong><a href=\"http:\/\/sd-w.ddns.net\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Smart.Dementia.Wales<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n<p>Gyda chefnogaeth Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy KESS 2, mae Smart.Dementia.Wales yn brosiect ymchwil sydd wedi cael ei ysgogi gan bosibilrwydd darparu cyfnod hirach o annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell i\u2019r rheini sy\u2019n byw \u00e2 dementia drwy ddefnyddio technoleg \u2018clyfar\u2019. Caiff ei ariannu\u2019n rhannol gan bartner cwmni <a href=\"http:\/\/www.symlconnect.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">SymlConnect Ltd<\/a>, sy\u2019n dylunio ac yn datblygu atebion clyfar costeffeithiol er mwyn gallu monitro\u2019n glinigol yn ddidor, gan fynd i\u2019r afael \u00e2 phryderon y GIG o ran gwella effeithlonrwydd amser clinigol ac ansawdd y gofal sy\u2019n cael ei roi.<\/p>\n<p>Nod yr astudiaethau parhaus ym Mhrifysgol De Cymru ydy datblygu technoleg newydd gyda\u2019r prif nod o helpu pobl i \u2018fyw yn dda gyda dementia\u2019 a chadw eu hannibyniaeth cyn hired ag sy\u2019n bosibl. Fel mae Steve yn ei egluro:<\/p>\n<div id=\"attachment_3786\" style=\"width: 383px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3786\" class=\"wp-image-3786\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/fitbit-sml.jpg\" alt=\"SmartWatch\" width=\"373\" height=\"237\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/fitbit-sml.jpg 500w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/fitbit-sml-300x191.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 373px) 100vw, 373px\" \/><p id=\"caption-attachment-3786\" class=\"wp-caption-text\">Mae&#8217;r astudiaeth yn gobeithio casglu data trwy gyfrwng technoleg clyfar megis &#8216;Fitbit&#8217;<\/p><\/div>\n<p>\u201cMae moeseg defnyddio technoleg i olrhain unigolion sy\u2019n gallu bod yn agored i niwed wedi bod yn destun cryn ddadlau; mae nifer yn cefnogi\u2019r syniad o ddefnyddio technoleg er mwyn caniat\u00e1u cerdded yn fwy diogel, ac mae eraill yn teimlo bod hynny\u2019n mynd yn groes i hawliau dynol. Weithiau bydd pobl sy\u2019n byw \u00e2 dementia yn dioddef anhunedd ac maen nhw\u2019n tueddu i \u2018fynd am dro\u2019 fel mae\u2019r gymdeithas Alzheimer yn ei alw.\u00a0 Mae perygl amlwg ynghlwm wrth hyn ac mae\u2019n gallu poeni\u2019r gofalwr yn arw.<\/p>\n<p>Mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU a bydd y nifer yn codi i dros filiwn erbyn 2025. Bydd hyn yn codi i 2 filiwn erbyn 2051.\u00a0 Bydd 225,000 o bobl yn datblygu dementia eleni, dyna i chi un person bob tri munud.\u00a0 Mae ymchwil yn dangos bod 40% yn tueddu i fynd i grwydro, mae 1% yn marw\u2019n gynamserol tra byddant ar goll.<\/p>\n<p>Er mwyn ymateb i hyn, mae prototeip ymchwil wedi cael ei ddatblygu sy\u2019n dysgu beth sy\u2019n \u2018normal\u2019 i rywun drwy olrhain a defnyddio data Fitbit. Y nod ydy datblygu\u2019r meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial hwn ymhellach er mwyn iddo nid yn unig dysgu, ond adnabod pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth nad yw\u2019n ei wneud yn arferol.\u00a0 Ar \u00f4l iddo gael ei brofi bydd yr algorithm terfynol yn cadw hawl yr unigolyn i gadw gwybodaeth yn breifat tan achos o&#8217;r fath.\u00a0 Os bydd hyn yn digwydd, byddai modd defnyddio lleoliad y person a\u2019u cyflwr ffisegol er mwyn dod o hyd iddyn nhw\u2019n gyflym.<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiect yn <strong>gwahodd pobl i lenwi\u00a0<\/strong><a href=\"http:\/\/sd-w.ddns.net\/index.php\/please-take-part-in-our-questionnaire\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>holiadur<\/strong><\/a>, yn ogystal \u00e2 chynnig cyfle i gymryd rhan bellach drwy ddefnyddio technoleg Fitbit a Google Timeline. Ein nod ydy casglu safbwyntiau amrywiol ar bwnc preifatrwydd a defnyddio\u2019r data a fydd wedi&#8217;i gasglu i brofi ein halgorithm Deallusrwydd Artiffisial.\u201d<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a style=\"display: inline-block; padding: 12px 24px; border: 0; border-radius: 6px; letter-spacing: 0.0625em; text-transform: uppercase; background: #34ACA5; color: #fff; text-decoration: none; font-size: 125%;\" href=\"http:\/\/sd-w.ddns.net\/index.php\/please-take-part-in-our-questionnaire\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cymerwch ran yn yr astudiaeth!<\/a><\/p>\n<p><strong>Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil Smart.Dementia.Wales, ac am sut gallwch chi gymryd rhan, ar gael yn\u00a0<\/strong><a href=\"http:\/\/sd-w.ddns.net\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>http:\/\/sd-w.ddns.net\/<\/strong><\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2122 alignleft\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/ESF-2016.png\" alt=\"ESF Logo\" width=\"213\" height=\"154\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/ESF-2016.png 1000w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/ESF-2016-300x217.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 213px) 100vw, 213px\" \/>\n<p><a href=\"http:\/\/www.symlconnect.com\/\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-3778 size-full alignleft\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Syml-logo_.png\" alt=\"Syml Connect Ltd.\" width=\"194\" height=\"154\" \/><\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Steve Williams, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol De Cymru yn chwilio am bobl i ateb\u00a0holiadur\u00a0fel rhan o\u2019r prosiect ymchwil\u00a0Smart.Dementia.Wales. Gyda chefnogaeth Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy KESS 2, mae Smart.Dementia.Wales yn brosiect ymchwil sydd wedi cael ei ysgogi gan bosibilrwydd darparu cyfnod hirach o annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell i\u2019r rheini sy\u2019n byw&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/dementia-care-with-smart-technology\/\" title=\"DarllenGalwad am bobl i gymryd rhan mewn prosiect sydd wedi cael cyllid drwy KESS 2 sy\u2019n cyfuno gofal dementia \u00e2 thechnoleg clyfar\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3784,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[303,309,295],"class_list":["post-3749","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-computer-science","tag-healthcare","tag-university-of-south-wales"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3749","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3749"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3749\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3844,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3749\/revisions\/3844"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3784"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3749"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3749"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3749"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}