{"id":3858,"date":"2018-02-13T15:59:50","date_gmt":"2018-02-13T15:59:50","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=3858"},"modified":"2018-06-14T10:21:27","modified_gmt":"2018-06-14T09:21:27","slug":"hen-blant-bach-nominated-for-international-film-television-award","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/hen-blant-bach-nominated-for-international-film-television-award\/","title":{"rendered":"Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-3861 alignleft\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HBB2-thumb.jpg\" alt=\"Hen Blant Bach\" width=\"792\" height=\"322\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HBB2-thumb.jpg 600w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HBB2-thumb-300x122.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 792px) 100vw, 792px\" \/><\/p>\n<p><em>Cyhoeddwyd yr erthygl gwreiddiol gan Brifysgol Bangor:<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/hen-blant-bach-ar-restr-fer-gwobrau-rhyngwladol-ffilm-a-theledu-35876\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><br \/>\nhttps:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/hen-blant-bach-ar-restr-fer-gwobrau-rhyngwladol-ffilm-a-theledu-35876<\/a><\/em><\/p>\n<p>Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol G\u0175yl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018.<\/p>\n<p>Mae Hen Blant Bach, sy\u2019n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi\u2019i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd \u00e2 phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy&#8217;n bosib o\u2019u dod at ei gilydd.<\/p>\n<p>Yn rhannu eu harbenigeddau ar y rhaglen oedd dwy seicolegydd o Brifysgol Bangor, Dr Catrin Hedd Jones, o\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/healthcaresciences\/index.php.cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd<\/a>\u00a0a Dr Nia Williams o\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/addysg\/index.php.cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ysgol Addysg<\/a>, a ymddangosodd yn y rhaglen, a&#8217;r Athro Bob Woods.<\/p>\n<p>Dan lygaid barcud y seicolegwyr, cafwyd sylwebaeth graff ar yr hyn oedd yn datblygu rhwng y plant \u00e2\u2019r henoed wrth i\u2019r bwlch oedran gael ei bontio \u2013 a&#8217;r effeithiau cadarnhaol a ddaeth yn ei sgil.<\/p>\n<p>Meddai Dr Nia Williams o\u2019r Ysgol Addysg:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r enwebiad yn gydnabyddiaeth anhygoel i\u2019r gwaith ymchwil ac yn gyfle gwych i roi\u00a0 Cymru a Phrifysgol Bangor ar y map.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r gyfres\u00a0 diweddaraf wedi elwa o gefnogaeth Ysgoloriaeth KESS 2 mewn partneriaeth a Darlun.<\/p>\n<p>Esbonia Dr Catrin Hedd Jones: \u201cMae&#8217;r gefnogaeth hyn wedi galluogi i ni gynnal ymchwil pwysig\u00a0i effaith yr tri diwrnod ar y plant, oedolion a&#8217;r staff sydd ynghlwm ar sefydliadau.\u00a0Rydym wedi apwyntio myfyrwraig o dan y cynllun, sydd gwneud Meistr Ymchwil a gyllidwyd gan KESS 2 ac yn gweithio ar y cyd gyda&#8217;r cwmni teledu a\u2019r Brifysgol i ddatblygu\u2019r gweithgaredd tra&#8217;n cwblhau\u00a0gradd ymchwil\u00a0meistr gan gasglu gwybodaeth cyn i\u2019r plant a pobl hyn gwrdd a&#8217;i gilydd ac yn dilyn y wythnos o weithgareddau.<\/p>\n<p>Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe\u2019i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a\u2019r Cymoedd.<\/p>\n<p>Roedd dwy raglen arall o S4C wedi eu henwebu hefyd, sef Bang, ar gyfer categori Drama Drosedd a rhaglen ddogfen Colli Dad, Siarad am Hynna, cynhyrchiad BBC Cymru, wedi cael ei enwebu yng nghategori Materion Cymdeithasol.<\/p>\n<p>Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees: \u201cLlongyfarchiadau i bawb ar yr enwebiadau. Mae tri enwebiad ar gyfer gwobrau rhyngwladol fel hyn yn bluen yn het S4C ac yn glod i&#8217;r sector gynhyrchu talentog sydd gennym ni yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cEr ein bod ni\u2019n canolbwyntio ar feithrin, dathlu a chefnogi\u2019r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae cael y cyfle i godi proffil S4C, Cymru a&#8217;r iaith Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol yn rhywbeth arbennig iawn ac yn destun balchder mawr.\u201d<\/p>\n<p>Cynhelir seremoni G\u0175yl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018 yn Las Vegas ar 10 Ebrill, 2018.<\/p>\n<p>Gweler hefyd:<\/p>\n<p>https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/tears-and-laughter-as-young-and-old-share-experiences\/<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyhoeddwyd yr erthygl gwreiddiol gan Brifysgol Bangor: https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/hen-blant-bach-ar-restr-fer-gwobrau-rhyngwladol-ffilm-a-theledu-35876 Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol G\u0175yl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018. Mae Hen Blant Bach, sy\u2019n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi\u2019i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/hen-blant-bach-nominated-for-international-film-television-award\/\" title=\"DarllenHen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3861,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[337,273,333,300],"class_list":["post-3858","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-awards","tag-bangor-university","tag-dementia","tag-psychology"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3858","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3858"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3858\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3874,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3858\/revisions\/3874"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3861"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3858"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3858"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3858"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}