{"id":4217,"date":"2018-06-07T15:11:59","date_gmt":"2018-06-07T14:11:59","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=4217"},"modified":"2018-06-20T12:34:52","modified_gmt":"2018-06-20T11:34:52","slug":"womenspire-success-for-kess-2-academic-supervisor-delyth-prys","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/womenspire-success-for-kess-2-academic-supervisor-delyth-prys\/","title":{"rendered":"Llwyddiant Womenspire i oruchwyliwr academaidd KESS 2 Delyth Prys"},"content":{"rendered":"<p>Mae goruchwyliwr academaidd KESS 2 a pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, Delyth Prys, wedi derbyn gwobr gan brif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny am ei gwaith arloesol ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol.<\/p>\n<p>Mae Delyth yn arwain t\u00eem o raglennwyr, datblygwyr meddalwedd a therminolegwyr yn yr\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/canolfanbedwyr\/technolegau_iaith.php.cy\">Uned Technolegau Iaith<\/a>, uned arbenigol yng\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/canolfanbedwyr\/index.php.cy\">Nghanolfan Bedwyr<\/a>, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae\u2019r uned yn arloesi ar ymchwilio a datblygu technolegau testun a lleferydd, safoni termau, ac agweddau eraill ar Brosesu Iaith Naturiol ac Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol. Mae ei phrif ffocws ar y Gymraeg a\u2019r ieithoedd Celtaidd eraill, ac ar agweddau amlieithog cyfathrebu. Ymhlith diddordebau arbennig yr uned mae adfywio ieithoedd drwy dechnolegau iaith, a galluogi ieithoedd llai eu hadnoddau i ffynnu yn yr oes ddigidol.<\/p>\n<div id=\"attachment_4219\" style=\"width: 245px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4219\" class=\"wp-image-4219 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Delyth-Prys-Womenspire-2018.imagegallerypreview.jpg\" alt=\"Delyth Prys\" width=\"235\" height=\"250\" \/><p id=\"caption-attachment-4219\" class=\"wp-caption-text\">Delyth Prys<\/p><\/div>\n<p>Derbyniodd wobr y \u2018Building Wales Award\u2019 yn nigwyddiad blynyddol y Womenspire Awards yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin. Mae\u2019r gwobrau yn cael eu trefnu a\u2019u cynnal gan elusen Chwarae Teg, elusen sy\u2019n hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae gwobrau blynyddol Womenspire yn dathlu llwyddiannau merched ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.<\/p>\n<p>Roedd y categori \u2018Building Wales\u2019 yn canolbwyntio ar fenywod sy\u2019n gweithio ym maes gwyddoniaeth, adeiladu, technoleg a pheirianneg. Ei nod yw dathlu&#8217;r menywod hynny sy&#8217;n adeiladu Cymru newydd trwy hyrwyddo eu taith gyrfa eu hunain a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i&#8217;w sectorau. Enwebwyd Dr Yueng-Djern Lenn o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn yr un categori.<\/p>\n<p>Meddai Delyth ar derfyn y noson wobrwyo:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n anrhydedd fawr i fi, ac roeddwn i wrth fy modd yn derbyn y wobr. Mae\u2019n gydnabyddiaeth o waith o\u2019r t\u00eem cyfan yn yr Uned Technolegau Iaith, ac rwy\u2019n ddiolchgar iawn iddyn nhw am fy enwebu. Mae ymchwil i greu offer cyfathrebu cyfrifiadurol Cymraeg mor bwysig ar gyfer dyfodol yr iaith, ac roedd hi\u2019n wych cael y cyfle i roi cyhoeddusrwydd i\u2019n gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Yn llongyfarch Delyth ar dderbyn y wobr, meddai Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg ac Ymgysylltu \u00e2\u2019r Gymuned) Prifysgol Bangor, Yr Athro Jerry Hunter:<\/p>\n<p>\u201cLlongyfarchiadau mawr i Delyth ar ei llwyddiant haeddiannol yng ngwobrau Womenspire elusen Chwarae Teg. Mae\u2019r gwaith y mae\u2019n ei gyflawni yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn gyfraniad allweddol at ffyniant y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill, ac yn ysbrydoliaeth i fenywod eraill i ddatblygu gyrfaoedd gwerthfawr yn y maes pwysig hwn.\u201d<\/p>\n<p>Mae Prifysgol Bangor yn ymrwymedig i hyrwyddo gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM), egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn rhan o fenter Siarter Athena Swan. Mae\u2019r Brifysgol wedi llwyddo i ennill y Wobr Efydd ac wedi ymrwymo i wella ar hynny. Mae mentrau a phrojectau Athena SWAN yn rhoi sylw i staff a myfyrwyr ac o fudd i\u2019r naill a\u2019r llall.<\/p>\n<p>Ceir mwy o wybodaeth am elusen Chwarae Teg a Gwobrau Womenspire yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cteg.org.uk\/cy\/\">https:\/\/www.cteg.org.uk\/cy\/<\/a><\/p>\n<p><em>Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018<\/em><\/p>\n<p><em>Cyhoeddwyd y stori hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Bangor:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/llwyddiant-womenspire-i-delyth-prys-37090\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/llwyddiant-womenspire-i-delyth-prys-37090<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae goruchwyliwr academaidd KESS 2 a pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, Delyth Prys, wedi derbyn gwobr gan brif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny am ei gwaith arloesol ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Mae Delyth yn arwain t\u00eem o raglennwyr, datblygwyr meddalwedd a therminolegwyr yn yr\u00a0Uned Technolegau Iaith, uned arbenigol&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/womenspire-success-for-kess-2-academic-supervisor-delyth-prys\/\" title=\"DarllenLlwyddiant Womenspire i oruchwyliwr academaidd KESS 2 Delyth Prys\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4219,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[336,337,273,338],"class_list":["post-4217","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-academics","tag-awards","tag-bangor-university","tag-welsh-language"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4217","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4217"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4217\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4222,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4217\/revisions\/4222"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4219"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4217"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4217"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4217"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}