{"id":4256,"date":"2018-06-14T10:13:55","date_gmt":"2018-06-14T09:13:55","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=4256"},"modified":"2018-06-20T12:34:00","modified_gmt":"2018-06-20T11:34:00","slug":"global-award-for-bangor-wetland-scientist","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/global-award-for-bangor-wetland-scientist\/","title":{"rendered":"Gwobr ryngwladol i wyddonydd y gwlyptir ac academydd KESS 2 o Brifysgol Bangor"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_4257\" style=\"width: 177px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4257\" class=\"wp-image-4257 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Freeman-SWS-Award-2WEB.imagegallerypreview.jpg\" alt=\"Prof Chris Freeman\" width=\"167\" height=\"250\" \/><p id=\"caption-attachment-4257\" class=\"wp-caption-text\">Yr Athro Chris Freeman yn derbyn ei anrhydedd diweddaraf.<\/p><\/div><\/p>\n<p>Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr ryngwladol fawr am y gwaith y mae&#8217;n ei wneud ar ddeall rhai o gynefinoedd pwysicaf y byd.<\/p>\n<p>Enillodd yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor y wobr ar \u00f4l cael enwebiadau gan wyddonwyr ledled y byd, a fu&#8217;n ei ganmol fel arweinydd yn ei faes.<\/p>\n<p>Rhoddodd Cymdeithas Gwyddonwyr y Gwlyptir (SWS) Gymrodoriaeth Ryngwladol i&#8217;r Athro Freeman mewn digwyddiad arbennig yn Denver, UDA, i gydnabod ei waith arloesol ym maes gwyddor y gwlyptir.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Athro Freeman wedi bod yn ymchwilio i&#8217;r maes ers dros 20 mlynedd ac mae ei waith wedi cael ei gynnwys yng nghylchgronau gwyddonol gorau&#8217;r byd ac ar gloriau papurau newydd cenedlaethol ymhob cwr.<\/p>\n<p>Mae rhai o&#8217;i ddarganfyddiadau mwyaf dylanwadol wedi disgrifio sut mae gwlyptiroedd yn storio lot fawr o garbon a allai newid yr hinsawdd a sut mae gofalu amdanynt i helpu diogelu ein dyfodol ni ar y blaned.<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Loretta Battaglia o SWS yngl\u0177n \u00e2 phwysigrwydd gwaith yr Athro Freeman ym Mhrifysgol Bangor: &#8220;Yn sicr ddigon mae Chris Freeman yn un o wyddonwyr penna&#8217;r byd ym maes y gwlyptiroedd, a phleser o&#8217;r mwyaf oedd rhoddi Cymrodoriaeth Ryngwladol iddo.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ei waith wedi bod o gymorth mawr i ni ddeall yr hyn sy&#8217;n digwydd yn y gwlyptiroedd, a chan eu bod gyda&#8217;r cynefinoedd pwysicaf sydd, mae datblygu gwybodaeth yn hanfodol er mwyn i ni allu eu rheoli&#8217;n well a&#8217;u diogelu at y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Freeman, sy&#8217;n Gyfarwyddwr ar Gr\u0175p Gwlyptiroedd Bangor, ei fod yn falch iawn o dderbyn y fath anrhydedd: &#8220;Mae&#8217;n wych cael gwobr o&#8217;r fath ac mae&#8217;n wych gweld bod ein gwaith ni ym Mhrifysgol Bangor yn cael cymaint o effaith ar wlyptiroedd a chadwraeth ledled y byd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae gwlyptiroedd yn llefydd cwbl anhygoel &#8211; maen nhw&#8217;n ganolbwynt ac yn ffocws ar gyfer cymaint o fywyd ar y Ddaear, maen nhw&#8217;n gallu glanhau&#8217;r d\u0175r inni, diogelu ein cartrefi a hyd yn oed rheoli&#8217;r hinsawdd.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Yn bendant, nhw yw&#8217;r llefydd mwyaf diddorol i&#8217;w hastudio ac mae cymaint i&#8217;w ddysgu o hyd,&#8221; ebe yntau.<\/p>\n<p>Mae yr Athro Freeman wedi bod yn gysylltiedig \u00e2 KESS o&#8217;r cychwyn cyntaf ac yn parhau i fod yn rhan o KESS 2 hyd yn hyn.<\/p>\n<p><em>Cyhoeddwyd y stori hon yn wreiddiol ar wefan newyddion Prifysgol Bangor ar 13 Mehefin 2018:<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/gwobr-ryngwladol-i-wyddonydd-y-gwlyptir-o-fangor-37150\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/gwobr-ryngwladol-i-wyddonydd-y-gwlyptir-o-fangor-37150<\/a><br \/>\n<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr ryngwladol fawr am y gwaith y mae&#8217;n ei wneud ar ddeall rhai o gynefinoedd pwysicaf y byd. Enillodd yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor y wobr ar \u00f4l cael enwebiadau gan wyddonwyr ledled y byd, a fu&#8217;n ei ganmol fel arweinydd yn ei faes. Rhoddodd Cymdeithas&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/global-award-for-bangor-wetland-scientist\/\" title=\"DarllenGwobr ryngwladol i wyddonydd y gwlyptir ac academydd KESS 2 o Brifysgol Bangor\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4279,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[336,337,273,326,327],"class_list":["post-4256","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-academics","tag-awards","tag-bangor-university","tag-environment","tag-natural-resources"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4256","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4256"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4256\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4261,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4256\/revisions\/4261"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4279"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4256"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4256"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4256"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}