{"id":4267,"date":"2018-06-19T11:39:59","date_gmt":"2018-06-19T10:39:59","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=4267"},"modified":"2022-03-02T11:34:53","modified_gmt":"2022-03-02T11:34:53","slug":"roadside-scavengers","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/roadside-scavengers\/","title":{"rendered":"Carthysyddion ar ochr y ffordd : Ymchwilwyr yn archwilio\u2019r anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd nad ydym ni byth yn eu gweld"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-4270\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/marc-olivier-jodoin-661475-unsplash.jpg\" alt=\"Roadkill scavenging\" width=\"4978\" height=\"2800\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/marc-olivier-jodoin-661475-unsplash.jpg 4978w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/marc-olivier-jodoin-661475-unsplash-300x169.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/marc-olivier-jodoin-661475-unsplash-1024x576.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 4978px) 100vw, 4978px\" \/>\n<p>Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y <a href=\"https:\/\/academic.oup.com\/jue\/article\/4\/1\/juy006\/4995187\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><em>Journal of Urban Ecology<\/em> (Gwasg Prifysgol Rhydychen)<\/a>, gan brif awdur a myfyrwraig KESS 2, <strong>Amy Williams Schwartz<\/strong> o <strong>Brifysgol Caerdydd<\/strong>, yn nodi bod y nifer o anifeiliaid gwyllt sy\u2019n cael eu lladd gan gerbydau modur yn gallu bod yn llawer uwch nag sy\u2019n cael ei adrodd na\u2019i ddeall yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Mae ymchwilwyr prosiect KESS 2, gan weithio mewn cydweithrediad \u00e2 <a href=\"http:\/\/www.eco-explore.co.uk\/about-us\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Chwmni Buddiannau Cymunedol <em>Eco-explore<\/em><\/a> ac yn cael eu cefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, wedi defnyddio trapiau camera gydag abwyd mewn deuddeg o safleoedd o gwmpas Caerdydd, gyda\u2019r nod o adnabod carthysyddion anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd.\u00a0 Er bod gwyddonwyr wedi astudio anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd mewn nifer o ffyrdd o\u2019r blaen, dyma\u2019r tro cyntaf i drapiau camera gael eu defnyddio i ddogfennu gweithgaredd carthysu.<\/p>\n<p>Mae marwolaethau bywyd gwyllt ar ffyrdd Prydain yn y miliynau bob blwyddyn, ac felly mae\u2019r carcasau yn cynrychioli ffynhonnell sylweddol o fwyd ar gyfer y carthysyddion.\u00a0\u00a0 Drwy symud anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd mewn ardaloedd trefol, mae carthysyddion yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr i\u2019r ecosystem, ond gallai symud carcasau gan garthysyddion yn gyflym arwain gwyddonwyr i ddiystyru\u2019r effeithiau y mae\u2019r ffyrdd yn eu cael ar fywyd gwyllt.<\/p>\n<p>Dywedodd Amy Williams Schwartz \u201cCredir bod symud anifeiliaid gan garthysyddion y ffactor bwysicaf sy\u2019n achosi tanamcangyfrif y niferoedd o anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd, yn arbennig felly, anifeiliaid bychain fel adar yr ardd a chnofilod.\u00a0 Mae ein hastudiaeth yn dangos yr amlder a\u2019r cyflymder y mae carthysyddion yn gallu symud yr anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd a\u2019r graddau y gallwn ni danamcangyfrif y gwir nifer o farwolaethau, ond mae\u2019n awgrymu hefyd bod llawer o garthysyddion trefol fel brain, gwylanod a llwynogod yn gallu bod yn darparu gwasanaeth symud carcasau nad yw\u2019n cael ei werthfawrogi, ac i raddau helaeth, na sylwir arno yn ein dinasoedd.<\/p>\n<p>Er mwyn gwerthuso\u2019r cyd-destun a\u2019r raddfa o garthysu anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd yn y trefi, bu ymchwilwyr yn archwilio pa rywogaethau sy\u2019n carthysu anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd mewn ardaloedd trefol, y tebygolrwydd o anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd yn cael eu symud oddi yno gan garthysyddion, ac a yw ffactorau megis, math o gynefin ac amser o\u2019r dydd, yn dylanwadu ar gyfradd y symud.<\/p>\n<p>Mae canfyddiadau yn dangos mai teulu\u2019r fr\u00e2n yw\u2019r carthysyddion mwyaf cyffredin o anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd, ac mae\u2019r ymchwilwyr wedi sylwi bod uchafbwynt mewn gweithgaredd carthysu ar \u00f4l codiad yr haul, sy\u2019n adlewrychu uchafbwynt nodweddiadol mewn gweithgaredd adar yn ystod yr amser yma.\u00a0 Mae\u2019r canlyniadau yn awgrymu y gallai fod o bosibl hyd at chwe gwaith cymaint o ddigwyddiadau o fywyd gwyllt sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd nag y mae amcangyfrifon presennol yn eu dangos.<\/p>\n<p>Er mwyn darganfod mwy a darllen y papur yn llawn, ewch i: <a href=\"https:\/\/academic.oup.com\/jue\/article\/4\/1\/juy006\/4995187\">Roadkill scavenging behaviour in an urban environment,\u00a0<em>Journal of Urban Ecology<\/em>\u00a0(2018)<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<p>Ymdriniwyd \u00e2\u2019r astudiaeth hon yn ogystal gan y gwefannau cyfryngau ar-lein canlynol:<\/p>\n<p><em>Phys.org<\/em> (14 Mai 2018): <a href=\"https:\/\/phys.org\/news\/2018-05-underestimating-roadkill.amp\">https:\/\/phys.org\/news\/2018-05-underestimating-roadkill.amp<\/a><\/p>\n<p><em>Popular Science<\/em> (14 Mai 2018): <a href=\"https:\/\/www.popsci.com\/roadkill-science#page-3\">https:\/\/www.popsci.com\/roadkill-science#page-3<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-4275\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CU_KESS2_EE.png\" alt=\"\" width=\"2480\" height=\"500\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CU_KESS2_EE.png 2480w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CU_KESS2_EE-300x60.png 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/CU_KESS2_EE-1024x206.png 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 2480px) 100vw, 2480px\" \/><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y Journal of Urban Ecology (Gwasg Prifysgol Rhydychen), gan brif awdur a myfyrwraig KESS 2, Amy Williams Schwartz o Brifysgol Caerdydd, yn nodi bod y nifer o anifeiliaid gwyllt sy\u2019n cael eu lladd gan gerbydau modur yn gallu bod yn llawer uwch nag sy\u2019n cael ei adrodd na\u2019i ddeall&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/roadside-scavengers\/\" title=\"DarllenCarthysyddion ar ochr y ffordd : Ymchwilwyr yn archwilio\u2019r anifeiliaid sy\u2019n cael eu lladd ar y ffordd nad ydym ni byth yn eu gweld\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4270,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[276,326,285,469],"class_list":["post-4267","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-cardiff-university","tag-environment","tag-students","tag-wwd2022"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4267","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4267"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4267\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4278,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4267\/revisions\/4278"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4270"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4267"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4267"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4267"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}