{"id":4325,"date":"2018-07-03T15:34:49","date_gmt":"2018-07-03T14:34:49","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=4325"},"modified":"2018-07-03T15:38:40","modified_gmt":"2018-07-03T14:38:40","slug":"2018-young-lipid-scientist-award","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/2018-young-lipid-scientist-award\/","title":{"rendered":"Myfyriwr PhD KESS 2 wedi&#8217;i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018 gan Gymdeithas y Diwydiant Cemegol (SCI)"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_4327\" style=\"width: 366px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4327\" class=\"wp-image-4327\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/YLSA1.jpg\" alt=\"\" width=\"356\" height=\"278\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/YLSA1.jpg 669w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/YLSA1-300x235.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 356px) 100vw, 356px\" \/><p id=\"caption-attachment-4327\" class=\"wp-caption-text\">Kirstie Goggin (canol) a&#8217;r eraill oedd ar y rhestr fer<\/p><\/div><\/p>\n<p>Mae Kirstie Goggin, cyfranogwr KESS 2 o Brifysgol De Cymru, yn un o chwe myfyriwr PhD yn y DU y mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol wedi&#8217;u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer &#8216;Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018&#8217; eleni. Ar ddydd Llun 18 Mehefin 2018, cafodd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer eu gwahodd i gyflwyno eu gwaith mewn digwyddiad yn Llundain, lle roedd aelodau uwch o ddiwydiannau cemegol y DU a gweddill y byd. Rhoddodd Kirstie gyflwyniad 15 munud o dan y teitl &#8216;GC-IMS Cyflym ar gyfer Dilysu Tarddiad Daearyddol a Chanfod Difwyniad Olew Palmwydd&#8217;, a oedd yn amlygu canlyniadau cyffrous ei hymchwil PhD.<\/p>\n<p>Mai lipidau yn rhannau sylfaenol o bob cell ac maent yn chwarae rolau allweddol mewn nifer o wahanol brosesau biocemegol. Gr\u0175p amrywiol o gyfansoddion organig sy&#8217;n cynnwys braster ac olew ydynt. Bob blwyddyn mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol yn cydnabod llwyddiannau ymchwilwyr ifanc ym maes cemeg lipidau gyda&#8217;i &#8216;Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau&#8217;. Mae&#8217;r wobr yn cydnabod rhagoriaeth a thalent sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg ym maes ymchwil cysylltiedig \u00e2 lipidau, mewn unrhyw faes sy&#8217;n ymwneud \u00e2 pheirianneg a&#8217;r gwyddorau bywyd a ffisegol.<\/p>\n<p>Dywedodd Kirstie: &#8220;roedd yn fraint bod fy ymchwil wedi cael ei gydnabod drwy gael ei roi ar y rhestr fer. Ar y diwrnod [y digwyddiad] fe gefais gyfle gwych i gyflwyno fy ngwaith i nifer o ffigurau uwch yn y diwydiant, ac i rwydweithio ag ymchwilwyr PhD o&#8217;r un anian \u00e2 mi. Roedd hi hefyd yn ddiddorol dysgu am yr ymchwil gwych sy&#8217;n cael ei gynnal mewn meysydd sy&#8217;n ymdrin ag agweddau eraill ar wyddoniaeth lipidau. Hoffwn ddiolch i&#8217;r trefnwyr am gydnabod fy ymchwil.&#8221;<\/p>\n<p>Caiff ymchwil Kirstie ei ariannu&#8217;n rhannol gan IMSPEX Diagnostics Ltd, Busnes Bach a Chanolig o Gymru sy&#8217;n cynhyrchu&#8217;r offer dadansoddi mae hi&#8217;n ei ddefnyddio i ddadansoddi olew llysiau. Caiff yr ymchwil ei ariannu hefyd gan Ysgoloriaethau Sgiliau&#8217;r Economi Wybodaeth (KESS 2) sy&#8217;n dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>I gydnabod ei gwaith ymhellach, mae Kirstie wedi cael ei gwahodd i gyflwyno ei chanfyddiadau diweddaraf mewn cynhadledd ryngwladol fawr ym Melffast sy&#8217;n cael ei threfnu gan Gymdeithas y Diwydiant Cemegol a Ffederasiwn Lipidau Ewrop (EuroFedLipid) ym mis Medi 2018. Gofynnwyd iddi hefyd ysgrifennu adolygiad ar gyfer cyfnodolyn o Ffrainc, Oilseeds Crops and Lipids (OCL).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/case-studies\/welsh-scientists-are-helping-to-keep-our-food-healthy-safe-and-sustainable\/\"><em>Rhagor o wybodaeth am brosiect ymchwil cydweithredol Kirstie&#8230;<\/em><\/a><\/p>\n<hr \/>\n<h3><strong>Gwybodaeth am Gymdeithas y Diwydiant Cemegol (SCI) <\/strong><\/h3>\n<p>Mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol yn un o&#8217;r prif gyrff sy&#8217;n cysylltu ymchwil gwyddonol \u00e2&#8217;r broses o&#8217;i gymhwyso i ddiwydiant er budd y cyhoedd. Ymysg ei chyn-aelodau nodedig mae Marie Stopes, yr ymgyrchydd adnabyddus dros hawliau merched. Roedd hi&#8217;n baleontolegydd ac yn ddaearegydd, ac yn 1903, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth yn y DU.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Kirstie Goggin, cyfranogwr KESS 2 o Brifysgol De Cymru, yn un o chwe myfyriwr PhD yn y DU y mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol wedi&#8217;u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer &#8216;Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018&#8217; eleni. Ar ddydd Llun 18 Mehefin 2018, cafodd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer eu&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/2018-young-lipid-scientist-award\/\" title=\"DarllenMyfyriwr PhD KESS 2 wedi&#8217;i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018 gan Gymdeithas y Diwydiant Cemegol (SCI)\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4327,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[336,340,278,330,285,295],"class_list":["post-4325","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-academics","tag-chemistry","tag-phd","tag-research-projects","tag-students","tag-university-of-south-wales"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4325","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4325"}],"version-history":[{"count":13,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4325\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4348,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4325\/revisions\/4348"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4327"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4325"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4325"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4325"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}