{"id":4950,"date":"2018-10-04T16:16:49","date_gmt":"2018-10-04T15:16:49","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=4950"},"modified":"2018-10-08T12:47:54","modified_gmt":"2018-10-08T11:47:54","slug":"universities-working-with-businesses","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/universities-working-with-businesses\/","title":{"rendered":"Pwysigrwydd Prifysgolion yn gweithio gyda busnesau (Erthygl Western Mail)"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_4749\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4749\" class=\"wp-image-4749 size-medium\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/WG-2-1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/WG-2-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/WG-2-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/WG-2-1.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-4749\" class=\"wp-caption-text\">Julie Morgan AM yn siarad gyda cyfranogwyr KESS 2 Phil Bowler (ConvaTec R&amp;D), Dr Hongyun Tai a Kenny Chan yn ystod ymweliad i Brifysgol Bangor.<\/p><\/div><\/p>\n<p>Er bod Cymru yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ar hyn o bryd, rydyn ni&#8217;n gwybod bod ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu\u2019n fawr ar ba mor dda y byddwn ni\u2019n datblygu ac yn buddsoddi yng nghenedlaethau\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hanfodol ein bod ni\u2019n creu ac yn datblygu mantais gystadleuol a bydd darparu adnoddau i gyfuno ymchwil, rhannu gwybodaeth a datblygu sgiliau lefel uwch yn hollbwysig i\u2019r tebygrwydd y byddwn yn sicrhau dyfodol cadarnhaol.<\/p>\n<p>Drwy gydweithio mewn ffyrdd hynod lwyddiannus, gallwn ddatblygu\u2019r dalent a&#8217;r arbenigedd sy&#8217;n bodoli eisoes mewn busnesau, prifysgolion a sefydliadau eraill yng Nghymru, gan eu helpu i ddatblygu syniadau arloesol ac ysbrydoledig sy\u2019n helpu i roi Cymru ar y map.<\/p>\n<p>Felly, mae hi\u2019n hollbwysig ein bod ni\u2019n buddsoddi mewn alinio gwaith ymchwil ein prifysgolion ag anghenion busnesau bach a chanolig yn ogystal \u00e2 gwasanaethau cyhoeddus, gan wella sgiliau lefel uchel i ddiwallu anghenion yr economi.<\/p>\n<p>Mae gan Brifysgolion r\u00f4l bwysig i\u2019w chwarae yn y gwaith o annog ffyniant ledled Cymru drwy ddarparu cyfleoedd i ymchwilwyr \u00f4l-radd ac academyddion wella eu sgiliau ymchwil mewn sectorau twf allweddol, a hefyd drwy gefnogi masnacheiddio\u2019r ymchwil hwnnw ymysg busnesau. Rhaid parhau i gynyddu nifer yr unigolion sydd \u00e2 sgiliau lefel uchel ym maes ymchwil ac arloesi ac sy&#8217;n gweithio mewn busnesau seiliedig ar wybodaeth yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae busnesau yn aml yn cynnig cyfleoedd i ymchwilwyr \u00f4l-radd sydd \u00e2 rhywfaint o brofiad o weithio mewn amgylchedd masnachol, os o gwbl, ac mae\u2019r busnes a\u2019r ymchwilydd yn elwa\u2019n fawr ar y bartneriaeth honno.<\/p>\n<p>Mae timau \u2018Cyfnewid Gwybodaeth\u2019 pwrpasol mewn prifysgolion yng Nghymru yn gallu helpu busnesau, academyddion ac ymchwilwyr \u00f4l-radd i weithio gyda\u2019i gilydd. Drwy ddatblygu a chyflawni prosiectau ar y cyd, gellir ysgogi dull tymor hir a fydd yn caniat\u00e1u i\u2019r gwaith barhau o&#8217;r cysyniad i lansio\u2019r cynnyrch.<\/p>\n<p>Mae tair elfen lwyddiannus i hyn, sef manteision i\u2019r myfyriwr, i\u2019r cwmni ac i\u2019r brifysgol. Nodwyd bod prifysgolion yn darparu dadansoddiad i ddweud wrthyn nhw mewn termau damcaniaethol yr hyn roedden nhw\u2019n credu yr oedden nhw&#8217;n ei wybod eisoes. Dywedodd un perchennog busnes: Doedden ni ddim yn gwybod cymaint ag yr oedden ni\u2019n feddwl yr oedden ni\u2019n ei wybod, nes i ni gael myfyriwr PhD\u201d. Felly, mae prifysgolion yn gallu sicrhau bod gan fusnesau fynediad at bobl ac adnoddau na fydden nhw fel arfer yn cael mynediad atynt.<\/p>\n<p>Un cynllun llwyddiannus sy&#8217;n cynorthwyo busnesau yw\u2019r prosiect Cymru gyfan sy\u2019n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor, sef \u2018Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2\u2019 (KESS 2). Mae hwn yn gynllun \u00a336m gan yr UE ac mae\u2019n helpu i gynyddu nifer y bobl \u00e2 sgiliau lefel uchel sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 mentrau. Nod y cynllun yw hybu a chynyddu gweithgareddau Ymchwil ac Arloesi yn y busnesau hynny, gan gynnwys cwmn\u00efau micro.<\/p>\n<p>Mae KESS 2 yn cyflwyno ystod o gyfleoedd cydweithio ar lefel Meistr Ymchwil a Doethuriaeth mewn Prifysgolion a chwmn\u00efau yng ngorllewin Cymru a\u2019r Cymoedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun yn canolbwyntio ar anghenion y cwmn\u00efau sy\u2019n cymryd rhan. Mae\u2019r rhaglen yn cynnig ffyrdd rhad y gall cwmn\u00efau ymgysylltu \u00e2 phrosiect ymchwil, ynghyd \u00e2 chyfle i ddatblygu perthynas hirdymor \u00e2 Phrifysgol. Hefyd, mae KESS 2 yn llwyfan i gael mynediad at y datblygiadau academaidd diweddaraf ac mae\u2019n gyfle i ddatblygu gweithgareddau ymchwilio a datblygu mewnol. Yn bwysig, mae&#8217;n cynnwys holl brifysgolion Cymru hefyd.<\/p>\n<p>Yn dilyn llwyddiant prosiect KESS rhwng 2009 a 2014, mae KESS 2 nawr yn yr ail rownd gyllido a bydd yn rhoi 645 o ysgoloriaethau dros chwe blynedd. Bydd ei bartneriaid yn amrywio o gwmn\u00efau bach a chanolig i gwmn\u00efau mawr, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus. Ymhlith yr enghreifftiau mae Gofal Canser Tenovus, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tata Steel, S4C, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Mencap Cymru, Halen M\u00f4n, Qioptiq Ltd., P&amp;S Nano Ltd., BioviciLtd. a Cultech Ltd.<\/p>\n<p>Bydd cwmn\u00efau newydd a chwmn\u00efau llai yn benodol yn elwa&#8217;n fawr ar y cynllun oherwydd yn aml, oherwydd eu maint, mae gwneud gwaith ymchwil y tu hwnt i\u2019w modd. Fodd bynnag, fel y gwelir o\u2019r rhestr o gwmn\u00efau amrywiol uchod, gall bob mathau o sefydliadau elwa, dim ots beth yw eu maint, oherwydd bod angen i bob un ddatblygu\u2019n barhaus.<\/p>\n<p>Er mwyn llwyddo a ffynnu, rhaid i Gymru barhau i ddefnyddio ei harbenigedd sylweddol, lle bynnag fo hynny. Drwy weithio gyda\u2019n gilydd ar draws sectorau a ffiniau traddodiadol, gallwn ymateb yn gyflym i alw cwsmeriaid, busnesau, defnyddwyr gwasanaethau a\u2019r llywodraeth. Dylem fod yn falch o\u2019r arbenigedd o\u2019r radd flaenaf sydd gennym yng Nghymru, a dylem barhau i wneud defnydd ohono er budd ein pobl.<\/p>\n<p>Mae astudiaethau achos manwl a chyfleoedd ysgoloriaeth KESS 2 ar gael yma: https:\/\/kess2.ac.uk\/<\/p>\n<p>Dr Penny Dowdney<br \/>\nRheolwr KESS 2 Cymru<br \/>\nPrifysgol Bangor<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Er bod Cymru yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ar hyn o bryd, rydyn ni&#8217;n gwybod bod ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu\u2019n fawr ar ba mor dda y byddwn ni\u2019n datblygu ac yn buddsoddi yng nghenedlaethau\u2019r dyfodol. Mae\u2019n hanfodol ein bod ni\u2019n creu ac yn datblygu mantais gystadleuol a bydd&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/universities-working-with-businesses\/\" title=\"DarllenPwysigrwydd Prifysgolion yn gweithio gyda busnesau (Erthygl Western Mail)\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4749,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,330],"class_list":["post-4950","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-research-projects"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4950","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4950"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4950\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4969,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4950\/revisions\/4969"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4749"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4950"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4950"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4950"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}