{"id":5163,"date":"2018-12-04T16:53:12","date_gmt":"2018-12-04T16:53:12","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=5163"},"modified":"2022-03-02T11:36:25","modified_gmt":"2022-03-02T11:36:25","slug":"the-global-value-of-bivalve-aquaculture","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/the-global-value-of-bivalve-aquaculture\/","title":{"rendered":"Gwerth byd-eang dyframaeth ddeuglawr : Andrew van der Schatte Olivier, cyfranogwr KESS 2, yn cyhoeddi papur yn y cyfnodolyn dylanwadol, \u2018Reviews in Aquaculture\u2019"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-5166\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/20180929_110642.jpg\" alt=\"Mussels\" width=\"1829\" height=\"889\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/20180929_110642.jpg 1829w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/20180929_110642-300x146.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/20180929_110642-1024x498.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1829px) 100vw, 1829px\" \/>Yn ddiweddar, cyhoeddwyd papur gan <strong>Andrew van der Schatte Olivier<\/strong>, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, yn y cyfnodolyn <strong>Reviews in Aquaculture<\/strong> (Ffactor Effaith 7.139). Mae Andrew yn nhrydedd blwyddyn ei ysgoloriaeth a ariennir gan KESS 2, ac mae ei bapur yn amcangyfrif gwerth byd-eang y gwasanaethau ecosystem y mae dyframaeth ddeuglawr yn eu darparu, a hynny mewn cydweithrediad \u00e2 <strong>Deep Dock Ltd<\/strong>, cwmni cynhyrchu cregyn gleision yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ystyr dyframaeth ddeuglawr (bivalve aquaculture) yw amaethu molysgiaid morol fel cocos, cregyn gleision a wystrys. Mae pysgod cregyn yn hidl-ymborthwyr felly maent yn hidlo d\u0175r a gronynnau gan greu is-haenau yn eu hamgylchedd. Mae\u2019r is-haenau hyn yn darparu cynefinoedd sy\u2019n gweithredu fel meithrinfeydd i rywogaethau morol eraill, gan ddarparu ecosystem unigryw ar gyfer bywyd morol yn yr ardal gyfagos.<\/p>\n<p>Fel dull ffermio morol, mae dyframaeth ddeuglawr yn cyflwyno llawer o fanteision i gymdeithas, y tu hwnt i werth marchnad traddodiadol pysgod cregyn fel bwyd, ac mae\u2019r papur yn amcangyfrif y gallai gwerth y gwasanaethau ecosystem hyn fod dros $6 biliwn y flwyddyn. Mae\u2019r nwyddau a ddaw yn sgil y gwasanaethau hyn yn cynnwys cig, gwerth $23.9 biliwn, yn ogystal \u00e2 pherlau, cregyn a grut dofednod. O\u2019r cynnyrch eilradd hwn, cregyn wystrys yw\u2019r mwyaf arwyddocaol, sydd werth $5.2\u00a0biliwn o bosibl yn fyd-eang.<\/p>\n<p>Un gwasanaeth pwysig y mae dyframaeth ddeuglawr yn ei ddarparu yw rheoleiddio\u2019r broses adfer maetholynnau. Mae pysgod cregyn wedi\u2019u hamaethu yn tynnu 49,000 tunnell fetrig o nitrogen a 6,000 tunnell fetrig o ffosfforws o gefnforoedd y byd, sy\u2019n wasanaeth diwydiannol \u00e2 gwerth posibl o $1.2 biliwn.<\/p>\n<p>Nid oes gwerth wedi cael ei bennu ar gyfer pob gwasanaeth ecosystem. Er enghraifft, does dim llawer o dystiolaeth o raddfa\u2019r gwasanaethau amaethu yn sgil dyframaeth deuglawr, ond mae\u2019r papur yn dadlau bod y gwerthoedd amaethyddol hyn yn helaeth, er ei bod yn anodd eu mesur a phennu eu gwerth.<\/p>\n<p>Dywedodd James Wilson o Deep Dock Ltd., \u201cRydym yn gwerthfawrogi\u2019r cyfle i fod yn rhan o\u2019r holl ymchwil, ond mae\u2019n arbennig o berthnasol mesur darpariaeth nwyddau a gwasanaethau ecosystemau yn nghyswllt pysgod cregyn wedi\u2019u amaethu \u2013 a hynny yng nghyd-destun dyframaeth. Mae hefyd yn ffordd o seilio penderfyniadau cymdeithasol yngl\u0177n \u00e2 sut byddwn yn diwallu ein hanghenion o ran protein yn y dyfodol yn sgil twf y boblogaeth a newid hinsawdd.\u201d<\/p>\n<p>Caiff prosiect ymchwil PhD Andrew ei gefnogi gan KESS 2 a Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a\u2019r cwmni nawdd, Deep Dock Ltd. Mae\u2019n brosiect cydweithredol seiliedig ar ddiwydiant a chanddo d\u00eem goruchwylio sy\u2019n cynnwys Prifysgol Bangor (Dr Shelagh Malham a\u2019r Arthro Lewis Le Vay), y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (yr Athro Laurence Jones), Prifysgol Aberystwyth (yr Athro Michael Christie) a Mr James Wilson (Deep Dock Ltd).<\/p>\n<p><em>DOI: 10.1111\/raq.12301<\/em><\/p>\n<p><strong>Gellir gweld y papur llawn wedi&#8217;i gyhoeddi yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/epdf\/10.1111\/raq.12301\">https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/epdf\/10.1111\/raq.12301<\/a><\/strong><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar, cyhoeddwyd papur gan Andrew van der Schatte Olivier, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, yn y cyfnodolyn Reviews in Aquaculture (Ffactor Effaith 7.139). Mae Andrew yn nhrydedd blwyddyn ei ysgoloriaeth a ariennir gan KESS 2, ac mae ei bapur yn amcangyfrif gwerth byd-eang y gwasanaethau ecosystem y mae dyframaeth ddeuglawr yn eu&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/the-global-value-of-bivalve-aquaculture\/\" title=\"DarllenGwerth byd-eang dyframaeth ddeuglawr : Andrew van der Schatte Olivier, cyfranogwr KESS 2, yn cyhoeddi papur yn y cyfnodolyn dylanwadol, \u2018Reviews in Aquaculture\u2019\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":5166,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,306,326,349,348,437,469],"class_list":["post-5163","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-biology","tag-environment","tag-marine","tag-ocean-science","tag-publication","tag-wwd2022"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5163","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5163"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5163\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5177,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5163\/revisions\/5177"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5166"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5163"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5163"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5163"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}