{"id":5379,"date":"2019-02-19T13:26:45","date_gmt":"2019-02-19T13:26:45","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=5379"},"modified":"2021-04-28T10:36:08","modified_gmt":"2021-04-28T09:36:08","slug":"kess-2-participant-nicole-hughes-publishes-paper-in-bmc-palliative-care-journal","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/kess-2-participant-nicole-hughes-publishes-paper-in-bmc-palliative-care-journal\/","title":{"rendered":"Cyfranogwr KESS 2 Nicole Hughes yn cyhoeddi papur yn y cylchgrawn BMC Palliative Care"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-5380\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/BMC.jpg\" alt=\"BMC Palliative Care Journal\" width=\"153\" height=\"217\" \/>Mae Nicole Marie Hughes, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, wedi llwyddo i gael cyhoeddi papur yng nghylchgrawn BMC Palliative Care. Bu Nicole yn gweithio ar y cyd \u00e2 phedair hosbis yng Ngogledd Cymru; Hosbis yn y Cartref (Gwynedd ac Ynys M\u00f4n), Hosbis Dewi Sant (Llandudno), Hosbis St Kentigern (Llanelwy) a Th\u0177\u2019r Eos (Wrecsam) i asesu\u2019n ansoddol ac yn feintiol yr effeithiau a gaiff hosbisau ar randdeiliaid pwysig.\u00a0 Mae hosbisau\u2019n darparu gofal i gleifion sy\u2019n dioddef o gyflyrau terfynol neu sy\u2019n cyfyngu ar eu bywyd a\u2019u teulu sy\u2019n rhoi gofal iddynt. Fodd bynnag, mae\u2019r hosbisau\u2019n mynd ymhellach na dim ond rheoli meddyginiaethau, poen a symptomau ac yn gofalu am y claf a\u2019i deulu fel uned mewn modd holistig; gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cymorth cymdeithasol, ysbrydol ac o ran llesiant.<\/p>\n<p>Yn anffodus, oherwydd fod adnoddau ariannol yn brin, a\u2019r galw mawr o ganlyniad i boblogaeth sy\u2019n heneiddio, mae hosbisau dan bwysau cynyddol. Oherwydd hynny, mae angen i hosbisau ddangos gwerth eu gweithgareddau mewn modd sy\u2019n taro tant gyda chyllidwyr posibl. Mae\u2019r PhD hwn yn defnyddio fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) nid yn unig i roi cyfrif am werth economaidd hosbisau ond hefyd i ddangos eu heffaith gymdeithasol ac amgylcheddol.\u00a0 Dim ond un elfen o\u2019r SROI yw\u2019r adolygiad systematig a gyhoeddwyd ac mae\u2019n gam cyntaf o ran canfod beth sydd orau gan gleifion a theuluoedd. Drwy osod rhanddeiliaid allweddol fel cleifion ac aelodau o\u2019r teulu sy\u2019n ofalwyr wrth galon y broses hon, mae\u2019r fframwaith yn cynnig mwy o ddealltwriaeth ynghylch sut y caiff pobl eu heffeithio gan weithgareddau hosbisau a\u2019r gwerth a roddant ar y gwasanaethau. Bydd gwneud hynny\u2019n hwyluso dealltwriaeth ddyfnach o oblygiadau ehangach a gwerth Hosbisau yng Ngogledd Cymru, yn helpu i ddatblygu ymyriadau a gwasanaethau cymorth a darparu pwynt cyfeirio ar gyfer hosbisau i hyrwyddo\u2019u heffaith a denu cyllid i&#8217;r dyfodol.<\/p>\n<p>Caiff prosiect ymchwil PhD Nicole ei gefnogi gan KESS 2 Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru a chan noddwyr cwmni Hosbis yn y Cartref Gwynedd ac Ynys M\u00f4n (Jayne Emsley), Hosbis Dewi Sant (Tristan Pritchard) Hosbis St Kentigern (Iain Mitchell) a Th\u0177\u2019r Eos (Steve Parry).\u00a0 Mae\u2019r prosiect yn gydweithrediad yn y diwydiant gyda th\u00eem goruchwylio ym Mhrifysgol Bangor (Yr Athro Jane Noyes a Dr Julia Wardaugh).<\/p>\n<p>Gellir gweld copi llawn o\u2019r papur a gyhoeddwyd, sef <strong>\u201cWhat do patients and family-caregivers value from hospice care? A systematic mixed studies review\u201d<\/strong> yma: <a href=\"https:\/\/bmcpalliatcare.biomedcentral.com\/articles\/10.1186\/s12904-019-0401-1\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/bmcpalliatcare.biomedcentral.com\/articles\/10.1186\/s12904-019-0401-1<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Nicole Marie Hughes, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, wedi llwyddo i gael cyhoeddi papur yng nghylchgrawn BMC Palliative Care. Bu Nicole yn gweithio ar y cyd \u00e2 phedair hosbis yng Ngogledd Cymru; Hosbis yn y Cartref (Gwynedd ac Ynys M\u00f4n), Hosbis Dewi Sant (Llandudno), Hosbis St Kentigern (Llanelwy) a Th\u0177\u2019r Eos (Wrecsam)&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/kess-2-participant-nicole-hughes-publishes-paper-in-bmc-palliative-care-journal\/\" title=\"DarllenCyfranogwr KESS 2 Nicole Hughes yn cyhoeddi papur yn y cylchgrawn BMC Palliative Care\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":5381,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,309,437,285],"class_list":["post-5379","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-healthcare","tag-publication","tag-students"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5379","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5379"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5379\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5383,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5379\/revisions\/5383"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5381"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5379"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5379"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5379"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}