{"id":5935,"date":"2019-12-17T10:08:49","date_gmt":"2019-12-17T10:08:49","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=5935"},"modified":"2019-12-17T10:11:28","modified_gmt":"2019-12-17T10:11:28","slug":"major-new-research-to-strengthen-sustainability-of-welsh-farming","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/major-new-research-to-strengthen-sustainability-of-welsh-farming\/","title":{"rendered":"Ymchwil newydd pwysig i wneud ffermio Cymru yn fwy cynaliadwy"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-5940\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/img20191126191.jpg\" alt=\"HCC\" width=\"950\" height=\"350\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/img20191126191.jpg 950w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/img20191126191-300x111.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 950px) 100vw, 950px\" \/><\/p>\n<p>Wrth i newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol gael mwy o sylw gan y cyhoedd, mae\u2019r corff cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC), yn helpu i ariannu ymchwil pwysig ym Mhrifysgol Bangor a fydd yn rhoi cymorth i\u2019r sectorau cig oen a chig eidion yng Nghymru i arwain y byd o ran ffermio cynaliadwy.<\/p>\n<p>Mae modd gwneud cais ar hyn o bryd am dair ysgoloriaeth PhD sydd wedi eu cyllido\u2019n llwyr, sef rhan o raglen KESS 2 (Ysgoloriaeth Sgiliau\u2019r Economi Wybodaeth), sy\u2019n galluogi prifysgolion a diwydiannau i gydweithredu er mwyn cefnogi ymchwil o bwysigrwydd strategol i sectorau economaidd hollbwysig.<\/p>\n<p>Bydd y tri ymchwilydd, \u00e2 chefnogaeth uwch-academyddion sy\u2019n cynnwys Dr. Prysor Williams, yn canolbwyntio ar \u2018Cyrraedd targedau amgylcheddol tra\u2019n cynnal proffidioldeb yn sector cig oen ac eidion Cymru\u2019, \u2018Strategaethau ar gyfer cwrdd \u00e2 thargedau i leihau allyriadau amonia a thrwytholchiad nitradau ar ffermydd cig eidion a defaid yng Nghymru\u2019 a \u2018Strategaethau i gyrraedd y nod o gynhyrchu defaid a gwartheg cig eidion yn ddi-garbon ar ffermydd Cymru\u2019.<\/p>\n<p>Bydd yr un ffynhonnell ariannu hefyd yn cefnogi\u00a0 PhD ym Mangor ar \u2018Pennu\u2019r potensial ar gyfer pori trachywir i wneud systemau cynhyrchu da byw yn wytnach.\u2019<\/p>\n<div id=\"attachment_5937\" style=\"width: 195px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5937\" class=\"wp-image-5937 size-medium\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HCC19115-Major-new-research-to-strengthen-sustainability-of-Welsh-farming-185x300.jpg\" alt=\"\" width=\"185\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HCC19115-Major-new-research-to-strengthen-sustainability-of-Welsh-farming-185x300.jpg 185w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/HCC19115-Major-new-research-to-strengthen-sustainability-of-Welsh-farming-631x1024.jpg 631w\" sizes=\"auto, (max-width: 185px) 100vw, 185px\" \/><p id=\"caption-attachment-5937\" class=\"wp-caption-text\">Dr. Prysor Williams yn trafod amaeth a chynaliadwyedd yng nghyhadledd Hybu Cig Cymru.<\/p><\/div>\n<p>Esboniodd Rheolwr Datblygu\u2019r Diwydiant yn HCC, John Richards, fod y bwrdd cig coch eisoes wedi lansio rhaglen i wneud y cyhoedd yn ymwybodol o\u2019r effaith isel y mae cynhyrchu cig defaid a chig eidion yn ei gael ar yr amgylchedd yng Nghymru mewn cymhariaeth \u00e2 rhannau eraill o\u2019r byd. Ychwanegodd y byddai\u2019r ymchwil hwn yn helpu i hybu datblygiadau yn y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cMae defnyddwyr am wybod fod y cig y maen nhw\u2019n ei brynu wedi cael ei gynhyrchu i safonau uchel ar y fferm \u2013 o ran lles anifeiliaid ac olrheinedd, ac, yn gynyddol, o ran cynaliadwyedd amgylcheddol,\u201d meddai John. \u201cMae gan Gymru neges bwerus a phositif eisoes oherwydd mae\u2019r rhan fwyaf o ddigon o ddefaid a gwartheg yn cael eu magu mewn systemau sy\u2019n dibynnu ar borfa naturiol a d\u0175r, gan gynhyrchu llai o allyriadau na llawer o systemau ffermio eraill y byd.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd: \u201cMae ymchwil rhyngwladol, fel adroddiad IPCC ar y defnydd o dir yn fyd-eang, yn nodi rhan bwysig i ffermio da byw trwy ddulliau cynaliadwy fel rhan o\u2019r ateb i newid yn yr hinsawdd a diogelwch bwyd. Mae dyfodol ffermio yng Nghymru yn dibynnu ar y sector yn gallu trosglwyddo neges i\u2019r cyhoedd fod gennym eisoes stori ragorol i\u2019w hadrodd, a dangos ein bod yn gwneud popeth posibl i leihau allyriadau yn fwy byth a ffermio yn y ffordd fwyaf cyfrifol o ran yr amgylchedd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Prysor Williams: \u201cRydym wrth ein bodd ein bod yn mynd i weithio mor agos gyda HCC dros y tair i bedair blynedd nesaf trwy gyfrwng rhaglen KESS 2. Bydd i\u2019r prosiectau hyn wir werth gwyddonol, ac wrth gwrs byddan nhw o wir fudd i\u2019r sector cig coch, defnyddwyr a\u2019r amgylchedd yng Nghymru. Bydd pawb ar eu hennill. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau ar gyfer y gwaith cyffrous hwn.\u201d<\/p>\n<p>Mae HCC wedi cyd-ariannu sawl ysgoloriaeth ymchwil PhD gyda nifer o sefydliadau academaidd, fel rhan o\u2019i raglen ehangach o ymchwil a datblygu sydd \u00e2\u2019r nod o ddod \u00e2 buddion ymarferol i ffermio a phrosesu yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfleoedd hyn yn cael eu cefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) trwy Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen KESS 2 Dwyrain sy\u2019n cysylltu cwmn\u00efau a sefydliadau ag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch i ymgymryd \u00e2 phrosiectau ymchwil cydweithredol.<\/p>\n<p><strong>Mae modd cyflwyno ceisiadau tan 12 hanner dydd ar 20 Ionawr 2020.<\/strong><\/p>\n<h2>Sut i wneud cais:<\/h2>\n<p>Cliciwch ar y dolenni a ganlyn i ddysgu mwy am bob prosiect a sut i wneud cais (mae&#8217;r dolenni yn agor mewn ffenest newydd):<\/p>\n<table width=\"100%\">\n<tbody>\n<tr>\n<td><a href=\"https:\/\/www.findaphd.com\/phds\/project\/kess2-scholarship-determining-the-potential-for-precision-grazing-to-improve-the-resilience-of-livestock-production-systems\/?p116053\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ysgoloriaeth KESS2: Pennu\u2019r potential ar gyfer pori trachywir i wneud systemau cynhyrchu da byw yn wytnach.<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><a href=\"https:\/\/www.findaphd.com\/phds\/project\/kess2-scholarship-meeting-environmental-targets-while-maintaining-profitability-for-the-sheep-and-beef-sectors-in-wales\/?p116055\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ysgoloriaeth KESS2: Cyrraedd targedau amgylcheddol tra\u2019n cynnal proffidioldeb i\u2019r sectorau defaid a chig eidion yng Nghymru<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><a href=\"https:\/\/www.findaphd.com\/phds\/project\/kess2-scholarship-strategies-for-meeting-targets-for-ammonia-emissions-and-nitrate-leaching-reduction-for-welsh-beef-and-sheep-farms\/?p116054\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ysgoloriaeth KESS2: Strategaethau i gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau amonia a thrwytholchiad nitradau ar ffermydd cig eidion a defaid yng Nghymru<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><a href=\"https:\/\/www.findaphd.com\/phds\/project\/kess2-scholarship-strategies-to-reach-zero-carbon-sheep-and-beef-production-on-welsh-farms\/?p116057\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ysgoloriaeth KESS2: Strategaethau i gyrraedd y nod o gynhyrchu defaid a gwartheg cig eidion yn ddi-garbon ar ffermydd Cymru<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol gael mwy o sylw gan y cyhoedd, mae\u2019r corff cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC), yn helpu i ariannu ymchwil pwysig ym Mhrifysgol Bangor a fydd yn rhoi cymorth i\u2019r sectorau cig oen a chig eidion yng Nghymru i arwain y byd o ran ffermio cynaliadwy&#8230;.  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/major-new-research-to-strengthen-sustainability-of-welsh-farming\/\" title=\"DarllenYmchwil newydd pwysig i wneud ffermio Cymru yn fwy cynaliadwy\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":5945,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[288,335,273,347,330,284],"class_list":["post-5935","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-aberystwyth-university","tag-agriculture","tag-bangor-university","tag-kess-2-east","tag-research-projects","tag-sustainability"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5935","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5935"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5935\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5944,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5935\/revisions\/5944"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5945"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5935"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5935"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5935"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}