{"id":6147,"date":"2020-01-23T14:25:41","date_gmt":"2020-01-23T14:25:41","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=6147"},"modified":"2020-01-23T14:25:41","modified_gmt":"2020-01-23T14:25:41","slug":"positive-psychology-a-new-approach-to-promoting-healthy-behaviour","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/positive-psychology-a-new-approach-to-promoting-healthy-behaviour\/","title":{"rendered":"Seicoleg gadarnhaol: Dull Newydd o Hyrwyddo Ymddygiad Iach"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-6150\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/exercise-hobby-jog-jogger-7432.jpg\" alt=\"\" width=\"2000\" height=\"1100\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/exercise-hobby-jog-jogger-7432.jpg 2000w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/exercise-hobby-jog-jogger-7432-300x165.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/exercise-hobby-jog-jogger-7432-1024x563.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 2000px) 100vw, 2000px\" \/><\/p>\n<p>Rydym yn gwybod ers peth amser bod\u00a0 anweithgarwch corfforol, diet gwael, problem wrth ddefnyddio alcohol ac ysmygu yn achosi goblygiadau iechyd hirdymor sylweddol. Ond mae gwrthdroi tueddiadau ffordd o fyw sydd yn y pen draw yn arwain at gyflyrau fel gordewdra a chlefyd y galon, yn anodd awn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r problemau iechyd hyn yn lleihau ansawdd a hyd bywyd yn sylweddol i bobl ledled y byd. Gyda hyn mewn golwg, mae&#8217;n bwysig datblygu strategaethau newydd a all fynd i&#8217;r afael ag un o faterion iechyd cyhoeddus pwysicaf ein hoes.<\/p>\n<p>Mae ffordd newydd a chyffrous o ymdrin \u00e2&#8217;r mater hwn wedi dod i ychydig o gasgliadau diddorol. Fel rhan o gydweithrediad rhwng T\u00eem Iechyd Cyhoeddus<a href=\"http:\/\/www.wales.nhs.uk\/sitesplus\/861\/hafan\">\u00a0Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr<\/a>\u00a0a&#8217;r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/psychology\/index.php.cy\">Ysgol Seicoleg\u00a0<\/a>ym Mhrifysgol Bangor, daeth\u00a0 project ymchwil PhD i&#8217;r casgliad bod seicoleg gadarnhaol &#8211; astudio cryfderau a rhinweddau sy&#8217;n helpu pobl i deimlo&#8217;n dda yn feddyliol &#8211; yn gallu hyrwyddo ymddygiad iach hefyd.<\/p>\n<p>Un peth pwysig iawn a welwyd oedd bod pobl gydag amcanion penodol ac arwyddocaol mewn bywyd yn fwy tebygol o ymddwyn yn iach yn gorfforol, hyd yn oed os nad oedd yr amcanion hyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol \u00e2&#8217;u hiechyd corfforol.<\/p>\n<p>Roedd y project hwn, a ddechreuwyd yn 2016, yn un o&#8217;r cyntaf o&#8217;i fath, a chafodd ei ariannu ar y cyd gan Awyr Las, ac Ysgoloriaeth Sgiliau&#8217;r Economi Gwybodaeth (KESS 2).<\/p>\n<p>Meddai Dr Rhi Willmot, a arweiniodd y PhD:<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r canlyniadau&#8217;n awgrymu y gall dulliau sy&#8217;n helpu pobl i wella eu lles meddyliol, fel cadw dyddiadur adfyfyriol a gosod amcanion,\u00a0 gefnogi ymddygiad ffordd iach o fyw hefyd. Roedd yn bleser cael bod yn rhan o\u2019r cydweithrediad hwn ac ymchwilio i sut y gellir lleddfu baich sylweddol cyflyrau iechyd a achosir gan ffordd o fyw.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Rob Atenstaedt, ymgynghorydd mewn meddygaeth iechyd cyhoeddus yn nh\u00eem iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:<\/p>\n<p>\u201cMae hwn yn faes astudio academaidd sydd wedi bod yn galw am fwy o ymchwil. Credaf fod y project hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i dystiolaeth newydd. Bydd ein t\u00eem yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio&#8217;r canfyddiadau ym maes ymarfer iechyd cyhoeddus bob dydd yng Ngogledd Cymru.&#8221;<\/p>\n<p>Dros gyfnod o dair blynedd, cynhaliwyd chwe astudiaeth gyda chyfranogwyr o&#8217;r gymuned leol, rhedwyr yn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.parkrun.org.uk\/penrhyn\/\">Parkrun Penrhyn\u00a0<\/a>, a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y rhain yn cynnwys ymchwilio i&#8217;r ymarfer o gadw dyddiadur a fwriadwyd i&#8217;w helpu i nodi amcanion personol pwysig, a thasg a oedd yn cynnwys meddwl am y byd mewn termau &#8216;lefel isel&#8217; neu &#8216;ddarlun ehangach&#8217;, cyn gwneud penderfyniadau am fwyta ac ymarfer corff.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro John Parkinson, a oruchwyliodd y project:<\/p>\n<p>\u201cMae canlyniadau&#8217;r PhD hwn yn gyfraniad pwysig a gwreiddiol i&#8217;r sylfaen wybodaeth ddamcaniaethol a datblygu polisi cyhoeddus. Rwy&#8217;n gobeithio y gall y cydweithio rhwng Prifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru barhau er mwyn creu dealltwriaeth lawn ac arloesol\u00a0 am wyddoniaeth ac ymarfer.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Penny Dowdney, Rheolwr KESS 2 Cymru: \u201cMae&#8217;n rhoi boddhad mawr i mi weld canlyniadau&#8217;r ymchwil gydweithredol hon, a ariennir gan KESS 2, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Dyma enghraifft wych o ymchwil gydweithredol yn gweithio&#8217;n dda\u201d.<\/p>\n<p>Gallwch ddarllen adroddiad byr am y gwaith\u00a0<a href=\"https:\/\/drive.google.com\/file\/d\/1yK75WaseWqEVlqeCsbkmpvdo-J4AZ5Q1\/view\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n<p><em>Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan newyddion Prifysgol Bangor ar 22 Ionawr 2020:<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/seicoleg-gadarnhaol-dull-newydd-o-hyrwyddo-ymddygiad-iach-42971\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/seicoleg-gadarnhaol-dull-newydd-o-hyrwyddo-ymddygiad-iach-42971<\/a><br \/>\n<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn gwybod ers peth amser bod\u00a0 anweithgarwch corfforol, diet gwael, problem wrth ddefnyddio alcohol ac ysmygu yn achosi goblygiadau iechyd hirdymor sylweddol. Ond mae gwrthdroi tueddiadau ffordd o fyw sydd yn y pen draw yn arwain at gyflyrau fel gordewdra a chlefyd y galon, yn anodd awn. Mae&#8217;r problemau iechyd hyn yn lleihau ansawdd&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/positive-psychology-a-new-approach-to-promoting-healthy-behaviour\/\" title=\"DarllenSeicoleg gadarnhaol: Dull Newydd o Hyrwyddo Ymddygiad Iach\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":6149,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,301,300,302],"class_list":["post-6147","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-mental-health","tag-psychology","tag-wellbeing"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6147","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6147"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6147\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6152,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6147\/revisions\/6152"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6149"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6147"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6147"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6147"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}