{"id":6177,"date":"2020-01-30T10:25:24","date_gmt":"2020-01-30T10:25:24","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=6177"},"modified":"2020-01-30T10:25:24","modified_gmt":"2020-01-30T10:25:24","slug":"public-procurement-expo","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/public-procurement-expo\/","title":{"rendered":"Arddangosfa Caffael Cyhoeddus gyda phresenoldeb KESS 2 yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-medium wp-image-6178\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/expo2020-300x150.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"150\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/expo2020-300x150.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/expo2020.jpg 369w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Cynhelir arddangosfa&#8217;n trafod Caffael Cyhoeddus a Nodau Deddf Lles Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor ddydd Mawrth 4 Chwefror. Yno, bydd swyddogion caffael o bob rhan o&#8217;r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, academyddion ac arweinwyr eraill ym maes caffael cyhoeddus, yn rhoi sylw i sut y gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio bwyd lleol, a gynhyrchir mewn modd mwy cynaliadwy, a chwrdd \u00e2&#8217;r nodau llesiant.<\/p>\n<p>Bydd Dr Eifiona Thomas Lane a Luke Prosser, myfyriwr PhD a ariennir trwy raglen KESS 2, sy&#8217;n astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn rhoi cyflwyniad yngl\u0177n \u00e2 Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol, a&#8217;r cyfleoedd i gyflawni&#8217;r nodau llesiant trwy gaffael bwyd lleol.<\/p>\n<p>Hefyd yn siarad bydd cynrychiolwyr o&#8217;r Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol ar Gaffael Bwyd Dynamig, Gwasanaethau Masnachol y Goron a Bwyd am Oes.<\/p>\n<p>Mae a wnelo&#8217;r digwyddiad hwn, a gynhelir gan M\u00f4n Larder, Menter M\u00f4n ac Is-adran Bwyd a Diod Cymru, Llywodraeth Cymru, yn uniongyrchol ag ymchwil sy&#8217;n cael ei gwneud ar hyn o bryd fel rhan o&#8217;r cyrsiau daearyddiaeth ym Mangor, ac yn enwedig gwaith PhD Luke Prosser ar gadwyni cyflenwi bwyd a diod cynaliadwy yng Nghymru, ac ymchwil ehangach i ddiwydiannau bwyd cynaliadwy gan Dr Eifiona Thomas Lane a Rebecca Jones.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r digwyddiad hwn yn arwydd o ymrwymiad parhaus i gyfnewid gwybodaeth rhwng y Brifysgol, academyddion a sefydliadau ehangach a chyrff cyhoeddus yng ngogledd Cymru.<\/p>\n<p>Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Luke Prosser gyda Menter M\u00f4n dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae KESS 2 yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. .\u00a0 Fe&#8217;i cyllidir KESS 2 yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a&#8217;r Cymoedd ac mae yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi\u2019u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a\u2019r Cymoedd).\u00a0 Mae elfennau\u2019r Meistri Ymchwil a PhD wedi\u2019u cyfuno \u00e2 rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster \u00d4l-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS 2 yn parhau tan 2022, ac yn darparu 600+ o leoedd PhD a Meistr Ymchwil ar draws Cymru.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:\u00a0<a href=\"mailto:Eifiona.thomaslane@bangor.ac.uk\">Eifiona.thomaslane@bangor.ac.uk<\/a><\/p>\n<p><em>Wedi ei gyhoeddi yn wreiddiol yn: <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/arddangosfa-caffael-cyhoeddus-43055\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/arddangosfa-caffael-cyhoeddus-43055<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhelir arddangosfa&#8217;n trafod Caffael Cyhoeddus a Nodau Deddf Lles Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor ddydd Mawrth 4 Chwefror. Yno, bydd swyddogion caffael o bob rhan o&#8217;r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, academyddion ac arweinwyr eraill ym maes caffael cyhoeddus, yn rhoi sylw i sut y gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio bwyd lleol, a gynhyrchir&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/public-procurement-expo\/\" title=\"DarllenArddangosfa Caffael Cyhoeddus gyda phresenoldeb KESS 2 yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":6180,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[283,1],"tags":[273,286,330,284],"class_list":["post-6177","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-events","category-news","tag-bangor-university","tag-business","tag-research-projects","tag-sustainability"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6177","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6177"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6177\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6179,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6177\/revisions\/6179"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6180"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6177"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6177"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6177"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}