{"id":6194,"date":"2020-02-04T09:36:39","date_gmt":"2020-02-04T09:36:39","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=6194"},"modified":"2020-02-04T09:36:39","modified_gmt":"2020-02-04T09:36:39","slug":"wellbeing-benefits-of-outdoor-activities","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wellbeing-benefits-of-outdoor-activities\/","title":{"rendered":"Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_6196\" style=\"width: 4138px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6196\" class=\"wp-image-6196 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/TRYS-Burke-ODA-PSL-Sail.jpg\" alt=\"Trys Burke 2020\" width=\"4128\" height=\"2322\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/TRYS-Burke-ODA-PSL-Sail.jpg 4128w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/TRYS-Burke-ODA-PSL-Sail-300x169.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/TRYS-Burke-ODA-PSL-Sail-1024x576.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 4128px) 100vw, 4128px\" \/><p id=\"caption-attachment-6196\" class=\"wp-caption-text\">Gr\u0175p yn mwynhau codi hwyliau ar gaiac m\u00f4r. Credyd llun: Trys Burke<\/p><\/div><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Disgrifiwyd y gogledd fel &#8216;Prifddinas Antur Ewrop&#8217; ac mae eleni&#8217;n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu&#8217;r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi&#8217;r effeithiau llesol.<\/p>\n<p>Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw&#8217;n bosib cynyddu&#8217;r manteision llesol i rai unigolion o gael eu cefnogi gan bobl sy&#8217;n wynebu heriau tebyg, neu &#8216;gymheiriaid&#8217;.<\/p>\n<p>Wrth arwain gr\u0175p o gyn-filwyr dall, o Blind Veterans UK, mewn arforgampau oddi ar arfordir Ynys M\u00f4n, gwelodd Trys Burke o Snowdonia Watersports fod pawb yn cefnogi ei gilydd ac yn gallu annog ei gilydd mewn ffyrdd na allai hithau oherwydd nad oedd hi\u2019n ddall.<\/p>\n<p>\u201cO gamu&#8217;n \u00f4l ar adeg briodol a gadael i un o\u2019r cyfranogwyr hyderus arwain y lleill trwy ran fach o&#8217;r cwrs, gallwn weld hyder a mwynhad y gr\u0175p yn tyfu ac yn tyfu,\u201d meddai Trys.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yr arweinydd cymheiriaid yn cynnig llawer mwy o ysbrydoliaeth nag y gallwn i fyth, oherwydd roedd yn deall yn iawn sut oedd y lleill yn teimlo, ac yn gwybod yr hyn allen nhw ei wneud a&#8217;r hyn na allen nhw ei wneud. Roedd y gr\u0175p yn ymddiried yn llwyr ynddo ac oherwydd hynny roeddent yn hamddenol ac yn cyflawni llawer mwy na&#8217;r disgwyl.\u201d<\/p>\n<p>Mewn gofal iechyd, mae cefnogwyr cymheiriaid (a elwir hefyd yn arweinwyr cymheiriaid neu&#8217;n fentoriaid cymheiriaid) yn aml yn gweithio mewn r\u00f4l lle maent yn defnyddio eu profiadau ac yn rhannu&#8217;r profiadau hynny i ysbrydoli, hysbysu a chefnogi&#8217;r lleill mewn sefyllfaoedd tebyg, i&#8217;w helpu nhw ddod o hyd i&#8217;w llwybr eu hunain at wellhad neu fywyd hapusach.<\/p>\n<p>Mae Trys bellach yn gwneud PhD yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ddatblygu model o gefnogaeth cymheiriaid a&#8217;i dreialu yn yr awyr agored.<\/p>\n<p>\u201cFydd hi ddim yn hawdd\u201d meddai. \u201cMae&#8217;r awyr agored yn amgylchedd deinamig iawn ac yn aml yn beryglus. Mae&#8217;n hollbwysig gwybod pryd a ble sydd orau i ganiat\u00e1u i&#8217;r gweithiwr cefnogi cymheiriaid gymryd yr awennau, ond mae manteision cymryd rheolaeth, hyd yn oed am gyfnod byr, yn cynnig mwy o gyfleoedd i fagu hyder ac ymddiriedaeth yn y gr\u0175p.&#8221;<\/p>\n<div id=\"attachment_6197\" style=\"width: 2026px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6197\" class=\"wp-image-6197 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Trys-Burke-Crafnant-Simon-Burke.jpg\" alt=\"Simon Burke\" width=\"2016\" height=\"1512\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Trys-Burke-Crafnant-Simon-Burke.jpg 2016w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Trys-Burke-Crafnant-Simon-Burke-300x225.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Trys-Burke-Crafnant-Simon-Burke-1024x768.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 2016px) 100vw, 2016px\" \/><p id=\"caption-attachment-6197\" class=\"wp-caption-text\">Criw&#8217;n cerdded ger Llyn Crafnant. Credyd llun: Simon Burke<\/p><\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bydd yr ymchwil hwnnw hefyd yn rhoi sylw i dargedau Llywodraeth Cymru <a href=\"https:\/\/futuregenerations.wales\/\">yn Neddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol (Cymru) 2015<\/a> a bydd yn cynnig rhaglenni newydd posib i gleientiaid canolfannau gweithgareddau&#8217;r gogledd.<\/p>\n<p>Dywedodd Chris Thorne perchennog Snowdonia Watersports yn Llanberis, a phartner cwmni&#8217;r project:<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o grwpiau cymunedol lleol, a nifer ohonynt ag anghenion cymhleth, yn dod atom ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn rheolaidd.\u00a0 Mae&#8217;n wych iawn gallu cynnig rhaglen ddatblygu i&#8217;n cleientiaid a&#8217;u haelodau yn yr awyr agored a fydd yn mynd \u00e2&#8217;r aelodau ar siwrnai y tu hwnt i gymryd rhan yn y gweithgareddau&#8217;n unig.&#8221;<\/p>\n<p>Cyllidir yr ymchwil trwy Raglen Ysgoloriaethau Sgiliau\u2019r Economi Gwybodaeth (KESS 2). Caiff KESS 2 ei gyllido&#8217;n rhannol gan raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a&#8217;r Cymoedd ac mae&#8217;n cefnogi projectau ymchwil cydweithredol gyda phartneriaid allanol yn ardal Cydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a&#8217;r Cymoedd).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am y project neu os yw&#8217;ch cwmni am gymryd rhan yn y dylunio a&#8217;r cyflwyno, cysylltwch \u00e2 Trys Burke <a href=\"mailto:t.burke@bangor.ac.uk\">t.burke@bangor.ac.uk<\/a> or Dr Patricia Masterson-Algar <a href=\"mailto:p.m.algar@bangor.ac.uk\">p.m.algar@bangor.ac.uk<\/a><\/p>\n<p><em>Gweler hefyd:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/cefnogaeth-cymheiriaid-yn-helpu-cynyddu-effeithiau-llesol-gweithgareddau-awyr-agored-43076\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/news\/diweddaraf\/cefnogaeth-cymheiriaid-yn-helpu-cynyddu-effeithiau-llesol-gweithgareddau-awyr-agored-43076<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&nbsp; Disgrifiwyd y gogledd fel &#8216;Prifddinas Antur Ewrop&#8217; ac mae eleni&#8217;n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu&#8217;r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi&#8217;r effeithiau llesol. Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw&#8217;n bosib cynyddu&#8217;r manteision llesol&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wellbeing-benefits-of-outdoor-activities\/\" title=\"DarllenCefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":6195,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,309,301,284,302],"class_list":["post-6194","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-healthcare","tag-mental-health","tag-sustainability","tag-wellbeing"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6194","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6194"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6194\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6199,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6194\/revisions\/6199"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6195"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6194"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6194"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6194"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}