{"id":7501,"date":"2020-07-07T13:57:22","date_gmt":"2020-07-07T12:57:22","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=7501"},"modified":"2021-04-28T10:35:19","modified_gmt":"2021-04-28T09:35:19","slug":"economic-value-of-ecosystem-services-ashley-hardaker","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/economic-value-of-ecosystem-services-ashley-hardaker\/","title":{"rendered":"Gwerth economaidd gwasanaethau ecosystem o ucheldiroedd Cymru: Ashley Hardaker myfyriwr ar raglen KESS 2 yn cyhoeddi papur mewn cyfnodolyn rhyngwladol \u2018Ecosystems Services\u2019"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_7502\" style=\"width: 5753px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7502\" class=\"wp-image-7502 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Chapter-1-ES-Monetary.jpeg\" alt=\"Ashley Hardaker\" width=\"5743\" height=\"2418\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Chapter-1-ES-Monetary.jpeg 5743w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Chapter-1-ES-Monetary-300x126.jpeg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Chapter-1-ES-Monetary-1024x431.jpeg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 5743px) 100vw, 5743px\" \/><p id=\"caption-attachment-7502\" class=\"wp-caption-text\">\u00a9 Hardaker et al. (2020)<\/p><\/div><\/p>\n<p>Yn ddiweddar cyhoeddodd Ashley Hardaker myfyriwr PhD ar raglen KESS 2 ei bapur cyntaf o&#8217;i PhD yn y cyfnodolyn <em>Ecosystem Services<\/em> (Impact Factor 5.572). Ar hyn o bryd mae Ashley yn nhrydedd flwyddyn ei ysgoloriaeth a ariennir gan KESS 2 gan weithio ar y cyd \u00e2 Choed Cymru CYF ac mae ei bapur yn amcangyfrif gwerth economaidd gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan ddefnydd tir ar ucheldiroedd Cymru.<\/p>\n<p>Tir pori dwysedd isel ar gyfer defaid a gwartheg (sy&#8217;n cynnwys tua 80% o&#8217;r ardal) yw\u2019r defnydd tir mwyaf \u00a0yn ucheldiroedd Cymru, gydag ardaloedd llai yn cynhyrchu coed meddal o ansawdd uchel ar raddfa fach bob yn ail ag ardaloedd o goetir amwynder anghynhyrchiol (sy&#8217;n cynnwys yr 20% sy&#8217;n weddill).\u00a0\u00a0 Mae potensial mawr o ran gwerth i ddefnydd tir yn ucheldiroedd Cymru o safbwynt darparu gwasanaethau ecosystem \u2014 sydd o fudd i gymdeithas \u2014 na fanteisir arno ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth yn yr ucheldiroedd yn darparu nifer o fuddion ychwanegol \u2018nad ydynt yn ymwneud \u00e2&#8217;r farchnad\u2019\u00a0 (gan gynnwys cyflenwi d\u0175r, dal a storio carbon, lliniaru llifogydd a chyflogaeth) yn ogystal \u00e2 buddion \u2018marchnad\u2019\u00a0 fel\u00a0 da byw, cnydau \u00e2r a chynhyrchu coed. Mae&#8217;r papur hwn yn amcangyfrif mai gwerth economaidd y buddion a geir o&#8217;r gwasanaethau ecosystem hyn yw \u00a31.47 biliwn y flwyddyn. Mae anfanteision hefyd i gymdeithas yn sgil y defnyddiau tir hyn (gan gynnwys ansawdd d\u0175r is ac allyriadau nwyon t\u0177 gwydr) sydd, yn \u00f4l amcangyfrifon, yn arwain at gostau economaidd o \u00a3101.5 miliwn y flwyddyn.<\/p>\n<p>Prif ganfyddiad y papur hwn yw\u2019r anghydbwysedd yn y ddarpariaeth o wasanaethau ecosystem rhwng buddion preifat (a ddaw i ffermwyr, tirfeddianwyr a chwmn\u00efau preifat) a buddion cyhoeddus (i gymdeithas). O dan y cyfuniad presennol o amaethyddiaeth a choedwigaeth yn ucheldiroedd Cymru, mae \u00a31.3 biliwn y flwyddyn (88%) o fuddion gwasanaeth ecosystem yn fuddion preifat ond dim ond \u00a3170 miliwn y flwyddyn (12%) sy\u2019n fuddion cyhoeddus. Gallai hyn ddeillio\u2019n rhannol o fylchau mewn gwybodaeth a thystiolaeth gyfyngedig yn ymwneud \u00e2 gwasanaethau ecosystem cyhoeddus ychwanegol, gan gynnwys buddion diwylliannol fel hamdden ac amwynder tirwedd yn ogystal \u00e2 buddion eraill o ran rheoleiddio megis cynnal a chadw ansawdd d\u0175r o goetiroedd ar lannau afonydd. Wedi dweud hynny, mae&#8217;r papur yn dadlau bod lle i gynyddu buddion gwasanaeth ecosystem cyhoeddus o ucheldiroedd Cymru.<\/p>\n<p>Cefnogir prosiect ymchwil PhD Ashley gan KESS 2 a ariennir yn rhannol drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru a gan y noddwyr Coed Cymru Cyf. Mae&#8217;r prosiect yn gydweithrediad sy&#8217;n seiliedig ar ddiwydiant gyda th\u00eem goruchwylio wedi&#8217;i leoli ym Mhrifysgol Bangor (Dr Tim Pagella a Dr Mark Rayment) a Gareth Davies (Coed Cymru Cyf).<\/p>\n<p>Teitl y papur cyhoeddedig llawn yw \u201c<em>Integrated assessment, valuation and mapping of ecosystem services and dis-services from upland land use in Wales<\/em>\u201d gellir ei weld yma: <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/abs\/pii\/S2212041620300401\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/abs\/pii\/S2212041620300401<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar cyhoeddodd Ashley Hardaker myfyriwr PhD ar raglen KESS 2 ei bapur cyntaf o&#8217;i PhD yn y cyfnodolyn Ecosystem Services (Impact Factor 5.572). Ar hyn o bryd mae Ashley yn nhrydedd flwyddyn ei ysgoloriaeth a ariennir gan KESS 2 gan weithio ar y cyd \u00e2 Choed Cymru CYF ac mae ei bapur yn amcangyfrif&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/economic-value-of-ecosystem-services-ashley-hardaker\/\" title=\"DarllenGwerth economaidd gwasanaethau ecosystem o ucheldiroedd Cymru: Ashley Hardaker myfyriwr ar raglen KESS 2 yn cyhoeddi papur mewn cyfnodolyn rhyngwladol \u2018Ecosystems Services\u2019\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":7502,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[335,273,371,326,364,327,437,302],"class_list":["post-7501","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-agriculture","tag-bangor-university","tag-economy","tag-environment","tag-forestry","tag-natural-resources","tag-publication","tag-wellbeing"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7501","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7501"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7501\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7504,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7501\/revisions\/7504"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7502"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7501"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7501"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7501"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}