{"id":7761,"date":"2020-09-18T14:54:51","date_gmt":"2020-09-18T13:54:51","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=7761"},"modified":"2020-09-18T14:54:51","modified_gmt":"2020-09-18T13:54:51","slug":"dyfed-rhys-morgan-radio-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/dyfed-rhys-morgan-radio-cymru\/","title":{"rendered":"Dyfed Rhys Morgan, cyfranogwr KESS 2, yn siarad am ei waith ymchwil ar Radio Cymru"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_3475\" style=\"width: 177px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3475\" class=\"wp-image-3475 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Dyfed-Morgan-WEB.jpg\" alt=\"Dyfed Morgan\" width=\"167\" height=\"250\" \/><p id=\"caption-attachment-3475\" class=\"wp-caption-text\">Dyfed Rhys Morgan<\/p><\/div><\/p>\n<p>Ar Ddydd Gwener 11 Medi 2020 fe gafwyd Dyfed Rhys Morgan, un o fyfyrwyr KESS 2 o Brifysgol Bangor, gyfweliad gyda Aled Hughes ar Radio Cymru yngl\u0177n a\u2019i waith ymchwil gyda bragdai bach yng Nghymru. Mae modd gwrando eto ar y sgwrs trwy ddilyn y linc yma (cychwyn o 1 awr 14 munud). <a href=\"https:\/\/eur01.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.bbc.co.uk%2Fsounds%2Fplay%2Fm000mdgb&amp;data=02%7C01%7Cm.h.gordon%40bangor.ac.uk%7C963459f4d7f84c2093f108d85b0b4a4c%7Cc6474c55a9234d2a9bd4ece37148dbb2%7C0%7C0%7C637359451340874947&amp;sdata=k2S2cBEsDMEroF%2FcZdlpFJBhClHBQxZTa1uB1oYJf%2F4%3D&amp;reserved=0\">https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/play\/m000mdgb<\/a><\/p>\n<p>Gallwch ddarllen trawsgrifiad o\u2019r sgwrs ddiddorol hon isod:<\/p>\n<p><em>[Mae&#8217;r eitem hon yn dilyn sgwrs ar y sioe rhwng Aled Hughes a Phil o fragdy Twt Lol yngl\u0177n a bragdai bach a gwerth bragu cwrw tra\u2019n defnyddio\u2019r Gymraeg i\u2019w gwneud yn wahanol o fewn y diwydiant cwrw crefft]<\/em><\/p>\n<p><strong>Aled: Croeso ata ni Dyfed,<\/strong><\/p>\n<p>Dyfed: Bore da Aled,<\/p>\n<p><strong>Bore da. Wyt ti\u2019n gwneud astudiaeth PhD, ti\u2019n mynd am ddoethuriaeth yn y maes yma o fragdai bach ydwyt? <\/strong><\/p>\n<p>Yndw, dwi\u2019n edrych ar wahanol elfennau o gynaliadwyedd o fewn y diwydiant cwrw crefft yn Nghymru.<\/p>\n<p><strong>Ti\u2019n s\u00f4n am gynaliadwyedd, hynny ydi sut mae nhw\u2019n gweithio fel busnesau a sut mae nhw\u2019n cyfrannu yn lleol i\u2019r economi ag ati? <\/strong><\/p>\n<p>Ia, wel dau agwedd o gynaliadwyedd mwy na dim, sef agwedd cymunedol a wedyn<br \/>\n\u00f4l traed amgylcheddol nhw. Fel oedd Phil yn ddweud, mae nhw\u2019n hanfodol o bwysig oherwydd economi lleol, mae nhw\u2019n cefnogi pobol lleol, mae\u2019r arian yn cael ei wario yn lleol ag mae nhw\u2019n denu lot o dwristiaeth bwyd a diod i\u2019r ardal. Maent yn aml yn agor eu bragdai ar benwythnosau fel y bod pobol yn gallu dod yna i drio\u2019r cynnyrch a hynny yw\u2019r gysylltiad agosaf gewch chi bosib hefo cynhyrchu\u2019r cwrw yna. Mae\u2019n si\u0175r bod pobol sydd yn eistedd yn y bragdai yn mwynhau y diod a mae o i gyd yn eistedd mewn tanciau tu \u00f4l nhw a mae\u2019r cysylltiad yna hefo\u2019r bwyd mor agos i lle mae yn cael ei gynhyrchu.<\/p>\n<p><strong>Felly, am wn i ti \u2018di dechrau drwy gwneud rhyw fath o fap neu rhyw fath o syniad faint o fragdai bach sydd \u2018na erbyn hyn, oes gen ti syniad? <\/strong><\/p>\n<p>Do, y cam cyntaf wnes i gymryd oedd cael syniad o faint ohonyn nhw oedd yn bodoli yn Nghymru, ag oedd hyn yn 2017, ag oni wedi cyfri 87 bragdy yn Nghymru, ag oedd hyn yn cynnwys y rhai mawr rhyngwladol yn De Cymru a mae \u2018na nifer o rhai rhanbarthol sydd hefo tai tafarnau. Ond o agwedd y bragwyr annibynnol wnes i gyfri 73, ond dwi\u2019n saff mae y rhifau wedi codi ers hynny. A wedyn mi gysylltais a\u2019r 73 ohonyn nhw i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil yma.<\/p>\n<p><strong>Oeddet yn s\u00f4n am \u00f4l troed a\u2019r amgylchedd, wyt ti felly yn edrych ar y gadwyn o ddosbarthu ag ati?<\/strong><\/p>\n<p>Yndw, am y broses o fesur \u00f4l traed amgylcheddol nhw dwi\u2019n defnyddio methodoleg \u201clife cycle assessment\u201d a wedyn edrych ar \u00f4l traed yn ei gyfanswm o\u2019r gadwyn werth, o dyfu\u2019r cynhwysion amrwd yna a phob peth sydd yn mynd i fewn i\u2019w dyfu o; y gwrtaith, y gwaith sydd yn mynd efo\u2019r peiriannau a wedyn trosglwyddo\u2019r cynnyrch o\u2019r maes unwaith mae wedi tyfu draw i gael ei brosesu fel yna hefo haidd. Mae nhw\u2019n cael eu maltio hefo hops, mae nhw angen eu sychu ag yna dosbarthu nhw ymlaen wedyn. So mae yna elfen o drafnidiaeth i fyny o\u2019r maes draw at y bragdy. [Wedyn] y gwaith yna sydd i gyd yn mynd ymlaen ar lawr y bragdy, faint o drydan mae nhw\u2019n ddefnyddio, nwy, d\u0175r wrth gwrs, offer glanhau&#8230; popeth sydd yn mynd drwy\u2019r bragdy. Wedyn sut mae\u2019r bragwyr yn pecynnu y cwrw; ydi nhw\u2019n rhoi o mewn casgen neu rhoi o mewn potel? Wedyn y trafnidiaeth o\u2019r bragdy ymlaen i lle mae o\u2019n cael ei werthu, fel t\u0177 tafarn neu mewn siop, a wedyn beth sydd yn digwydd efo\u2019r gwastraff, ydi o mynd i ailgylchu neu ydi o\u2019n ffeindio ei ffordd i dirlenwi neu\u2019i losgi?<\/p>\n<p><strong>Felly, ai un o\u2019r pethau wyt ti\u2019n geisio ddarganfod ydi be ydi gwerth y diwydiant neu wyt ti\u2019n mynd i grynhoi \u00a0i bwyntiau penodol?<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n bosib o\u2019r canlyniadau neu o\u2019r data wnes i gasglu i weithio allan faint o gynnyrch sydd yn mynd i fod yn cael ei ddefnyddio. Dwi wedi edrych ar tua 10% o\u2019r diwydiant felly mae\u2019r pennod yna eto i\u2019w ysgrifennu. Ond eto mae\u2019n si\u0175r wn\u00e2i edrych ar faint ydi gwerth y cynhwysion amrwd \u2018na i\u2019r diwydiant yn Nghymru. Mae yna rhywfaint o haidd yn cael ei dyfu yn De Cymru ond mae o i gyd yn cael ei symud i ardaloedd yn Lloegr i\u2019w brosesu, fel maltio. Does \u2018na ddim unlle dwi\u2019n wybod amdano sydd yn maltio yr haidd yng Nghymru. A hops wedyn, fel oedd Phil yn ddweud, mae rheini yn trafaelio yn bellach na unrhyw gynnyrch arall. Mae \u2018na lot ohonynt, fel y bragdai bychan yma, yn trio gwahaniaethu ei hunain o\u2019r bragdai eraill. Mae nhw\u2019n experimentio hefo gwahanol hops ag mae hyn yn dibynnu ar rhai sydd yn dod o ardaloedd yr Unol Daleithiau a Awstralia a Seland Newydd hefo\u2019r hops \u2018ma sydd yn rhoi yr arogl ag y blas \u201ctropical\u201d fel oedd Phil yn ei ddweud.<\/p>\n<p><strong>Ia, fel oeddwn yn s\u00f4n mae o yn waith diddorol ag yn faes diddorol, a Dyfed pob lwc efo\u2019r gwaith. Mae rhaid imi ofyn yn sydyn, dwi\u2019n gwybod na cefndir peirianneg sydd gen ti. Mi oeddet ti\u2019n hyfforddi i fod yn drydanwr, be oedd hi, eistedd hefo peint trwy pnawn a mynd, \u201cOs gwn i be ydi\u2019r hanes?\u201d &#8211; Sut ddechreuodd o?<\/strong><\/p>\n<p>Dwi ers erioed wedi cael diddordeb yn y diwydiant, ag oni\u2019n gwneud cwrw adra. Ar \u00f4l i mi weithio fel trydanwr am ryw 10 mlynedd ges i ddechrau gweithio mewn cwmni peirianneg yn Gaer, a wedyn rhan fwyaf o amser oni hefo nhw oni yn y bragdai mawr rhyngwladol yma ar draws Gogledd Lloegr a De Cymru. A wedyn ar \u00f4l gweithio yn y safleoedd yma wnaeth o jest sbarcio diddordeb mewn bragdai bach a safon y cwrw, a gwerth y cynnyrch mae nhw\u2019n wneud, ag y safon uchel yna a gymaint mor werthfawr ydyn nhw i\u2019n economi lleol ni. Oedd o\u2019n rywbeth oeddwn wirioneddol a diddordeb edrych i fewn i ymchwilio.<\/p>\n<p><strong>Gwych, a dyna be ti am ei wneud ynde. Diddorol iawn, iawn. Diolch am y sgwrs gyfaill, bore da Dyfed.<\/strong><\/p>\n<p>Diolch yn fawr.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar Ddydd Gwener 11 Medi 2020 fe gafwyd Dyfed Rhys Morgan, un o fyfyrwyr KESS 2 o Brifysgol Bangor, gyfweliad gyda Aled Hughes ar Radio Cymru yngl\u0177n a\u2019i waith ymchwil gyda bragdai bach yng Nghymru. Mae modd gwrando eto ar y sgwrs trwy ddilyn y linc yma (cychwyn o 1 awr 14 munud). https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/play\/m000mdgb Gallwch&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/dyfed-rhys-morgan-radio-cymru\/\" title=\"DarllenDyfed Rhys Morgan, cyfranogwr KESS 2, yn siarad am ei waith ymchwil ar Radio Cymru\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3480,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,284,338],"class_list":["post-7761","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-sustainability","tag-welsh-language"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7761","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7761"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7761\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7763,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7761\/revisions\/7763"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3480"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7761"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7761"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7761"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}