{"id":7768,"date":"2020-09-30T10:36:21","date_gmt":"2020-09-30T09:36:21","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=7768"},"modified":"2020-09-30T10:36:21","modified_gmt":"2020-09-30T09:36:21","slug":"uwtsd-twi-phd-success","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/uwtsd-twi-phd-success\/","title":{"rendered":"Cydweithredu ar ymchwil arloesol rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a TWI yn arwain at lwyddiant PhD gyda KESS 2"},"content":{"rendered":"<p><strong>Llongyfarchiadau i Dr Ewan Hoyle, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi amddiffyn yn llwyddiannus ei draethawd ymchwil o dan y teitl &#8220;Delweddu Uwchsain Agorfa Ffynhonnell Rithwir ar gyfer Profion Anninistriol&#8221; a bellach mae\u2019n Arweinydd Prosiect yng Nghanolfan Dechnoleg TWI (Cymru), ym Mhort Talbot.<\/strong><\/p>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-7769\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/ewan-hoyle.jpg\" alt=\"Dr Ewan Hoyle\" width=\"897\" height=\"514\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/ewan-hoyle.jpg 897w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/ewan-hoyle-300x172.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 897px) 100vw, 897px\" \/>\n<p>Ymunodd Ewan \u00e2 TWI Ltd a\u2019r Drindod Dewi Sant i ddilyn ei PhD, a ariannwyd o dan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Ysgoloriaeth Sgiliau&#8217;r Economi Wybodaeth (KESS 2), gan wneud ymchwil i dechnegau delweddu uwchsain uwch ar gyfer profion anninistriol (NDT), sy&#8217;n arbenigo mewn delweddu agorfa ffynhonnell rithwir uwch, sef techneg delweddu NDT Uwchsain cyflym, newydd. Mae&#8217;r gwaith hwn yn rhan o gydweithrediad parhaus rhwng Y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Dechnoleg TWI Cymru yn y maes ymchwil cymhwysol hollbwysig hwn..<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dechneg newydd yn defnyddio caledwedd cyfrifiadurol uwch ac algorithmau \u00f4l-brosesu i greu delweddau \u00e2 ffocws llawn sy&#8217;n well na dull ffisegol o greu pelydr trwy Arae Gyfnodol draddodiadol. Y canlyniad yw ei gwneud hi\u2019n haws dehongli delweddau, gan gynyddu gallu&#8217;r defnyddiwr i ganfod a nodweddu diffygion, heb beryglu\u2019r cyflymder sganio.<\/p>\n<p>Gyda chefnogaeth ei oruchwylwyr academaidd a diwydiannol, mae Ewan wedi cyflwyno ei ymchwil mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol, yn ogystal \u00e2 chyhoeddi mewn cylchgronau a adolygir gan gymheiriaid ac a gydnabyddir yn rhyngwladol.<\/p>\n<p>Meddai Ewan: &#8220;Rwy&#8217;n ddiolchgar iawn i KESS, y Brifysgol ac i TWI am roi cyfle i mi wneud gwaith ymchwil arloesol yn y diwydiant. Mae&#8217;r profiad hwn wedi bod o fudd mawr o ran y newid i&#8217;m gyrfa.&#8221;<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Peter Charlton, Athro NDT Cymhwysol a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ewan yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Brifysgol: &#8220;Mae wedi bod yn fraint fawr cael cydweithio\u2019n agos ag Ewan, sydd wedi dangos agwedd neilltuol drwy gydol ei gyfnod ymchwil. Mae hyn wedi helpu i gryfhau a chynnal ymhellach berthynas waith Y Drindod Dewi Sant ag un o bartneriaid strategol pwysig y rhanbarth ym maes NDT, fel y nodwyd yn Adolygiad Reid Llywodraeth Cymru o ymchwil ac arloesi a ariennir yng Nghymru&#8221;<\/p>\n<p>Caiff hyn ei adleisio ymhellach gan ail gyfarwyddwr Ewan, yr Athro John Rees, ac ychwanegodd: &#8220;Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol ar waith a gafodd ei arloesi rhwng yr Athro Charlton a TWI. Mae&#8217;n cynnig manteision go iawn i brofion anninistriol o ran gwella cyflymder a chymhwysedd delweddu uwchsain. Roedd hi\u2019n bleser gweithio gydag Ewan a&#8217;r t\u00eem ymchwil, ac rwy&#8217;n falch dros ben o weld ei waith yn dwyn ffrwyth&#8221;.<\/p>\n<p>Dywedodd goruchwyliwr diwydiannol Ewan yn TWI, Dr Mark Sutcliffe a oedd wedi cwblhau ei astudiaethau israddedig a doethurol yn Y Drindod Dewi Sant yn flaenorol, &#8220;Mae ymchwil Ewan o ddiddordeb mawr ym maes NDT ac mae wedi bod yn eithriadol yn ei allbwn academaidd a diwydiannol. Mae llwyddiant y gwaith hwn o dan arweiniad Y Drindod Dewi Sant yn dangos cryfderau&#8217;r brifysgol wrth ddarparu cydweithrediad \u00e2 ffocws diwydiannol. Roedd hi\u2019n anrhydedd bod yn rhan o&#8217;r t\u00eem goruchwylio a chael cydweithio mor agos \u00e2&#8217;r brifysgol&#8221;.<\/p>\n<p>Yn ogystal, ychwanegodd yr Athro Ian Cooper, Cymrawd Technoleg TWI ac Athro Ymarfer yn Y Drindod Dewi Sant hefyd, &#8220;Mae TWI Cymru wedi dod yn ganolfan flaenllaw ar lefel fyd-eang ar gyfer Ymchwil a Datblygiad NDT. Mae TWI am longyfarch Ewan ar gwblhau ei PhD yn llwyddiannus yn y maes ymchwil hanfodol hwn, a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da TWI Cymru am ddatblygu atebion blaenllaw ar gyfer NDT i herio ceisiadau ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau. Yr hyn sy&#8217;n ein gwneud yn gryfach mewn marchnad mor heriol yw&#8217;r gallu i fanteisio ar sgiliau a gwybodaeth ein partneriaid academaidd, ac yn benodol, y cydweithio agos sydd gennym \u00e2 gr\u0175p ymchwil NDT yr Athro Charlton yn Y Drindod Dewi Sant.&#8221;<\/p>\n<p>Meddai Barry Liles, OBE, Dirprwy Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) a Phennaeth WISA: &#8220;Mae camp Ewan yn enghraifft o un o nodweddion arbennig y Brifysgol wrth gefnogi&#8217;r gwaith ymchwil cymhwysol arloesol sy&#8217;n gysylltiedig ag anghenion diwydiant a chyflogwyr sy&#8217;n rhan o \u00f4l troed daearyddol y Brifysgol. Mae Ewan wedi elwa o gefnogaeth goruchwylwyr selog sy&#8217;n gwthio ffiniau ymchwil yn barhaus yn eu maes arbenigedd. Rwy&#8217;n llongyfarch Ewan ar yr hyn y mae wedi ei gyflawni ac yn edrych ymlaen at ddilyn ei yrfa yn y dyfodol yn TWI.&#8221;<\/p>\n<p><em>Wedi\u2019i gyhoeddi yn wreiddiol ar 28.09.2020 gan swyddfa\u2019r wasg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/newyddion\/datganiadau\/datganiadau-ir-wasg-2020\/cydweithredu-ar-ymchwil-arloesol-rhwng-y-drindod-dewi-sant-a-twi-yn-arwain-at-lwyddiant-phd-.html\">https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/newyddion\/datganiadau\/datganiadau-ir-wasg-2020\/cydweithredu-ar-ymchwil-arloesol-rhwng-y-drindod-dewi-sant-a-twi-yn-arwain-at-lwyddiant-phd-.html<\/a> <\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llongyfarchiadau i Dr Ewan Hoyle, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi amddiffyn yn llwyddiannus ei draethawd ymchwil o dan y teitl &#8220;Delweddu Uwchsain Agorfa Ffynhonnell Rithwir ar gyfer Profion Anninistriol&#8221; a bellach mae\u2019n Arweinydd Prosiect yng Nghanolfan Dechnoleg TWI (Cymru), ym Mhort Talbot. Ymunodd Ewan \u00e2 TWI Ltd&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/uwtsd-twi-phd-success\/\" title=\"DarllenCydweithredu ar ymchwil arloesol rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a TWI yn arwain at lwyddiant PhD gyda KESS 2\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":7769,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[303,304,279],"class_list":["post-7768","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-computer-science","tag-electronic-engineering","tag-uwtsd"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7768","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7768"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7768\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7770,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7768\/revisions\/7770"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7769"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7768"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7768"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7768"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}