{"id":8251,"date":"2021-04-28T10:31:37","date_gmt":"2021-04-28T09:31:37","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=8251"},"modified":"2021-04-28T10:44:31","modified_gmt":"2021-04-28T09:44:31","slug":"gwenlli-thomas-paper","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/gwenlli-thomas-paper\/","title":{"rendered":"Archwilio&#8217;r dystiolaeth sy&#8217;n berthnasol i ymyriadau Presgripsiwn Cymdeithasol : Cyhoeddiad papur cyntaf Gwenlli Thomas"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-8252\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/GT_Featured-Image.png\" alt=\"\" width=\"1200\" height=\"720\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/GT_Featured-Image.png 1200w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/GT_Featured-Image-300x180.png 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/GT_Featured-Image-1024x614.png 1024w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/GT_Featured-Image-600x360.png 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/p>\n<p><strong>Mae Gwenlli Thomas, myfyrwraig MRes KESS 2 o Brifysgol Bangor, wedi cyhoeddi ei phapur cyntaf yn yr<em> International Journal of Environmental Research and Public Health<\/em> (Ffactor Effaith 2.849). Mae\u2019r papur yn archwilio\u2019r dystiolaeth berthnasol \u00e2 datblygu ymyraethau Presgripsiwn Cymdeithasol sy\u2019n defnyddio dull cyd-gynhyrchiol ac wedi\u2019i gyd-ddylunio er mwyn gwella lles mewn lleoliad cymunedol.<\/strong><\/p>\n<p>Mae cyd-gynhyrchu yn ddull sy\u2019n gofyn i ddarparwyr gwasanaethau sefydlu perthynas gyfartal gyda defnyddwyr gwasanaeth, boed hynny yn unigolyn, teuluoedd neu gymunedau. Mae cyd-gynhyrchu yn derm sy\u2019n cwmpasu nifer o weithgareddau creu gwasanaeth megis cyd-ddylunio gwasanaethau, cyd-ddarparu gwasanaethau a chyd-asesu gwasanaethau. Mae astudiaethau o wasanaethau wedi\u2019u cyd-gynhyrchu yn dangos cleifion yn cael eu trin fel arbenigwyr ar eu sefyllfa eu hunain, ac felly fel asedau gwybodus. O ganlyniad mae defnyddwyr gwasanaeth (boed yn unigolyn neu gymuned gyfan) yn cael eu grymuso ac yn dod yn fwy hunangynhaliol, gan leihau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dull hwn yn derbyn sylw cynyddol ac yn gweddu gyda gweledigaeth hir dymor Llywodraeth Cymru o system iechyd holistig sy\u2019n canolbwyntio ar yr hyn sy\u2019n bwysig i\u2019r unigolyn.<\/p>\n<div id=\"attachment_8253\" style=\"width: 212px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-8253\" class=\"wp-image-8253 size-full\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/gwenlli-thomas.jpg\" alt=\"\" width=\"202\" height=\"250\" \/><p id=\"caption-attachment-8253\" class=\"wp-caption-text\">Gwenlli Thomas<\/p><\/div>\n<p>Fel rhan o\u2019i hymchwil aeth Gwenlli Thomas ati i archwilio\u2019r dystiolaeth o gwmpas defnyddio dull cyd-gynhyrchiol a\/neu wedi\u2019i gyd-ddylunio er mwyn datblygu gwasanaeth Presgripsiwn Cymdeithasol (SP) mewn lleoliad cymunedol. Mae ymyrraeth Presgripsiwn Cymdeithasol yn rhoi\u2019r opsiwn i weithwyr iechyd gyfeirio unigolyn at grwpiau neu wasanaethau lles lleol. Byddant yn gwneud hyn pan fyddant yn gweld bod problem gymdeithasol, economaidd neu ymarferol wrth wraidd problem iechyd meddwl neu gorfforol y claf. Gall y grwpiau neu wasanaethau hyn helpu i leddfu unrhyw broblem sydd yn achosi neu\u2019n gwaethygu problem iechyd unigolyn e.e clwb darllen lle gall unigolyn gyfarfod pobl newydd a thaclo unigrwydd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dystiolaeth a ganfuwyd drwy\u2019r adolygiad systematig yn awgrymu y byddai cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio yn ddull effeithiol o gynnwys rhanddeiliaid wrth ddatblygu a gweithredu ymyrraeth SP mewn lleoliad cymunedol. Fodd bynnag, mae\u2019r dystiolaeth hefyd yn amlinellu rhai camau sydd angen eu hystyried er mwyn goresgyn rhwystrau a hwyluso\u2019r broses. \u00a0Caiff y rheini eu trafod yn llawn yn y papur, ond maent yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>penodi arweinydd i gydlynu\u2019r cyd-gynhyrchu;<\/li>\n<li>sicrhau cyfathrebu clir rhwng cyd-gynhyrchwyr;<\/li>\n<li>cyd-werthuso\u2019r ymyrraeth o\u2019r cychwyn cyntaf;<\/li>\n<li>sicrhau adnoddau digonol i ddarparu\u2019r ymyrraeth Presgripsiwn Cymdeithasol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod tynnu ar wybodaeth rhanddeiliaid drwy gyd-gynhyrchu hefyd yn arwain at ymyrraeth sy\u2019n ateb anghenion lles y gymuned o\u2019r cychwyn cyntaf. Roedd canlyniadau lles cadarnhaol ymysg defnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys cynnydd mewn hunanhyder a hunanwerth, yn ogystal \u00e2 lleihad mewn unigrwydd cymdeithasol. Yn unol ag amcan gyd-gynhyrchu, dangosodd y dystiolaeth bod aelodau o gymuned hefyd wedi\u2019u grymuso o fod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cyd-gynhyrchu. Roeddent hefyd yn gwerthfawrogi cael eu trin fel arbenigwyr yn hytrach na defnyddwyr goddefol.<\/p>\n<p>Meddai Gwenlli,<\/p>\n<p>\u201cDw i\u2019n hynod o falch bod y papur hwn wedi\u2019i gyhoeddi. Dw i\u2019n gobeithio y bydd o fudd i nifer o sefydliadau yn ychwanegol i gwmni partner fy ymchwil, Gr\u0175p Cynefin, sy\u2019n gobeithio cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio ymyrraeth Presgripsiwn Cymdeithasol yn Nyffryn Nantlle. Dw i\u2019n ddiolchgar iawn i fy ngoruchwylwyr academaidd <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/health-sciences\/staff\/mary-lynch\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dr Mary Lynch<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/health-sciences\/staff\/llinos-spencer\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dr Llinos Haf Spencer<\/a>, T\u00eem Mentrau Cymunedol Gr\u0175p Cynefin ac <a href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/case-studies\/a-late-career-research-student-experience\/\">Andrew Rogers<\/a> o Gwenallt Consulting am fy nghefnogi ac arwain yn ystod fy ymchwil. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i KESS2 am alluogi\u2019r cyfle hwn yn y lle cyntaf drwy ariannu fy ymchwil yn ogystal \u00e2 fy nghaniat\u00e1u i ddefnyddio rhan o fy nghyllideb i dalu am y cyhoeddiad.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Dr Llinos Haf Spencer,<\/p>\n<p>\u201cMae presgripsiwn cymdeithasol yn rhywbeth sydd wedi bod o gwmpas ers y 70au, ond gyda\u2019r pwyslais cynyddol mewn gofal iechyd ar sail gwerth (value based healthcare) mae yna fwy o bwyslais ar yr unigolyn a beth sydd yn gweithio orau o ran iechyd a lles i\u2019r person, sydd weithiau yn rhywbeth sy\u2019n wahanol i feddyginiaeth, neu yn rhywbeth sydd yn cyd-fynd gyda meddyginiaeth.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig i\u2019r claf fod yn ganolog i\u2019r ymyrraeth a dyna pam mae cyd-cynhyrchu ymyraethau presgripsiwn cymdeithasol mor bwysig, ac mae cydgynhyrchu yn rhoi sail da i\u2019r ymyraethau newydd achos mae lleisiau defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu clywed o\u2019r cychwyn, a gall hynny siapio\u2019r ymyrraeth.\u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal, dywedodd Dr Mary Lynch,<\/p>\n<p>\u201cMae cyhoeddi\u2019r adolygiad systemig hwn sy\u2019n archwilio cymhwyso dulliau cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio i presgripsiwn cymdeithasol yn darparu tystiolaeth wedi\u2019i adolygu sy\u2019n dangos bod y dull hwn o ymgysylltu yn hanfodol er mwyn i ymyriadau presgripsiwn cymdeithasol fod yn effeithiol i\u2019r gymuned. Mae&#8217;r canlyniadau a ddarganfuwyd yn yr adolygiad hwn yn cefnogi dull parhaus Gr\u0175p Cynefin o weithio ar y cyd \u00e2 chymuned Dyffryn Nantlle i ddiwallu eu hanghenion \u201d.<\/p>\n<p><strong>Gellir gweld y papur cyhoeddedig llawn yma: <a href=\"https:\/\/www.mdpi.com\/1660-4601\/18\/8\/3896\/htm\">https:\/\/www.mdpi.com\/1660-4601\/18\/8\/3896\/htm<\/a><\/strong><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gwenlli Thomas, myfyrwraig MRes KESS 2 o Brifysgol Bangor, wedi cyhoeddi ei phapur cyntaf yn yr International Journal of Environmental Research and Public Health (Ffactor Effaith 2.849). Mae\u2019r papur yn archwilio\u2019r dystiolaeth berthnasol \u00e2 datblygu ymyraethau Presgripsiwn Cymdeithasol sy\u2019n defnyddio dull cyd-gynhyrchiol ac wedi\u2019i gyd-ddylunio er mwyn gwella lles mewn lleoliad cymunedol. Mae cyd-gynhyrchu&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/gwenlli-thomas-paper\/\" title=\"DarllenArchwilio&#8217;r dystiolaeth sy&#8217;n berthnasol i ymyriadau Presgripsiwn Cymdeithasol : Cyhoeddiad papur cyntaf Gwenlli Thomas\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8258,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[273,309,290,437,436,285,284,302],"class_list":["post-8251","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-bangor-university","tag-healthcare","tag-mres","tag-publication","tag-social-prescribing","tag-students","tag-sustainability","tag-wellbeing"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8251","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8251"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8251\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8257,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8251\/revisions\/8257"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8258"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8251"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8251"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8251"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}