{"id":8636,"date":"2021-11-09T16:20:04","date_gmt":"2021-11-09T16:20:04","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=8636"},"modified":"2021-12-13T10:43:22","modified_gmt":"2021-12-13T10:43:22","slug":"joint-paper-algal-research","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/joint-paper-algal-research\/","title":{"rendered":"Cat Joniver ac Angelos Photiades yn cyhoeddi eu papur cyntaf ar y cyd yn y Cyfnodolyn Rhyngwladol Algal Research"},"content":{"rendered":"<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-8637\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/img1.jpg\" alt=\"\" width=\"1392\" height=\"1044\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/img1.jpg 1392w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/img1-300x225.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/img1-1024x768.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1392px) 100vw, 1392px\" \/><\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae dau o ymgeiswyr PhD KESS 2 Prifysgol Aberystwyth, Cat Joniver ac Angelos Photiades, wedi cyd-gyhoeddi eu papur cyntaf yn y Cyfnodolyn Rhyngwladol<em> Algal Research<\/em>\u00a0(Ffactor Effaith 4.401).\u00a0Mae gwaith ymchwil Cat ac Angelos yn canolbwyntio ar flwmiau (gwymon) macroalgaidd \u00a0sy\u2019n peri niwsans ac mae\u2019r erthygl yn plethu diddordebau ymchwil y ddau drwy edrych ar effeithiau ecolegol ac economaidd gymdeithasol blwmiau macroalgaidd dros y byd, ac ar yr ateb posib o greu cynnyrch allan o ddefnydd sy\u2019n ddiangen fel arall. \u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Teitl yr erthygl adolygu yw \u2018<em>The global problem of nuisance macroalgal blooms and pathways to its use in the circular economy<\/em>.\u2019 Gyda\u2019i gilydd, cynhaliodd Cat ac Angelos adolygiad systematig, gan syntheseiddio 639 o bapurau wedi eu hadolygu gan gymheiriaid er mwyn:<\/p>\n<ul>\n<li>canfod natur ofodol ac amseryddol blwmiau macroalgaidd;<\/li>\n<li>meintoli\u2019r effeithiau ecolegol ac economaidd gymdeithasol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r blwmiau;<\/li>\n<li>rhoi amlinelliad o\u2019r broses o dawsnewidiad biomas macroalgaidd yn gynhyrchion, ar gyfer y prif genera sy\u2019n ffurfio blwmiau yn enwedig;<\/li>\n<li>darparu asesiad o gostau mewnbwn a chynnyrch ar gyfer gwahanol gyfansoddion;<\/li>\n<li>a darparu asesiad dichonolrwydd wedi\u2019i gynhyrchu drwy Ddadansoddiad Techno-Economaidd ac Asesiadau Cylch Bywyd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd y papur adolygu, a ysgrifennwyd ar y cyd \u00e2\u2019u goruchwylwyr academaidd, Dr Jessica Adams, yr Athro Pippa Moore a Dr Ana Winters a chyfarwyddwr cwmni Dr Andrew Woolmer yn amlygu mai macroalgae gwyrdd oedd y prif ddosbarth oedd yn ffurfio blwmiau, a bioburfa oedd y prif ddefnydd o\u2019r algae yn y dosbarth hwn. Fodd bynnag, mewn asesiadau dichonolrwydd, canfuwyd mai biodanwydd oedd \u00e2\u2019r potensial mwyaf o olygu defnydd diwastraff o facroalgae sy\u2019n peri niwsans.<\/p>\n<div id=\"attachment_8638\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-8638\" class=\"wp-image-8638 size-medium\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/img2-300x283.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"283\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/img2-300x283.jpg 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/img2.jpg 873w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-8638\" class=\"wp-caption-text\">(O\u2019r chwith i\u2019r dde) Angelos Photiades, Jessica Adams (prif oruchwyliwr y ddau) a Cat Joniver yn Ne Korea yn Symposiwm Gwymon Rhyngwladol 2019<\/p><\/div>\n<p>Meddai Cat,<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n falch dros ben bod yr erthygl hon yn cael ei chyhoeddi. Mae pynciau ymchwil PhD Angelo a minnau yn cyd-fynd mor dda er mwyn creu\u2019r stori hon am droi macroalgae sy\u2019n peri niwsans yn gynnyrch. Mae\u2019n dod yn fwyfwy amlwg bod adnoddau byd-eang yn prinhau ac y dylem ni fod yn cynnwys defnyddiau a chynhyrchion y gellir eu hail-ddefnyddio yn yr economi gylchol i ba bynnag raddau y bo hynny\u2019n ymarferol bosib.<\/p>\n<p>Mae Angelos a minnau yn ddiolchgar am gefnogaeth KESS 2 a GreenSeas Resources, ein partner cwmni, er mwyn cyrraedd y pwynt hwn. Mae KESS 2 wedi cyfnerthu ein sgiliau, ein hyder a\u2019n dealltwriaeth ac, yn bwysicaf oll, wedi rhoi\u2019r amser i ni ein hunain gael datblygu\u2019n broffesiynol fel gwyddonwyr\u201d.<\/p>\n<p>Meddai Angelos,<\/p>\n<p>\u201cFe wnaethom ni geisio ystyried niwsans cyffredinol y blwmiau macroalgae a gosod hyn yng nghyd-destun cyfoes yr economi gylchol a chynaladwyedd. Rwy\u2019n credu inni lwyddo. Dyma\u2019r amser. Mae gwymon yn dod yn fwy poblogaidd, gan fod potensial o liniaru\u2019r newid yn yr hinsawdd drwy dyfu macroalgae. Fodd bynnag mae tunelli o ddefnydd o\u2019r bl\u0175m a allai ddarparu cynhyrchion o werth ychwanegol uchel ac y dylid eu hymgorffori i fioburfeydd y dyfodol. Sut gallem ni ddefnyddio\u2019r defnydd hwn, beth yw\u2019r manteision a\u2019r anfanteision a beth a ystyrir yn ddichonadwy gan y gymuned wyddonol yw rhai o\u2019r cwestiynau a atebir gan yr erthygl hon. Yn sicr, fe ddaethom yn fwy cyfarwydd \u00e2\u2019n meysydd drwy ysgrifennu\u2019r erthygl hon a chawsom oleuni pellach ond roedd yn heriol hefyd. Rydyn ni\u2019n ddiolchgar am gefnogaeth KESS 2, ein goruchwylwyr a GreenSeas Resources.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanega Jessica Adams, y prif oruchwyliwr,<\/p>\n<p>\u201cMae hwn yn bapur cyntaf ardderchog i Cat ac Angelos ei gwblhau ar gyfer eu graddau PhD. Yn ogystal \u00e2 gwella eu sgiliau ysgrifennu academaidd, mae\u2019r ymchwil wedi ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn pwysig sy\u2019n cael ei ystyried yn chwartel uchaf y cyfnodolion agronomeg a gwyddor cnydau. Dylai fod yn erthygl werthfawr, y cyfeirir at yn fynych yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Meddai Andy Woolmer, o\u2019r cwmni nawdd GreenSeas Resources,<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch dros ben bod Cat ac Angelos wedi gallu ysgrifennu\u2019r papur hwn ar y cyd gyda GreenSeas Resources yn ystod eu cyrsiau PhD KESS2. Does gen i ddim dwywaith na fydd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i gwmn\u00efau eraill, fel y mae hi wedi bod i ni.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r papur cyhoeddedig llawn ar gael yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1016\/j.algal.2021.102407\">https:\/\/doi.org\/10.1016\/j.algal.2021.102407<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&nbsp; Mae dau o ymgeiswyr PhD KESS 2 Prifysgol Aberystwyth, Cat Joniver ac Angelos Photiades, wedi cyd-gyhoeddi eu papur cyntaf yn y Cyfnodolyn Rhyngwladol Algal Research\u00a0(Ffactor Effaith 4.401).\u00a0Mae gwaith ymchwil Cat ac Angelos yn canolbwyntio ar flwmiau (gwymon) macroalgaidd \u00a0sy\u2019n peri niwsans ac mae\u2019r erthygl yn plethu diddordebau ymchwil y ddau drwy edrych ar effeithiau&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/joint-paper-algal-research\/\" title=\"DarllenCat Joniver ac Angelos Photiades yn cyhoeddi eu papur cyntaf ar y cyd yn y Cyfnodolyn Rhyngwladol Algal Research\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8638,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[288,306,326,437,284],"class_list":["post-8636","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-aberystwyth-university","tag-biology","tag-environment","tag-publication","tag-sustainability"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8636","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8636"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8636\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8722,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8636\/revisions\/8722"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8638"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8636"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8636"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8636"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}