{"id":9181,"date":"2022-05-09T14:20:09","date_gmt":"2022-05-09T13:20:09","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=9181"},"modified":"2022-05-09T14:20:09","modified_gmt":"2022-05-09T13:20:09","slug":"taking-the-time-to-talk-to-patients-is-fundamental-for-their-care","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/taking-the-time-to-talk-to-patients-is-fundamental-for-their-care\/","title":{"rendered":"\u201cMae cymryd amser i siarad \u00e2 chleifion yn hanfodol ar gyfer eu gofal\u201d"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-9182\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hilary_Dyer_Nurses_Day.width-1000.format-jpeg.jpg\" alt=\"\" width=\"1000\" height=\"666\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hilary_Dyer_Nurses_Day.width-1000.format-jpeg.jpg 1000w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hilary_Dyer_Nurses_Day.width-1000.format-jpeg-300x200.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/p>\n<p><em>Erthygl wedi ei ail-bostio o:\u00a0<a href=\"http:\/\/southwales.ac.uk\/cymraeg\/amdanom\/newyddion\/newyddion-am-2022\/mae-cymryd-amser-i-siarad-\u00e2-chleifion-yn-hanfodol-ar-gyfer-eu-gofal\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">southwales.ac.uk\/cymraeg\/amdanom\/newyddion\/newyddion-am-2022\/mae-cymryd-amser-i-siarad-\u00e2-chleifion-yn-hanfodol-ar-gyfer-eu-gofal\/<\/a><\/em><\/p>\n<p><b>I nodi Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys (Dydd Iau 12 Mai) rydym yn siarad \u00e2 rhai o\u2019n graddedigion Nyrsio ysbrydoledig sy\u2019n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu proffesiwn.<\/b><\/p>\n<p>Mae Hilary Dyer, nyrs iechyd meddwl a weithiodd ar wardiau ac\u00edwt am gyfnod byr yn ystod y pandemig COVID-19, yn astudio gradd\u00a0<a href=\"https:\/\/gradschool.southwales.ac.uk\/graduate-school\/graddau-ymchwil-%C3%B4l-raddedig\/meistr-drwy-ymchwil-ma-neu-msc\/\">Meistr trwy Ymchwil<\/a>\u00a0sy\u2019n archwilio effaith adrodd stor\u00efau digidol ar iechyd, gyda\u2019r nod o gyfrannu at ddulliau newydd o brofiadau cleifion ac arfer a pholisi gofal iechyd.<\/p>\n<p>Yn flaenorol yn gweithio ym maes AD ac fel rheolwr practis meddyg teulu, roedd Hilary wedi bod eisiau ailhyfforddi fel nyrs iechyd meddwl ers peth amser, yn wreiddiol oherwydd bod ganddi ddau ffrind \u00e2 diagnosis o anhwylder affeithiol deubegwn a gwelodd drosti ei hun y niwed mawr y gall salwch meddwl ei achosi.<\/p>\n<p>Wedi\u2019i sbarduno i fod yn nyrs, astudiodd Hilary\u00a0<a href=\"https:\/\/www.southwales.ac.uk\/cymraeg\/cyrsiau\/bsc-hons-nursing-mental-health-cy\/\">Nyrsio Iechyd Meddwl<\/a>\u00a0yn PDC a graddio yn 2019, gan ddechrau gweithio ar uned iechyd meddwl Dewi Sant yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Erbyn i&#8217;r pandemig daro, roedd Hilary wedi symud i&#8217;w swydd ddelfrydol o iechyd meddwl gofal sylfaenol yn y gymuned, a chafodd ei drafftio&#8217;n ddiweddarach i&#8217;r wardiau iechyd meddwl ac\u00edwt am ychydig fisoedd oherwydd prinder staff.<\/p>\n<p>\u201cRoedd bod ar y wardiau yn ystod y pandemig yn heriol iawn i gleifion a staff,\u201d meddai Hilary. \u201cDoedd cleifion ddim yn gallu gadael y ward na chael unrhyw ymwelwyr, felly roeddwn i wir yn teimlo drostyn nhw.\u201d<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"YouTube video player\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/9UfDxkZlz9o\" width=\"560\" height=\"315\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n<p>Ym mis Hydref y llynedd, cafodd gyfle i ddychwelyd i astudio\u2019n llawn amser gyda\u2019r cwrs Meistr, sy\u2019n cael ei ariannu gan y rhaglen\u00a0<a href=\"https:\/\/www.southwales.ac.uk\/cymraeg\/ymchwil\/gweithio-gyda-ni\/kess2\/\">Ysgoloriaethau Sgiliau\u2019r Economi Wybodaeth<\/a>\u00a0(KESS). Mae astudiaethau Hilary yn cael eu goruchwylio gan\u00a0<a href=\"https:\/\/storytelling.research.southwales.ac.uk\/cy\/\">Ganolfan Adrodd Stor\u00efau George Ewart Evans<\/a>\u00a0PDC ar y cyd \u00e2 Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae\u2019r prosiect yn canolbwyntio ar effaith adrodd stor\u00efau digidol ar iechyd.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n angerddol am ddarparu gofal rhagorol, ac roedd fy ymdrech i wneud yn well yn rhan o\u2019m penderfyniad i ymgymryd \u00e2\u2019r cyfle gwych hwn.\u201d<\/p>\n<p>Defnyddir adrodd stor\u00efau digidol ar hyn o bryd o fewn gofal iechyd ar gyfer addysg, eiriolaeth, ymarfer myfyriol, hybu iechyd ac ymchwil. Gan ei fod yn cael ei yrru gan y cyfranogwr, mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod o fudd i stor\u00efwyr a\u2019r gynulleidfa, gan arwain at welliannau drwy newidiadau dilynol mewn arferion a pholisi.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n teimlo mor ffodus i fod yn rhan o\u2019r prosiect hwn \u2013 mae adrodd stor\u00efau digidol yn ddull hynod ddiddorol o archwilio\u2019r ffordd rydym yn darparu gofal,\u201d meddai Hilary.<\/p>\n<p>\u201cMae clywed rhywun yn siarad am y profiad maen nhw wedi&#8217;i gael &#8211; cadarnhaol neu negyddol, oherwydd bod stor\u00efau digidol hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at ofal da &#8211; yn wirioneddol ddylanwadol. Mae gwrando o ddifrif ar stori claf yn darparu cyd-destun a dealltwriaeth sy\u2019n hanfodol wrth ddarparu gofal sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn.\u201d<\/p>\n<p>\u201cGall gwerthfawrogi profiad cleifion ein helpu i ddysgu mwy am yr effaith y mae staff a sefydliadau yn ei chael ar ofal iechyd, gan ddarparu cyfleoedd dysgu a herio\u2019r ffordd y darperir gofal i wella effeithiolrwydd.\u201d<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Erthygl wedi ei ail-bostio o:\u00a0southwales.ac.uk\/cymraeg\/amdanom\/newyddion\/newyddion-am-2022\/mae-cymryd-amser-i-siarad-\u00e2-chleifion-yn-hanfodol-ar-gyfer-eu-gofal\/ I nodi Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys (Dydd Iau 12 Mai) rydym yn siarad \u00e2 rhai o\u2019n graddedigion Nyrsio ysbrydoledig sy\u2019n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu proffesiwn. Mae Hilary Dyer, nyrs iechyd meddwl a weithiodd ar wardiau ac\u00edwt am gyfnod byr yn ystod y pandemig COVID-19, yn astudio gradd\u00a0Meistr trwy&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/taking-the-time-to-talk-to-patients-is-fundamental-for-their-care\/\" title=\"Darllen\u201cMae cymryd amser i siarad \u00e2 chleifion yn hanfodol ar gyfer eu gofal\u201d\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":9182,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[309,301,290,330,285,295],"class_list":["post-9181","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-healthcare","tag-mental-health","tag-mres","tag-research-projects","tag-students","tag-university-of-south-wales"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9181","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9181"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9181\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9186,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9181\/revisions\/9186"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9182"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9181"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9181"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9181"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}