{"id":9429,"date":"2022-08-24T12:53:19","date_gmt":"2022-08-24T11:53:19","guid":{"rendered":"https:\/\/kess2.ac.uk\/?p=9429"},"modified":"2022-08-24T12:53:19","modified_gmt":"2022-08-24T11:53:19","slug":"fish-hives","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/fish-hives\/","title":{"rendered":"Tai pysgod: adeileddau riff artiffisial yn adfer cwrelau y m\u00f4r"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-9431\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/News-Featured-Image-for-Website-3.png\" alt=\"\" width=\"1200\" height=\"720\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/News-Featured-Image-for-Website-3.png 1200w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/News-Featured-Image-for-Website-3-300x180.png 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/News-Featured-Image-for-Website-3-1024x614.png 1024w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/News-Featured-Image-for-Website-3-600x360.png 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/p>\n<p>Mae riffiau cwrel yn gynefinoedd trofannol wedi&#8217;u gwneud o gwrel byw sy&#8217;n ffynnu yn nyfroedd cynnes y byd. Yn anffodus, oherwydd cynhesu byd-eang, mae&#8217;r cwrelau cain hyn yn cael eu difrodi ac mae&#8217;r cynefin y maent yn ei greu yn troi&#8217;n rwbel. Mewn ymateb i hyn, mae llawer o brosiectau ymchwil wedi&#8217;u cychwyn sy&#8217;n canolbwyntio ar adfer cwrelau ac ailadeiladu riffiau. Mae Dr Kathryn Whittey, cyn-fyfyrwraig KESS 2 sydd newydd raddio, yn un ymchwilydd o\u2019r fath. Yn 2019, arweiniodd Kathryn d\u00eem yn y gwaith o ddylunio a defnyddio strwythurau riff artiffisial gan geisio adfer y cynefin hanfodol hwn i&#8217;r amgylchedd morol.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"YouTube video player\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/SoGbKsfBIYA\" width=\"560\" height=\"315\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n<p>Yn ystod y prosiect creodd Kathryn a\u2019i th\u00eem y strwythurau artiffisial, a elwir yn dai pysgod, trwy arllwys concrit o amgylch tegan <em>Space Hopper<\/em>. Darparodd si\u00e2p crwn mawr y tegan y ffurf perffaith ailddefnyddiadwy o adeiladu\u2019r tai pysgod. Yna defnyddiwyd y tai pysgod yn y cefnfor, yn yr achos hwn oddi ar arfordir Tobago, er mwyn ceisio creu sylfaen gadarn i riffiau cwrel ailsefydlu eu hunain.<\/p>\n<p>Dair blynedd yn ddiweddarach, dychwelodd Kathryn i ymweld \u00e2\u2019r tai pysgod a gwelodd bod y cwrelau wedi tyfu\u2019n llwyddiannus iawn gyda llawer o greaduriaid yn defnyddio\u2019r strwythurau fel cartrefi. Mewn cyfweliad ag Aled Hughes ar Radio Cymru, bu Kathryn yn siarad am ei phrofiad o ddychwelyd i weld y tai pysgod ar waith.<\/p>\n<p>Dywedodd Kathryn,<\/p>\n<p>\u201cBraf oedd gweld faint mae\u2019r cwrelau wedi tyfu ar y tai pysgod. Maent wedi ffurfio haenau rhwng y tai ac mae creaduriaid yn byw rhwng yr haenau hynny hefyd. Roeddwn i eisiau gallu gweld y tu mewn i\u2019r strwythurau ac roeddwn yn falch iawn o weld alg\u00e2u pinc yn tyfu yno, sy&#8217;n rhywbeth nad oeddem yn gallu ei weld o luniau neu fideos. Mae&#8217;r alg\u00e2u yn bwysig iawn i&#8217;r riff oherwydd ei fod yn creu negeswyr cemegol sy&#8217;n denu cwrel. Mae hwn yn gynnydd rhagorol gan ein bod yn gwybod y bydd y cwrel yn gallu setlo ar y tai pysgod oherwydd yr alg\u00e2u pinc sydd yno eisoes.\u201d<\/p>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-9430\" src=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/2019.png\" alt=\"\" width=\"1600\" height=\"1200\" srcset=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/2019.png 1600w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/2019-300x225.png 300w, https:\/\/kess2.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/2019-1024x768.png 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1600px) 100vw, 1600px\" \/>\n<p>Trwy waith Kathryn ar ryngweithiadau pysgod riffiau cwrel, mae\u2019n gobeithio datgelu pwysigrwydd cynefin a nodi pa strwythurau penodol sydd eu hangen ar bysgod i gyflawni eu hymddygiad naturiol. Mae\u2019r berthynas rhwng cynefinoedd ac ymddygiad pysgod yn arbennig o berthnasol i les pysgod a gallai fod yn gymwys i bysgodfeydd Cymru, gan wella mentrau dyframaethu yn y dyfodol.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"YouTube video player\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/QIOn66N9Al0\" width=\"560\" height=\"315\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n<h2>Dolenni<\/h2>\n<p>Gwrandewch eto ar gyfweliad Kathryn ar BBC Radio Cymru (eitem yn cychwyn am 39:00)\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/play\/m0019x7y\">https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/play\/m0019x7y<\/a><\/p>\n<p>Gallwch hefyd ddilyn gwaith Kathryn ar gyfryngau cymdeithasol: <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/kathwhittey\">https:\/\/www.instagram.com\/kathwhittey<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae riffiau cwrel yn gynefinoedd trofannol wedi&#8217;u gwneud o gwrel byw sy&#8217;n ffynnu yn nyfroedd cynnes y byd. Yn anffodus, oherwydd cynhesu byd-eang, mae&#8217;r cwrelau cain hyn yn cael eu difrodi ac mae&#8217;r cynefin y maent yn ei greu yn troi&#8217;n rwbel. Mewn ymateb i hyn, mae llawer o brosiectau ymchwil wedi&#8217;u cychwyn sy&#8217;n canolbwyntio&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/fish-hives\/\" title=\"DarllenTai pysgod: adeileddau riff artiffisial yn adfer cwrelau y m\u00f4r\">Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":9431,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[287,276,326,349,327,348],"class_list":["post-9429","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news","tag-alumni","tag-cardiff-university","tag-environment","tag-marine","tag-natural-resources","tag-ocean-science"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9429","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9429"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9429\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9433,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9429\/revisions\/9433"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9431"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9429"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9429"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kess2.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9429"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}