EMMA SAMUEL
SAFBWYNT MYFYRIWR
Mae’n ddyletswydd ar fusnesau bwyd i sicrhau bod y bwyd maen nhw’n ei baratoi i bobl ei fwyta yn ddiogel. Un o’r ffyrdd symlaf a mwyaf effeithiol o gyflawni hyn yw trwy gynnal arferion hylendid dwylo rhagorol wrth gynhyrchu bwyd. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos, am lu o resymau, bod cydymffurfiad hylendid dwylo trinwyr bwyd yn y sector bwyd yn wael, ac felly mae angen deall mwy am yr hyn sy’n sbarduno ac yn dylanwadu ar gamau golchi dwylo llwyddiannus. Ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd yn benodol, lle mae allbwn a dosbarthiad cynnyrch o bosibl yn fwy nag mewn gweithrediadau busnes bwyd annibynnol, mae safonau hylendid dwylo rhagorol yn allweddol i amddiffyn iechyd cwsmeriaid.
Mae’r modd y mae diwylliant diogelwch bwyd yn effeithio ar ymddygiadau diogelwch bwyd – fel hylendid dwylo – yn faes sy’n dal yn ei fabandod ac mae dylunio, gweithredu a gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau cadarn yn allweddol i symud ymlaen yn y maes gwyddoniaeth penodol hwn. Yn fy ymchwil PhD, o’r enw “Asesu cydymffurfiaeth hylendid dwylo a diwylliant diogelwch bwyd mewn gweithgynhyrchu bwyd”, rwy’n defnyddio ystod o ddulliau ymchwil, gan gynnwys cyfweliadau rheoli manwl, asesiadau microbiolegol amgylcheddol, arsylwadau ymddygiad dwys, arolwg staff cyfan ac adolygiad o weithdrefnau a phrotocol y cwmni i nodi lefel cydymffurfiad hylendid dwylo ac aeddfedrwydd y diwylliant diogelwch bwyd yn y busnes.
Er mwyn cefnogi dyluniad y prosiect, mae ysgoloriaeth KESS 2 wedi hwyluso mynediad i ystod o gyfleoedd hyfforddi yn y Brifysgol, trwy raglen KESS 2 yn uniongyrchol yn ogystal â gyda ffynonellau allanol o fri. Yn benodol, mae’r ysgol breswyl i raddedigion KESS 2 yn un agwedd hyfforddi y mae myfyrwyr yn cymryd rhan ynddi ar eu taith PhD sy’n helpu i adeiladu sgiliau sy’n angenrheidiol i lywio’r berthynas fusnes ac academaidd yn llwyddiannus. Mae cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi fel y rhain nid yn unig yn parhau â’m datblygiad, ond hefyd yn sicrhau bod dyluniad fy mhrosiect wrth symud ymlaen yn gredadwy ac y bydd yn arwain at ddyfarniad datblygu sgiliau ôl-raddedig ar ddiwedd y prosiect.
I mi, mae prosiectau KESS 2 yn crynhoi egwyddor Datblygu Cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn yr ystyr eu bod wedi’u cynllunio fel partneriaethau arloesol sy’n gweithio tuag at newidiadau cadarnhaol tymor hir i’n cymunedau yng Nghymru. Rwy’n ffodus i gael bod yn rhan o ddull mor newydd o ddysgu academaidd uwch ac am y cyfleoedd y mae wedi’u cynnig imi hyd yn hyn; a gobeithio – y rhai y bydd yn eu hadeiladu ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.
CYDWEITHREDIAD DIWYDIANT
Fe wnaeth fy nhaith at Ysgoloriaeth PhD KESS 2 hyrwyddo fy astudiaethau ym maes Iechyd yr Amgylchedd fel myfyriwr israddedig, lle taniwyd fy angerdd am ddiogelwch bwyd a newid ymddygiad. Roedd yr ysgoloriaeth yn gyfle nid yn unig i weithio gyda’r arbenigedd academaidd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ond hefyd i ddysgu am swyddogaethau technegol busnes cynhyrchu a phrosesu bwyd gweithredol. Mae prosiectau KESS 2 yn trochi’r myfyriwr yn y busnes trwy gydol y prosiect, sydd i mi wedi golygu datblygu set sgiliau newydd mewn diwydiant nad oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol ohono, ac wedi galluogi profiad uniongyrchol o ystod o systemau rheoli diogelwch bwyd cymhleth mewn amser real. Trwy weithio ar y cyd rhwng y byd academaidd a’r busnes, mae’r efrydiaeth yn sicrhau bod prosiectau KESS 2 yn darparu datrysiad pwrpasol i’r busnes i broblem weithredol sydd wedi’i chynllunio i fod yn gynaliadwy y tu hwnt i oes y prosiect.
EFFAITH
Mae’n hysbys bod diwylliant diogelwch bwyd sefydliad (e.e. y nodweddion hynny sy’n anniriaethol fel gwerthoedd, agweddau, disgwyliadau diogelwch bwyd, dynameg grŵp ac uniondeb) yn siapio ac yn cyfeirio ymddygiad mewn sefyllfaoedd gwaith. Felly mae’r prosiect hwn yn ceisio sefydlu cydymffurfiad hylendid dwylo cyfredol mewn busnes cynhyrchu a phrosesu bwyd aml-safle ochr yn ochr â dadansoddiad o ddimensiynau’r diwylliant diogelwch bwyd y credir eu bod yn dylanwadu ar yr un peth. Defnyddir y canfyddiadau i lywio dyluniad – a gweithrediad dilynol – ymyriadau hylendid dwylo a ddatblygir i ddiwallu anghenion penodol y busnes. Bydd gwerthuso effeithiolrwydd ar ôl ymyriadau nid yn unig o fudd mawr i’r busnes ond hefyd yn symud y maes ymchwil newydd hwn yn ei flaen.
Mae ysgoloriaethau PhD KESS 2 yn cynnig cyfleoedd dirifedi i fyfyrwyr a fyddai fel arall yn anhygyrch. Yn bersonol, rwy’n credu bod ysgoloriaethau KESS2 yn rhoi mantais i fyfyrwyr doethuriaeth – a chipolwg ar ddyfodol a allai fod yn ddisglair ac addawol iawn!
UCHAFBWYNTIAU EMMA
O ganlyniad i’m prosiect KESS 2 hyd yn hyn yr wyf wedi…
- Ymuno â thîm Ymchwil Diwylliant Diogelwch Bwyd Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE sy’n archwilio diwylliant diogelwch bwyd ar lawer o wahanol lwyfannau (o safbwyntiau busnes bach hyd at agweddau rheoliadol);
- Dod yn aelod o Grŵp Gwyddoniaeth Diwylliant Diogelwch Bwyd SALUS sy’n dod ag arbenigwyr rhyngwladol o ddiwydiant a’r byd academaidd ynghyd i weithio ar ddatblygu diwylliant diogelwch bwyd trwy wyddoniaeth ac arfer gorau;
- Mynychu Ysgol Graddedigion KESS2 yng Ngorllewin Cymru i wella sgiliau rheoli prosiect a chyflwyno a rhwydweithio ynghyd â chwrdd â myfyrwyr KESS2 sy’n cynrychioli gwahanol Brifysgolion o bob rhan o Gymru;
- Mynd ar daith i Ffrainc i gyflwyno dau boster academaidd a mynychu symposia gwyddor bwyd amhrisiadwy yn Symposiwm Ewropeaidd y Gymdeithas Ryngwladol Diogelu Bwyd yn 2019;
- Cymryd rhan yng Ngwobrau Myfyrwyr Blynyddol KESS2 ym mis Medi 2019 gan dderbyn cydnabyddiaeth am agweddau cynaliadwy fy nyluniad prosiect;
- Cynrychioli Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn Seminar Rhagoriaeth Diwylliant Campden BRI ym mis Rhagfyr 2019, rhoi cyflwyniad am fy mhrosiect i gynulleidfa fawr o weithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd ac ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen a oedd yn rhan o’u cyfres Papur Gwyn ar ddiwylliant diogelwch bwyd;
- Cael gwahoddiad i gyflwyno rhai canfyddiadau cynnar o’m hymchwil i weithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd, rheoleiddwyr ac academyddion o bob cwr o’r byd mewn gweminar rithwir a drefnwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol Diogelu Bwyd yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19;
- Gweithio gyda fy nhîm goruchwylio academaidd fel cyd-gyfrannwr i dair llawysgrif academaidd; mae un ohonynt wedi’i dderbyn i’w gyhoeddi ac mae dau ohonynt yn cael eu paratoi i’w cyflwyno. Yn bersonol, mae hyn wedi bod yn rhan bwysig iawn o’m proses ddysgu PhD; amhrisiadwy, addysgiadol ac i mi, cyflawniad sy’n fy ngwneud yn anhygoel o falch.
Menter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Am ragor o wybodaeth am sut y gallai eich sefydliad elwa o gymryd rhan yn KESS 2, cysylltwch â thîm canolog KESS 2 ym Mangor ar: kess2@bangor.ac.uk