Mae ymchwilydd KESS 2 o Brifysgol Abertawe, Aaron Todd, wedi ennill y wobr gyntaf mewn cynhadledd ryngwladol am ei ymchwil ar fynd i’r afael â llygredd afonydd o fwyngloddiau segur. Wedi’i leoli yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe, mae Aaron yn gwneud PhD ar feintioli llygredd afonydd ac mae wedi defnyddio dulliau mesur llif gwanhau halen; techneg ar gyfer amcangyfrif llif nant fechan yn gyflym ac yn hawdd. Mae wedi bod yn gwneud ei waith maes yng ngwaith plwm Nant y Mwyn yn Sir Gaerfyrddin, a adawyd yn wag ym 1932.
Mae gan Gymru dros 1,300 o fwyngloddiau metel segur, ac mae pob un ohonynt yn effeithio i ryw raddau ar yr amgylchedd. Mae ymchwil Aaron yn helpu i fonitro llygredd o’r mwynglawdd sy’n llifo i Afon ac Aber Tywi. Mae Nant y Mwyn yn enghraifft arbennig o ddramatig, yn llygru bron y cyfan o Afon Tywi gyda sinc i lefel uwchlaw safonau cemegol Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE. Dim ond os gellir mapio a deall y llwybrau a’r prosesau trosglwyddo llygryddion y gellir trin y safleoedd hyn.
Yn ddiweddar, cyflwynodd ei ymchwil i arbenigwyr yng Nghynhadledd y Gymdeithas Dŵr Mwyngloddio Ryngwladol yn Seland Newydd a dyfarnwyd y wobr gyntaf iddo, a ddaeth gyda bwrsariaeth o £1500. Hefyd rhoddodd Aaron ail gyflwyniad ar ran ei gyd-ymchwilydd PhD KESS 2, Stuart Cairns.
Eglurodd Aaron:
“Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau i asesu’r llif dŵr a’r llygredd canlyniadol ar draws safle Nant y Mwyn, gan gynnwys mesur llif gwanhau halen, a ddefnyddiais ac a ddysgais yn ddiweddar yn Ynysoedd y Philipinau. Rwyf hefyd yn defnyddio samplu synoptig a chwistrelliad olrhain, sydd, er ei fod yn weddol gyffredin yn yr Unol Daleithiau, yn parhau i fod yn weddol brin yn y DU.
Mae Stuart Cairns wedi bod yn ymchwilio i’r defnydd o fio-olosg – biomas wedi’i byrolysu – i gael gwared ar halogion o amrywiaeth o ddyfroedd yr effeithiwyd arnynt, megis dŵr ffo oddi ar y draffordd. Bu ef a minnau yn treialu ei ddefnydd mewn dau fwynglawdd metel: yn gyntaf yn Nant y Mwyn ac wedi hynny ym Mynydd Parys yn Ynys Môn, a dyna y siaradais amdano yn y gynhadledd. Canfuom y gall y bio-olosg gael gwared ar dros 90% o’r metelau sy’n peri pryder mewn dim ond munud, sy’n ganlyniad addawol iawn.
Fe wnaeth KESS 2 fy ngalluogi i fynychu’r gynhadledd ryngwladol hon gan fod cyllideb teithio’r ysgoloriaeth yn cynnwys fy ffioedd hedfan, gwesty a chynadledda.”
Dywedodd Pete Stanley, Uwch Gynghorydd Arbenigol Mwyngloddiau Gadael yn Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n noddi ymchwil Aaron yn rhannol:
“Mae ymchwil Aaron yn Nant y Mwyn wedi helpu i ddod â mwy o eglurder ar y pwysau llygru sy’n bresennol. Mae hyn wedi galluogi gosod gorsafoedd mesur llif mewn ffynonellau allweddol sydd, o’u cyfuno â ffynonellau gwasgaredig ehangach, yn llywio dichonoldeb parhaus a chynllun gwaith ymyrryd gwrth-lygredd fesul cam.
Mae Nant y Mwyn wedi dod yn safle allweddol o fewn y Rhaglen Mwyngloddiau Metel gan mai dyma’r brif fwynglawdd sy’n llygru ar Afon Tywi. Bydd gwaith yma yn gwella darn hirach o afon nag mewn unrhyw fwynglawdd arall yng Nghymru.”
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i hariennir yn rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Cyhoeddiadau:
Defnyddio Chwistrelliad Tracer a Samplu Synoptig, a Llif Gwanhau Halen i Fesur Fflwcsau Metel mewn Trothwy Tymherus yn y DU. Todd, Aaron Martin Lawrence; Robertson, Iain; Walsh, Rory P.D.; Byrne, Padrig; Edwards, Paul; Williams, Tom (2022):
https://www.imwa.info/imwa-awards/best-student-presentation.html
https://www.imwa.info/docs/imwa_2022/IMWA2022_Todd_307.pdf [dolen uniongyrchol]
Erthyglau cysylltiedig:
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-58276244
https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/679805/nant-y-mwyn-mine-case-study_2014_05.pdf