Mewn byd lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o’n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy’n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno. Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno. Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.