Lansiwyd gwefan KESS 2 yn ystod noson gyflwyno yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mangor ar y 4ydd o Ebrill 2017. Mae’r wefan newydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig a hawdd ei defnyddio ynghylch rhaglen KESS 2, llyfrgell o astudiaethau achos prosiect KESS 2, yr ysgoloriaethau diweddaraf sydd ar gael, ac erthyglau newyddion KESS 2 fel bod modd hyrwyddo a rhannu llwyddiannau’r prosiect dros y chwe blynedd nesaf.

Prof John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
Yn y lansiad, dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae cyfleu cymhlethdod ac amrywiaeth KESS 2 yn dasg heriol – mae’r wefan newydd yn llwyfan inni arddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud dan ymbarél KESS 2 ar hyd a lled Cymru.”
Y bwriad yw y bydd y wefan newydd yn hafan ddeinamig i gyfathrebu llwyddiannau’r astudiaeth ymchwil cydweithredol sy’n digwydd rhwng y sector academaidd a’r sector busnes ledled Cymru. Y gobaith yw y bydd yn datblygu i fod yn adnodd gwerthfawr i bawb sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn ogystal â bod yn llwyfan digidol i rannu newyddion, llwyddiannau, ac astudiaethau achos y prosiect â chynulleidfa ehangach.
Yn ystod y lansiad cafwyd safbwyntiau gan gynrychiolydd o bob grŵp o randdeiliaid y prosiect; siaradodd David Lea-Wilson o Halen Môn fel cwmni partner gweithgar i KESS 2, Dr. Hongyun Tai o Ysgol Gemeg Prifysgol Bangor fel goruchwyliwr academaidd a Pip Jones, sy’n fyfyrwraig PhD gyda KESS 2 ar hyn o bryd. Rhoddodd y tri siaradwr gipolwg cyffrous ar gyfleoedd posibl i KESS 2 yn y dyfodol, a rhannu eu mewnwelediad i’r profiad o gymryd rhan ym mhrosiectau a ariennir gan KESS 2

David Lea-Wilson o Halen Môn
Dywedodd David Lea-Wilson, sydd â dau brosiect KESS 2 gweithredol yn Halen Môn ar hyn o bryd:
“Ni allaf feddwl am ffordd well o ddod â’r byd academaidd sydd ar garreg ein drws o fewn ein cyrraedd… Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw adnabod yr un peth unigryw hwnnw sydd am wneud i gynnyrch neu brosiect lwyddo’n gynnar, a gallwn gynnwys y myfyriwr PhD o’r cychwyn cyntaf.”
Ymddangosodd prosiect KESS 2 Pip Jones ar y rhaglen BBC Countryfile yn ddiweddar. Dywedodd:
“Mae creadigrwydd, arloesi, a’r gallu i feddwl yn ehangach yn greiddiol i holl brosiectau KESS 2. Mae’n angenrheidiol ym myd busnes i gael y mathau hynny o brosiectau’n digwydd, felly mae KESS yn asio byd busnes a’r byd academaidd â’i gilydd ac mae ffrwyth eu llafur yn arloesol ac yn ddiddorol. Fel myfyrwraig, mae hyn yn rhywbeth cyffrous iawn i fod yn rhan ohono.”
Er mwyn sicrhau bod ystyriaeth lawn i les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn rhan annatod o’r rhaglen, mae KESS 2 yn gweithio mewn partneriaeth gyda Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor. Gellir dod o hyd i fanylion ynglŷn ag ymrwymiad KESS 2 yn adran Cynaliadwyedd y wefan, sy’n cynnig gwybodaeth ac arweiniad pellach i holl bartneriaid y prosiect.
Mae cam nesaf datblygiad y wefan eisoes yn mynd rhagddo ac fe groesawir adborth ynghylch profiadau defnyddiwr drwy’r ‘blwch awgrymiadau’ ar e-bost kess2@bangor.ac.uk
Lansiad Gwefan: Oriel y Digwyddiad
Cliciwch ar y mân-luniau isod i weld y lluniau maint llawn