Gwybodaeth KESS 2 (Gorllewin Cymru)

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn weithgaredd sylweddol ar draws Cymru a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru. Mae KESS 2 yn cysylltu cwmnïau a sefydliadau gydag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd, gan weithio tuag at gymhwyster Meistr Ymchwil neu PhD. Caiff elfennau o ymchwil eu cyfuno â rhaglen hyfforddiant sgiliau lefel uwch, sy’n arwain at Ddyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA).

Mae KESS 2 yn cynnwys pob un o brifysgolion Cymru, a chaiff ei arwain gan Brifysgol Bangor. Yn dilyn prosiect KESS hynod lwyddiannus rhwng 2009 a 2014, mae KESS 2 bellach yn yr ail rownd gyllido a bydd yn darparu 645 o ysgoloriaethau dros gyfnod o chwe blynedd.

Prif amcanion KESS 2 yw:

  • Gwella capasiti busnesau bach a chanolig o ran gwaith ymchwil drwy gysylltu â phrosiect PhD / Meistr Ymchwil
  • Annog busnesau bach a chanolig i wneud gwaith ymchwil a recriwtio ymchwilwyr
  • Paratoi a hyfforddi unigolion i gyfrannu at waith ymchwil fel gweithwyr proffesiynol
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu technolegau allweddol yn Ardal Gydgyfeirio Cymru
  • Hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu sgiliau lefel uwch
Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru

Mae prosiectau KESS 2 yn unigryw gan eu bod wedi’u teilwra i ddarparu ymchwil cyffrous ac arloesol, yn ogystal â diwallu anghenion busnesau gweithredol neu’r sectorau cysylltiedig. Rhaid i’r ymchwil a wneir drwy brosiect KESS gyd-fynd ag un o bedwar Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru, sef:

  • Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
  • Peirianneg a Deunyddiau Uwch
  • Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd
  • TGCh a’r Economi Ddigidol

Fel rhan o ‘Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)’ Llywodraeth Cymru, mae KESS 2 yn sicrhau bod ein tîm ac ein holl bartneriaid yn gallu dangos ein bod yn rhoi ystyriaeth dyledus i les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ym mhopeth a wnawn.

Darllenwch fwy am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a lles cenedlaethau’r dyfodol.


Tair elfen graidd

Y tair elfen graidd o ysgoloriaeth KESS 2.

Ffeithiau am KESS 2

  • Mae KESS 2 yn brosiect Cymru-gyfan gwerth £36 miliwn, sy’n cael ei gefnogi gan gronfeydd yr ESF drwy Lywodraeth Cymru.
  • Arweinir y prosiect gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru.
  • Mae pob un o Brifysgolion Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect
  • Caiff y prosiect ei werthuso’n allanol
  • Bydd KESS 2 yn darparu 645 o ysgoloriaethau wedi’u cyllido dros 6 blynedd (PhD: 335, Ymchwil Meistr: 310)

Mae’r modd mae KESS 2 yn defnyddio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau Lefel Uwch yn unigryw:

Mae rhaglen hyfforddi a datblygu sgiliau lefel uwch wedi’i chynnwys ym mhob prosiect, sy’n arwain at Ddyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA)

Mae’r prosiect yn dilyn trywydd y rheini sy’n cwblhau ysgoloriaethau KESS 2 er mwyn casglu data cyrchfan ystyrlon ar gyfer yr ardal drwy gynnal astudiaethau achos ffocws.

Mae gennym rwydwaith cryf o Alumni KESS, sy’n cynnwys ysgolheigion a phartneriaid cwmni yn gweithredu drwy grŵp LinkedIn. Rydym yn bwriadu datblygu’r rhwydwaith hwn ar gyfer rhaglen fentora yn ystod KESS 2.

Mae pob prosiect yn gweithio ar y cyd â chwmni / sefydliad yn Ardal Gydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Cliciwch yma i weld Map o’r Ardal Gydgyfeirio (linc yn agor mewn tab newydd)


Ystadegau KESS 2

Ystadegau KESS 2Mae 61% o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn KESS 2 yn fusnesau bach a chanolig

Yng nghronfa ddata KESS 2, mae 380 o gwmnïau / sefydliadau sydd wedi cymryd rhan weithredol yn y prosiect

Dosbarthiad ymhlith y sectorau blaenoriaeth:

  • 50% Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
  • 20% Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd
  • 17% TGCh a’r Economi Ddigidol
  • 11% Peirianneg a Deunyddiau Uwch
  • 2% Arall

 


Nodweddion Ychwanegol KESS 2

Mae pob un o ysgolheigion KESS 2 yn mynychu Ysgol breswyl i Raddedigion KESS i weithio ar weithgareddau datblygu a hyfforddiant ar gyfer busnesau. Drwy Gymdeithas Prifysgolion Ewrop (EUA), rydym wedi sefydlu Ysgol Ddoethurol Ddiwydiannol Ewropeaidd (E.I.D.S.), sy’n golygu ein bod yn gallu gweithio gyda phrifysgolion sy’n bartneriaid ledled Ewrop a chynnig cyfleoedd trawswladol i’n hysgolheigion KESS 2 a phartneriaid cwmni.

Hefyd, mae KESS 2 wedi sefydlu porth hyfforddi a datblygu doethurol, dwyieithog drwy Skills Forge i’r holl brifysgolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ei ddefnyddio, lle bydd cyfleoedd ar gael i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect.


Partneriaid Cwmni

company partner mapMae KESS 2 a KESS 2 Dwyrain yn falch o alluogi a chefnogi safonau rhagorol o Ymchwil a Datblygu ar gyfer nifer helaeth o fusnesau ledled Cymru. Hoffech wybod faint o gwmnïau rydyn ni’n gweithio gyda? Edrychwch ar y map rhyngweithiol hwn o’n holl bartneriaid cwmni, a restrir A-Z :

Gweld y Map