KESS 2 a KESS 2 Dwyrain : Cynaliadwyedd

Mae KESS 2 a KESS 2 Dwyrain yn cymryd camau i sicrhau bod ein tîm a’n partneriaid yn cydnabod cynaliadwyedd yn ein holl weithgareddau. Rydym yn dangos hyn drwy roi ystyriaeth ystyrlon i les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ym mhopeth a wnawn. Drwy fabwysiadu’r dull arloesol a rhesymegol hwn o reoli a chyflawni prosiectau rydym yn hyrwyddo ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’ Llywodraeth Cymru a ddaeth yn gyfraith fis Ebrill 2016.

Yn ystod oes KESS 2 rydym yn cynllunio i weithio drwy broses o ddysgu gweithredol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o beth yw gwir ystyr cynaliadwyedd a llesiant i ni a’n partneriaid.  Rydym yn frwdfrydig iawn am bartneru gydag eraill sy’n rhannu’r un weledigaeth ac sydd ar daith debyg.

Penny Dowdney sy’n arwain ar yr agenda Gynhaliadwyedd gyda thîm o arbenigwyr o Brifysgol Bangor ochr yn ochr â holl randdeiliaid a thimau KESS 2. Mae KESS 2 yn brosiect wedi ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), a dyma’r ffordd o weithio rydym wedi ei ddewis i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y Themâu Trawsbynciol.

Mae tair thema drawsbynciol wedi’u diffinio ar gyfer holl brosiectau ESF:

· Cyfle Cyfartal, Prif Ffrydio Rhywiol a’r Iaith Gymraeg
· Datblygu Cynaliadwy
· Mynd i’r Afael â Thlodi ac Allgáu Cymdeithasol

Gellir dod a phob un ohonynt ynghyd yn yr Un Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.


Mae’r ffordd hon o weithio wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang. Dyma beth mae Nikhil Seth, Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, yn ei ddweud am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru:

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn adlewyrchu ysbryd a hanfod dau ddegawd o waith yr Undeb Unedig ym maes datblygiad cynaliadwy ac yn gwasanaethu fel model ar gyfer ardaloedd a gwledydd eraill… Rydym yn gobeithio beth mae Cymru yn ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory.  Gweithred, mwy na geiriau, yw ein gobaith ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r dyfodol.”


KESS 2 a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig

Yn ogystal â’r uchod, er mwyn helpu i weithredu a hyrwyddo cynaliadwyedd, mae KESS 2 wedi integreiddio Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig i’n rhaglen weithgareddau. Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig 2020 yn ddechrau’r Degawd Gweithredu, sy’n galw am gyflymu atebion cynaliadwy i holl heriau mwyaf y byd.

Beth yw Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig?

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy Cenhedloedd Unedig (UN SDGs) wedi eu dylunio i gyflawni dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb.  Maent yn mynd i’r afael a heriau byd-eang sy’n cynnwys tlodi, anghydraddoldeb, newid hinsawdd, heddwch a chyfiawnder.  Mae’r 17 Nod i gyd yn cysylltu gyda’i gilydd ac yn mapio ar y Nodau Cymreig Cenedlaethau’r Dyfodol (wedi amlinellu uchod).

 

 

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan 2020 fel dechrau’r Degawd o Weithredu sy’n galw ar gyflymu atebion cynaliadwy i heriau mwyaf y byd – sy’n amrywio o dlodi a gender i newid hinsawdd, anghydraddoldeb a chau’r bwlch ariannol.

Os hoffech ddysgu mwy, rydym yn trefnu cyfres o weminarau yn adlewyrchu un Nod y Mis y Cenhedloedd Unedig pob mis. Byddwn yn dod â chyflwynwyr o staff KESS a myfyrwyr KESS ynghyd i archwilio pob nod ymhellach a rhannu mwy am sut mae prosiectau KESS 2 a KESS 2 Dwyrain yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Rhagor o Wybodaeth

Gellir dod o hyd i rhagor o wybodaeth ar ‘Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (2015)’ ar ein tudalen Lawrlwytho, o dan y testun Adnoddau Cynaliadwyedd.