Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023, mae KESS 2 yn tynnu sylw at rai o’r cyfranogwyr benywaidd gwych a ymddangosodd yn ein newyddion yn ddiweddar. Mae’n rhaid dweud nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, mae llawer mwy o ferched anhygoel yn gwneud gwaith gwych gyda KESS 2! Eleni mae ein chwyddwydr yn disgyn ar:

Jenny Woods

Mae Jenny yn ymchwilio i bolymerau bio-seiliedig i’w rhoi ar becynnu papur. Gan weithio gyda Wipak (UK) Ltd. ei nod yw datblygu cotio bio-seiliedig y gellir ei roi ar swbstrad papur i’w ddefnyddio fel deunydd pecynnu posibl yn y diwydiant.

Darllen mwy: https://kess2.ac.uk/cy/case-studies/bio-based-coating-applications-onto-paper-based-packaging/

Trys Burke

Mae Trys o Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor yn ymchwilio yn ymchwilio i wella iechyd a lles cymunedol trwy weithgareddau antur awyr agored a gefnogir gan gymheiriaid, gan weithio ar y cyd â cwmni Chwaraeon Dŵr Eryri (Snowdonia Watersports). Mae Trys yn siarad mwy am hyn yn ein gweithdy #SDG3 diweddar.

Darllen mwy: https://kess2.ac.uk/cy/wellbeing-benefits-of-outdoor-activities/  ac  https://youtu.be/IoFK30TY49w ac https://kess2.ac.uk/cy/covid-chronicles-continues-with-kess-2-face-covering-selfies/

Emma Jones

Nod ymchwil Emma, mewn partneriaeth ag Arennau Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw deall pam mae rhai cleifion â chlefyd yr arennau yn gwrthod neu’n optio allan o drawsblaniad aren.

Darllen mwy: https://kess2.ac.uk/cy/world-kidney-day-2022/

Dr Liz Morris-Webb

Mae Liz yn Gynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol ac oedd ei hastudiaeth PhD, a’i hymchwil dilynol, yn canolbwyntio ar lythrennedd cefnforol. Mae gwaith trawsddisgyblaethol Liz rhwng y Gwyddorau Eigion a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn edrych ar berthynas pobl â’r môr a sut mae’n berthnasol mewn cyd-destun rheoli. Mae Liz yn siarad mwy am hyn yn ein gweithdy #SDG14 diweddar.

Darllen mwy: https://kess2.ac.uk/cy/what-does-gathering-from-the-seashore-mean-to-the-modern-hunter-gatherer/ ac  https://youtu.be/PRjaHXoUiCM 

Dr Kathryn Whittey

Edrychodd ymchwil PhD Kath ar gynefinoedd cwrel ac adfer creigresi trwy ddefnyddio “tai pysgod” wedi’u hadeiladu’n artiffisial. Roedd ei hastudiaeth hefyd yn cynnwys edrych ar atebion biolegol posibl ar gyfer iechyd pysgod cytbwys mewn amgylcheddau dyframaethu.

Darllen mwy: https://kess2.ac.uk/fish-hives/

Hannah Gandley

Mae ymchwil Hannah yn edrych ar arfarniad parthol a dylunio peirianyddol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr mewn cydweithrediad â chwmni ynni RWE. Yn ddiweddar cymhwysodd Hannah Nod Datblygu Cynaliadwy 14 y Cenhedloedd Unedig, Bywyd o Dan Ddŵr i’w hymchwil KESS 2.

Gwyliwch: https://www.youtube.com/watch?v=D8i8ONF9MoY