Mae KESS 2 yn ymwneud â pharatoi a hyfforddi unigolion i gyfrannu at ymchwil fel gweithwyr proffesiynol. Yn ogystal, rydym ni’n hyrwyddo sgiliau lefel uwch ymysg sectorau blaenoriaeth YaD Llywodraeth Cymru. Felly, mae elfen datblygu sgiliau wedi’i ymwreiddio ym mhob ysgoloriaeth KESS 2. Mae’r Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA), sy’n cael ei gefnogi gan gyllideb ddatblygu sgiliau blynyddol, wedi bod yn agwedd lwyddiannus iawn o brosiect KESS 2 fel cyfanwaith.
Gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan yn KESS 2 gwblhau nifer o ‘gredydau KESS’ sy’n cyfrif tuag at y Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig drwy gwblhau cyfanswm o oriau o hyfforddiant cytunedig. Rydym ni’n gosod targed o 60 o ‘gredydau KESS’ i’r ysgolheigion PhD ar y cychwyn, ond rydym yn falch o weld bod y rhan fwyaf o ysgolheigion mewn gwirionedd yn cwblhau, ar gyfartaledd, deirgwaith fwy na’r nifer yna.
Llwybr Nodweddiadol
Gall ‘credydau KESS’ gael eu cronni drwy gwblhau amrediad eang o weithgareddau hyfforddi a datblygu, fel sy’n briodol i’r unigolyn ac i’r cyfnod o astudiaeth y maen nhw’n ei ddilyn. Gall llwybr nodweddiadol efallai edrych yn rhywbeth tebyg i’r canlynol:
Cyfnod Cynnar |
· Sgiliau ymchwil · Methodolegau penodol · Adnewyddu neu ymestyn sgiliau · Ymsefydlu Themâu Traws Torri · Gweithdy Cyflwyniad i Gynaliadwyedd |
Cyfnod Canol |
· Ysgol Graddedigion KESS · Technegau dadansoddi data · Technegau cyflwyno |
Cyfnod Hwyr |
· Ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiad · Cyflwyno mewn cynhadledd · Gweithdai gyrfaoedd · Cystadleuaeth Themâu Traws Torri KESS 2 |
Mae amrediad anferth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael, ac mae arolygwyr a chwmnïau partner yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â sut i flaenoriaethu’r rhain er mwyn cwblhau’r prosiect yn well.
Enghraifft o lwybr manwl drwy Ddyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig KESS:
Cyfnod Cynnar |
Cyfnod Canol |
Cyfnod Hwyr |
Ymsefydlu
Ymsefydlu Themâu Traws Torri Gweithdy Cyflwyniad i Gynaliadwyedd Dulliau Ymchwil Llywodraethu ymchwil Hyfforddiant yn y cwmni partner Her Pecha Kucha Hyfforddiant ystadegau [R] Refworks / chwilio am wybodaeth Rheoli’r Prosiect Rheoli amser Defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ymchwil Hyfforddiant methodoleg arbenigol |
Ysgol Graddedigion KESS
Dadansoddi data Adolygiadau systematig Ysgrifennu Traethawd Ymchwil 1 Cyflwyniad grŵp ymchwil ôl-raddedig Addysgu / arddangos Cyflwyno poster mewn cynhadledd Hyfforddiant caniatâd hawlfraint / eiddo deallusol Modelu ystadegol Encil ysgrifennu |
Goroesi arholiad llafar
Arholiad Llafar Ffug Cystadleuaeth Themâu Traws Torri KESS 2 Ysgrifennu Traethawd Ymchwil 2 Cyhoeddi Gweithdai gyrfaoedd Ymgysylltu â’r cyhoedd Cyflwyno papur ar gyfer cynhadledd Gweithio gyda’r cyfryngau |
Yn ddelfrydol, mae Ysgol Graddedigion KESS, sy’n ysgol orfodol, yn cael ei chynnal ar ddiwedd y cyfnod cynnar, dechrau’r cyfnod canol ac mae’n cynnig cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan gael gweithio gyda’i gilydd gydag eraill, y tu allan i’w hamgylchedd ymchwil. Mae’r ‘adeiladu cohort’ hwn wedi cael ei werthfawrogi’n fawr ac mae’n fuddiol iawn. Rydym ni’n cymryd y cyfle i edrych ar ryngweithiadau gyda llawer o randdeiliaid a sut i reoli’r senario. Mae Ysgol Graddedigion KESS yn edrych ar ochr fusnes y prosiect yn ogystal ag ymgorffori’r hyfforddiant Datblygu Cynaliadwy, er mwyn i hwn fod yn thema gyffredin drwyddo.
Mae Ysgolion Graddedigion KESS yn ddigwyddiadau preswyl, sy’n cael eu cynnig mewn lleoliadau yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru drwy’r flwyddyn. Mae Cohortau Ysgol Graddedigion KESS yn tueddu i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd, yn gweithredu fel rhwydweithiau cefnogi bychain, yn adolygwyr cymheiriaid ac yn ffrindiau. Yn aml, rydym ni’n gweld y grwpiau hyn yn aduno o gwmpas bwrdd (ac mewn lluniau) mewn digwyddiadau KESS 2.
Yn ogystal, rydym ni’n cynnig y cyfle i’n myfyrwyr gymryd rhan yn Ysgol Graddedigion Trawsgenedlaethol KESS yn flynyddol fel rhan o’n rhwydwaith Ysgol Ddoethurol Ddiwydiannol Ewropeaidd.
Os ydych chi’n fyfyriwr KESS 2 ac yr hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig, Ysgol Graddedigion KESS neu gyfleoedd Trawsgenedlaethol, cysylltwch â Penny Dowdney os gwelwch yn dda ar p.j.dowdney@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382266.