KESS 2 ar gyfer Busnes
Beth yw KESS 2?
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn cysylltu cwmnïau a sefydliadau gydag arbenigedd academaidd i ymgymryd â phrosiectau ymchwil sy’n cwrdd ag anghenion busnes gweithredol neu anghenion ei sector. Prosiect cydweithredol yw KESS 2 sy’n cael ei gefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae pob prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan, ac maen nhw’n cael eu harwain gan Brifysgol Bangor.
Mae prosiectau KESS 2 yn rhai unigryw sydd wedi cael eu teilwra i ddarparu ymchwil cyffrous ac arloesol tra’n cwrdd ag anghenion busnes gweithredol neu anghenion ei sector. Mae’n rhaid i ymchwil sydd cael ei wneud drwy brosiect KESS 2 gydweddu ag un o bedwar Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru sef:
- Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
- Uwch Beirianneg a Deunyddiau
- Carbon Isel, Ynni ac Amgylchedd
- TGCh a’r Economi Ddigidol
Ffeithiau ac Ystadegau ynglŷn â KESS 2: Cliciwch yma er mwyn cael darllen mwy
“Mae KESS yn rhoi mynediad i ni at bobl ac adnoddau na fyddem fel arfer yn cael mynediad atynt. Byddem yn bendant yn gweithio gyda KESS eto. Rydym wedi cael dau fyfyriwr PhD da iawn sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r busnes. Yn sicr, rydym wedi dysgu llawer drwy weithio gyda nhw, ac rydym yn gobeithio eu bod nhw wedi dysgu llawer drwy weithio gyda ni hefyd.“
Ian Cameron, Micropharm
Sector fferyllol
Pam dewis KESS 2?
- Sicrhewch fod eich sefydliad yn llais awdurdodol ac yn arwain y farchnad yn eich sector.
- Cyfle i brofi haeriadau, canfyddiadau a phrofiadau ynghylch eich cynnyrch, eich gwasanaeth neu eich brand.
- Darn o ymchwil y gallwch helpu i’w lywio, gyda chefnogaeth academydd, i gyd-fynd ag anghenion eich cwmni.
- Cost isel iawn i gymryd rhan, o’i gymharu â’r elw posibl y gallai eich prosiect ei greu.
Cwestiynau a ofynnir yn aml
Pwy all gymryd rhan yn KESS 2?
Gall amrediad o gwmnïau a sefydliadau gyfrannu yn KESS 2, yn cynnwys cwmnïau Micro, BBaCHau, Cwmnïau Mawr, y Trydydd Sector a Mentrau Cymdeithasol.
Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i chi gael presenoldeb gweithredol yn Ardal Gydgyfeirio Cymru. Mae’r Ardal Gydgyfeirio yn cynnwys Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, ac mae’n cynnwys y 15 awdurdod lleol canlynol:
Ynys Môn; Gwynedd; Conwy; Sir Ddinbych; Ceredigion; Sir Benfro; Sir Gaerfyrddin; Abertawe; Castell-nedd Port Talbot; Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf; Merthyr Tudful; Caerffili, Blaenau Gwent; Torfaen.
Cliciwch yma i weld Map yr Ardal Gydgyfeirio (mae’n agor mewn tab newydd)
Beth yw’r buddion i’r cwmni?
Mae KESS 2 yn gyfle gwerthfawr i gael myfyriwr Ymchwil Meistr neu PhD yn gweithio ar faes penodol o’ch busnes. Mae llawer o fuddion eraill o fod yn Gwmni Partner KESS 2, yn cynnwys cyfleoedd i:
- Ddatblygu diwylliant ymchwil o fewn eich sefydliad
- Gosod eich sefydliad chi fel llais o awdurdod ac arweinydd yn y farchnad yn eich sector
- Profi hawliadau, canfyddiadau a phrofiadau ynglŷn â’ch cynnyrch, eich gwasanaeth neu’ch brand
- Sefydlu a chynnal cysylltiadau gwerthfawr â’ch prifysgol leol
- Denu a chefnogi datblygiad ymchwilwyr newydd yn eich cwmni
- Manteisio ar gost mynediad isel iawn ar gyfer yr enillion y gallai eich prosiect KESS 2 o bosibl ddod gydag ef.
Beth yw’r costau?
Mae’r cyfraniadau arian y cwmni ar gyfer prosiectau KESS 2 wedi eu nodi ar y siart isod. Mae holl gyfraniadau arian parod yn amodol ar TAW (dylai partneriaid gael cyngor gan eu Hadran Gyllid).
Cyfraniadau Ariannol Cwmni KESS 2 (cliciwch yma i chwyddo’r siart mewn tab newydd)
A yw’r cwmni ynghlwm â diffinio’r prosiectau ymchwil?
Wrth gwrs. Mae prosiectau yn cael eu diffinio mewn partneriaeth â’r cwmni ac mewn maes yr ydych chi eisiau’i weld yn datblygu. Yn ogystal, mae’r cwmni yn cael rhoi eu barn ynglŷn â dewis myfyriwr ymchwil ar gyfer y prosiect. Mae’n rhaid i ymchwil sy’n cael ei wneud drwy brosiect KESS 2 gydweddu ag un o bedwar Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru sef:
- Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
- Uwch Beirianneg a Deunyddiau
- Carbon Isel, Ynni ac Amgylchedd
- TGCh a’r Economi Ddigidol
Bydd y Panel Cymeradwyo yn ystyried prosiectau eraill os gallan nhw ddangos eu bod yn cydweddu â’r cynllun gofodol, bod ganddyn nhw dechnolegau trawsbynciol, bod galw gan gyflogwyr lleol neu fod ganddyn nhw botensial i gael effaith sylweddol.
Beth a ddisgwylir gan bartner cwmni KESS 2?
- Dylai fod gennych chi ganolfan o fewn yr Ardal Gydgyfeirio yng Nghymru (cliciwch i weld map)
- Dylech fod yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd cynnydd chwarterol a chwblhau adroddiadau cynnydd
- Dylech fod yn gallu arolygu eich myfyriwr tra mae ar leoliad yn eich cwmni.
A yw’r myfyriwr ymchwil yn treulio amser yn y cwmni?
Ydi, mae hyn yn elfen bwysig o fodel KESS 2. Bydd y myfyriwr ymchwil yn treulio lleiafswm o 30 diwrnod y flwyddyn yn y cwmni, yn amodol ar gytundeb rhwng y cwmni a’r arolygwyr academaidd. Gall hyn fod yn hyblyg, yn dibynnu ar y prosiect.
A oes raid i mi gyflogi’r myfyriwr ymchwil ar ddiwedd y prosiect?
Nid oes unrhyw orfodaeth arnoch i gyflogi eich ysgolhaig KESS 2 ar ddiwedd yr ymchwil, er y byddai hyn yn ganlyniad ardderchog ar gyfer y prosiect.
Pwy sy’n berchen ar unrhyw HED a ddaw o ganlyniad i’r prosiect?
Er mwyn dangos eich bod cydymffurfio â rheolau Cymorth Gwladwriaethol, bydd unrhyw Eiddo Deallusol a ddaw yn sgîl prosiect KESS 2 yn eiddo i’r brifysgol berthnasol. Bydd ED cefndirol a gafodd ei ddefnyddio mewn cysylltiad â phrosiect KESS 2 yn eiddo i’r parti sy’n ei gyflwyno a bydd yn amodol ar ymrwymiadau cyfrinachedd. Bydd y brifysgol berthnasol yn gadael i’r cwmni partner gael y dewis cyntaf ar un ai trwydded gyfyngol neu anghyfyngol i ddefnyddio’r Eiddo Deallusol neu unrhyw HED arall sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r prosiect, fel sy’n cael ei drafod rhwng y partïon sydd ynghlwm ag ef.
A oes yna fuddion eraill wrth gymryd rhan?
Mae adborth gan gyfranogwyr blaenorol yn dangos bod cwmnïau yn wir yn gwerthfawrogi’r cysylltiad â’r prifysgolion ac mae hyn wedi arwain yn aml at gydweithrediadau eraill.
I berchnogion a rheolwyr busnes, un o’r buddion mwyaf yw gallu canolbwyntio sgiliau tuag at faes ymchwil sy’n gysylltiedig â’u busnes – rhywbeth nad yw’n bosibl yn aml heb adnodd ychwanegol costus.
Mae’r cyhoeddusrwydd a’r cysylltiadau o amgylch y prosiectau hyn wedi golygu yn aml bod busnesau wedi cael enillion ardderchog ar eu buddsoddiad llawer cyn i ganlyniadau’r ymchwil gael eu cyhoeddi neu cyn iddyn nhw deimlo eu heffaith.
Mae gan bob ysgoloriaeth KESS 2 raglen hyfforddi sgiliau lefel uwch integredig ymwreiddiedig ar gyfer y myfyriwr sy’n cymryd rhan, sy’n arwain at Ddyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig, ac mae’n ymdrin ag unrhyw wybodaeth neu fylchau mewn sgiliau a nodwyd.
A oes cynlluniau eraill a allai fod o fudd i’m sefydliad?
Oes. Mae gan prifysgolion partner amrediad o gynlluniau ac mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu cefnogi gan grant sy’n pecynnu prosiectau busnes gyda sgiliau graddedigion. Os nad yw KESS 2 yn addas, yna gall Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), prosiectau trosglwyddo gwybodaeth dactegol a strategol fod yn addas ar gyfer eich anghenion. Cysylltwch â’ch sefydliad lleol er mwyn cael mwy o fanylion am y rhain a chyfleoedd eraill.