KESS 2 i Fyfyrwyr

Beth yw KESS 2?

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi’i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe’i hariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.

Mae prosiectau KESS 2 wedi’u teilwra’n benodol i faes ymchwil sydd o ddiddordeb i’r partner cwmni, gan gyfuno ymchwil a datblygu gyda defnydd yn y byd go iawn o gychwyn cyntaf y prosiect.

Yn dilyn prosiect cyntaf a hynod lwyddiannus KESS rhwng 2009 a 2014, bydd KESS 2 yn darparu 645 o ysgoloriaethau yn ystod cyfnod o chwe blynedd. Cliciwch yma am ragor o ffeithiau ag ystadegau KESS 2


Beth sy’n gwneud Ysgoloriaethau KESS 2 yn wahanol?

Cydweithredu · Penodol i’r Maes · Defnydd yn y byd go iawn · Datblygiad Personol

Cydweithredu: Mae’r rhaglen yn seiliedig ar gydweithredu, rhywbeth sy’n gynyddol bwysig i lwyddiant busnesau mawr a bach fel ei gilydd.

Penodol i’r Maes: Mae’r prosiect yn benodol i faes diddordeb i’r cwmni partner.

Defnydd yn y byd go iawn: Mae’r cwmni partner yn darparu arolygaeth ar gyfer y myfyriwr a mynediad i’w busnes am rywfaint o’r cyfnod astudiaeth.

Datblygiad Personol: Mae prosiectau yn cael eu hintegreiddio gyda rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uwch, sef y Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA), sy’n golygu bod ysgolhaig KESS 2 yn wir yn deall sut i ddefnyddio ei wybodaeth mewn cyd-destun busnes a menter.


Ffeithiau Cyflym ar gyfer Myfyrwyr