Astudiaeth Achos Alumni KESS 2 : Dr Dyfed Morgan (Fideo)


Dr Dyfed Morgan : Hyrwyddwr Asesu Cylch Bywyd a Chynaliadwyedd – fideo astudiaeth achos.

Cwblhaodd Dyfed Morgan ei PhD ym Mhrifysgol Bangor ac mae bellach yn gweithio ym mharc gwyddoniaeth MSparc fel Hyrwyddwr Asesu Cylch Bywyd a Chynaliadwyedd. Meddai Dyfed,

“Mi wnes i benderfynu gwneud yr ysgoloriaeth KESS 2 ar ôl gwneud gradd feistr yn Mhrifysgol Bangor. Oeddwn wedi gwneud gwaith ymchwil yn y diwydiant cwrw crefft yng Ngogledd Cymru a mi wnaeth fy nhiwtor awgrymu i mi wneud cais am arian KESS 2. Ffocws y gwaith oedd i edrych ar gynaliadwyedd o fewn y sector cwrw crefft yng Nghymru. Rhan o’r prosiect oedd datblygu cyfrifiannell i fesur ôl troed [carbon] y bragdai, a wedyn ar ôl datblygu hwnnw, mynd allan a’i ddefnyddio i fesur ôl troed phob bragdy, gan geisio rhoi cyngor iddynt ar sut i ostwng eu ôl troed.

Dwi’n meddwl bod y cyfle i weithio gyda’r sector yn holl bwysig i fy mhrosiect oherwydd roeddwn yn dibynnu ar y data gan y cwmnïau. Ond hefyd roedd cael mynd allan a chyfarfod y pobol, a gweld lle oeddynt yn gweithio, yn rhoi elfen arall i’r profiad oeddwn yn gael. Mae hyn hefyd, ar y diwedd, yn ffurfio’r perthnasau gyda gwahanol gwmnïau sydd yn golygu bod y gwaith yn gallu parhau – nid yr unig gyda aelodau eraill o’r prosiect neu eraill sy’n cefnogi’r prosiect yn y coleg. Hefyd, os ti’n penderfynu mynd ymlaen i wneud gwaith ymchwil neu yn mynd i weithio i’r diwydiant, mae yna o hyd gyfleon am swyddi wedyn ar y diwedd.

Uchafbwyntiau KESS 2 i fi oedd cael y cyfle i fynd i gynhadleddau dramor. Mi ges i fynd i wneud cyrsiau yn Ffrainc, datblygu sgiliau Life Cycle Assessment, a hefyd wnes fwynhau gwneud yr Ysgol Radd. Wnes fynd i Plas Gregynog a chael cyfle i gyfarfod myfyrwyr eraill oedd hefyd yn mynd trwy yr un problemau a straen [tra’n gwneud gwaith ymchwil]. Mi wnes allu cyhoeddi tri tamaid o waith oedd wedyn yn ffurfio penodau yn fy nhraethawd. Mi wnes hefyd greu rhwydwaith o gwmnïau nad oedd yn bodoli cyn y prosiect.

Ond wedyn heriau; fel oedd y pandemig COVID-19 yn dechrau, ag yn gorfodi pobl i aros adref, dyma’r cyfnod pan ddechreuais ysgrifennu fy nhraethawd, felly oedd yn gyfnod eithaf anodd ag unig. Fy nghyngor i yw gwnewch rhywbeth y mae gennych wir ddiddordeb ynddo. Os ydych chi’n dod i hyd i rhywbeth sydd yn wir bleser i chi ei astudio, mae o yn gwneud y broses lot hawsach. Yn sicr fyswn i yn awgrymu meddwl os ydi’r opsiwn yna i gyhoeddi’r gwaith fel mae’r penodau yn cael eu ysgrifennu, mae hynny yn tynnu pwysau oddi ar yr person yn y diwedd pan mae’n dod i’r VIVA, ag mae rhoi rhyw fath o sicrwydd iddi chi eich bod wedi cwblhau tamaid o waith da.

Fyswn yn hoffi gweld y math yma o raglen yn parhau. Dwi’n meddwl mae’n bwysig i weld cydweithio rhwng diwydiant ag academïa, ag mae cael prosiect fel hyn yn eu tynnu at eu gilydd. Dwi’n meddwl bod mantais fawr i’r busnesau gael yr ymchwil sydd wedi ei wneud iddyn nhw a’u helpu nhw ar ei siwrne o beth bynnag yw’r prosiect i datblygu eu cwmni. Mae hefyd wrth gwrs yn fantais i’r Brifysgol o agwedd gwaith ymchwil.”