Diwrnod Aren y Byd 2022

Emma Jones sitting by her desk

Mae 10fed Mawrth 2022 yn Ddiwrnod Aren y Byd ac yma yn KESS 2 rydym am dynnu sylw at rywfaint o’r ymchwil sy’n ymwneud â’r arennau wedi ei ariannu gan yr ESF mewn partneriaeth ag Aren Cymru.

Mae gan ymchwilwyr KESS 2, Emma Jones o Brifysgol Bangor a Lauren Jones o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, brosiectau ymchwil gyda Aren Cymru. Mae prosiect Lauren yn ymchwilio i’r Sytomegalofirws Dynol (HCMV), firws eang sy’n arbennig o beryglus i gleifion trawsblaniad aren, tra bod ymchwil Emma yn ceisio deall pam mae rhai cleifion â chlefyd yr arennau yn gwrthod trawsblaniad aren.

Dywed Emma,

“Mae Diwrnod Aren y Byd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am glefyd yr arennau a thynnu sylw at effaith byw gyda chlefyd yr arennau ar fywydau pobl. Mae KESS 2 wedi rhoi cyfle i mi weithio gyda phartneriaid cwmni Arennau Cymru ac elusennau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i gynnal ymchwil ansoddol i archwilio a deall y rhesymau pam mae rhai pobl â chlefyd yr arennau yn dweud ‘na’ i gael trawsblaniad aren. Bydd dysgu o brofiadau pobl a arweiniodd at eu penderfyniad i ddewis a gwrthod trawsblaniad aren yn ein helpu i gael mewnwelediad dyfnach a deall prosesau meddwl cleifion yn well a’r hyn sy’n dylanwadu ar eu penderfyniadau.”

C&A Aren Cymru gyda Emma Jones a Lauren Jones, Rhagfyr 2021 (Video)

Erthyglau cysylltiedig:

https://www.kidneywales.cymru/news/2020/03/11/new-medical-research-aims-detect-dormant-virus-kidney-transplant-patients-reduce-hospital-stays/

https://www.kidneywales.cymru/news/2021/11/30/kidney-wales-charity-christmas-calendar-2021/

https://www.kidneywales.cymru/news/2021/02/11/celebrate-women-science-kidney-wales/