Gwybodaeth KESS 2 Dwyrain

KESS 2 Dwyrain yw chwaer brosiect KESS 2, gweithgaredd sylweddol ar draws Cymru a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Llywodraeth Cymru. Mae KESS 2 yn cysylltu cwmnïau a sefydliadau gydag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd. Gall ystod o gwmnïau a sefydliadau gymryd rhan, gan gynnwys cwmnïau Micro, Busnesau Bach a Chanolig, Cwmnïau Mawr, y Trydydd Sector a Mentrau Cymdeithasol. Disgwylir bod gennych chi ganolfan yn ardal Dwyrain Cymru oherwydd bod cyfyngiadau cymhwyster yn berthnasol. Cysylltwch gyda ni am fanylion pellach.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan gyda KESS 2 Dwyrain, nodwch eich diddordeb trwy gysylltu â:

Penny Dowdney
Rheolwr KESS 2 Cymru
p.j.dowdney@bangor.ac.uk
01248 382266

Partneriaid Cwmni

company partner mapMae KESS 2 a KESS 2 Dwyrain yn falch o alluogi a chefnogi safonau rhagorol o Ymchwil a Datblygu ar gyfer nifer helaeth o fusnesau ledled Cymru. Hoffech wybod faint o gwmnïau rydyn ni’n gweithio gyda? Edrychwch ar y map rhyngweithiol hwn o’n holl bartneriaid cwmni, a restrir A-Z :

Gweld y Map