Mae gan y Ganolfan Biogyfansoddion dri ymchwilydd KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor. Darllenwch fwy am ddau o’n cyfranogwyr y sonnir amdanynt yn yr Adroddiad Blynyddol isod. “Mae Carlo, Jenny a Josh yn ychwanegiad gwych i’r gymuned ymchwil yma yn y Ganolfan.” meddai Dr Morwenna Spear, un o’u goruchwylwyr. “Mae rhaglen KESS 2 yn ffordd wych… Darllen mwy »
Tag: MRes
Rhowch y rhodd o gyfle i chi’ch hun eleni a gwnewch gais am ysgoloriaeth Meistr Ymchwil wedi’i hariannu’n llawn!
Y cyfleoedd prosiect penodol hyn yw’r rhai olaf sydd ar gael drwy KESS 2 Dwyrain, felly beth am wneud 2023 yn flwyddyn i’w chofio drwy roi hwb i’ch gyrfa ac arbenigedd academaidd gyda phrosiect ymchwil sy’n gweithio ar y cyd â phartner cwmni byd go iawn. Ond brysiwch, bydd y prosiectau hyn yn cychwyn ym… Darllen mwy »
“Mae cymryd amser i siarad â chleifion yn hanfodol ar gyfer eu gofal”
Erthygl wedi ei ail-bostio o: southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/newyddion-am-2022/mae-cymryd-amser-i-siarad-â-chleifion-yn-hanfodol-ar-gyfer-eu-gofal/ I nodi Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys (Dydd Iau 12 Mai) rydym yn siarad â rhai o’n graddedigion Nyrsio ysbrydoledig sy’n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu proffesiwn. Mae Hilary Dyer, nyrs iechyd meddwl a weithiodd ar wardiau acíwt am gyfnod byr yn ystod y pandemig COVID-19, yn astudio gradd Meistr trwy… Darllen mwy »
Ffeithlun yn dangos effaith cronfeydd yr UE ar gyfleoedd ymchwil cydweithredol yng Nghymru
Llun ddim yn llwytho? Cliciwch yma
Archwilio’r dystiolaeth sy’n berthnasol i ymyriadau Presgripsiwn Cymdeithasol : Cyhoeddiad papur cyntaf Gwenlli Thomas
Mae Gwenlli Thomas, myfyrwraig MRes KESS 2 o Brifysgol Bangor, wedi cyhoeddi ei phapur cyntaf yn yr International Journal of Environmental Research and Public Health (Ffactor Effaith 2.849). Mae’r papur yn archwilio’r dystiolaeth berthnasol â datblygu ymyraethau Presgripsiwn Cymdeithasol sy’n defnyddio dull cyd-gynhyrchiol ac wedi’i gyd-ddylunio er mwyn gwella lles mewn lleoliad cymunedol. Mae cyd-gynhyrchu… Darllen mwy »
Dagrau a chwerthin wrth i’r hen a’r ifanc rannu profiadau
Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd – a bydd y canlyniadau’n siŵr o syfrdanu. Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy’n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach… Darllen mwy »
Deall ein moroedd: Sut mae pysgod yn nofio, ac i ble?
Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner ‘Tidal Lagoon Power’ yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i’w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd – sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae’r project newydd a… Darllen mwy »
Dangos prosiectau ymchwil a ariennir gan yr UE yn nigwyddiad Gwobrau KESS 2
Ddydd Iau 27 Gorffennaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, roedd KESS 2, prosiect a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cyflwyno gwobrau i dri enillydd cystadleuaeth mewn noson ddiddorol o gyflwyniadau byw ac arddangosfa o Ddelweddau Ymchwil, yn dwyn yr enw ‘Creu Tonnau’. Daeth myfyrwyr, cwmnïau a phobl o’r byd academaidd i’r digwyddiad a dangoswyd… Darllen mwy »








