Partneriaid Cwmni KESS 2
Mae KESS 2 a KESS 2 Dwyrain yn darparu cyfleoedd PhD a Meistr Ymchwil wedi’u hariannu ledled Cymru hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023. Cefnogir y ddwy raglen gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys holl brifysgolion Cymru, dan arweiniad Prifysgol Bangor. Yn dilyn rhaglen lwyddiannus gyntaf KESS (2009-2014), bydd KESS 2 a KESS 2 Dwyrain yn darparu dros 645 o ysgoloriaethau yn ystod eu cyfnodau gweithredu.
Mae prosiectau KESS 2 yn unigryw gan eu bod wedi’u teilwra i ddarparu ymchwil cyffrous ac arloesol wrth gwrdd ag anghenion busnes gweithredol neu ei sector. Rhaid i’r ymchwil a wneir drwy brosiect KESS 2 gyd-fynd ag un o bedwar Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru sef: Gwyddorau Bywyd ac Iechyd; Peirianneg a Deunyddiau Uwch; Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd; TGCh a’r Economi Ddigidol.
“Roedd grant KESS 2 yn gyfle gwych i ni ddod ag ymchwilydd ifanc i mewn. Mae’n dod â manteision enfawr. Rydym yn cael ein gwneud yn ymwybodol o gyfleoedd, darnau newydd o offer, elfennau newydd o gyllid, newidiadau mewn deddfwriaeth a newidiadau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phethau. Rydyn ni’n dod yn ymwybodol o’r rhain yn syml trwy’r rhyngweithio.”
Dr Andy Pitman, Lignia Wood
I berchnogion a rheolwyr busnes, un o’r manteision mwyaf yw gallu canolbwyntio sgiliau ar faes ymchwil sy’n gysylltiedig â’u busnes – rhywbeth nad yw’n bosibl yn aml heb adnoddau ychwanegol costus. Mae’r cyhoeddusrwydd cadarnhaol a’r cysylltiadau ynghylch prosiectau KESS 2 yn aml yn golygu bod busnesau wedi cael elw rhagorol ar eu buddsoddiad ymhell cyn cyhoeddi canlyniadau’r ymchwil, neu cyn i’w heffaith deimlo. Mae adborth gan gyfranogwyr blaenorol yn dangos bod cwmnïau wir yn gwerthfawrogi’r cyswllt y maent yn ei adeiladu gyda’r prifysgolion, ac mae hyn yn aml wedi arwain at gydweithrediadau eraill.
Manteision KESS 2 i gwmnïau
Mae prosiectau KESS 2 yn gyfle gwerthfawr i gael ymchwilydd ôl-raddedig i weithio ar faes penodol i’r busnes. Mae llawer o fanteision i bartneriaid cwmni KESS 2 gan gynnwys:
- Datblygu diwylliant ymchwil o fewn eu sefydliad
- Gosod eu sefydliad fel llais awdurdod ac arweinydd marchnad yn eu sector
- Profi honiadau, canfyddiadau a phrofiadau ynghylch eu cynnyrch, gwasanaeth neu frand
- Sefydlu a chynnal cysylltiadau gwerthfawr gyda’u prifysgol leol
- Denu a chefnogi datblygiad ymchwilwyr newydd yn eu cwmni
- Gan fanteisio ar y gost mynediad isel iawn ar gyfer enillion posibl y prosiect
Partneriaid cwmni ledled Cymru
Gall amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau gymryd rhan yn KESS 2, gan gynnwys Cwmnïau Micro, BBaChau, Cwmnïau Mawr, y Trydydd Sector a Mentrau Cymdeithasol. Mae gan KESS 2 453 o gwmnïau ar ein cronfa ddata sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiect ac mae 61% o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn KESS 2 yn BBaChau. Mae ein Map Partner Cwmni a gasglwyd yn ddiweddar yn dangos cwmpas eang partneriaid cwmni yr ydym wedi cydweithio â hwy o bob rhan o Gymru hyd yn hyn, gyda’r nifer hwn yn cynyddu wrth i brosiectau newydd gael eu creu a’u cychwyn.
Beth a ddisgwylir gan bartner cwmni KESS 2?
- Bod gan y cwmni sylfaen weithredol o fewn Ardal Gydgyfeirio Cymru (cliciwch i weld y map) ar gyfer prosiectau KESS 2 (Gorllewin) neu yn Nwyrain Cymru (ardaloedd nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr Ardal Gydgyfeirio) ar gyfer prosiectau KESS 2 Dwyrain.
- Bod goruchwyliwr cwmni yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd cynnydd chwarterol a chwblhau adroddiadau cynnydd.
- Y gall y cwmni ddarparu o leiaf 30 diwrnod o leoliad y flwyddyn ar gyfer yr ymchwilydd ôl-raddedig yn y cwmni, yn amodol ar gytundeb rhwng y cwmni a goruchwylwyr academaidd. Gall hyn fod yn hyblyg yn dibynnu ar y prosiect.
- Y gall cynrychiolydd cwmni oruchwylio’r ymchwilydd ôl-raddedig tra’i fod ar leoliad o fewn y cwmni.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gyflogi eich ysgolor KESS 2 ar ddiwedd yr ymchwil, er y byddai hwn yn ganlyniad rhagorol i’r prosiect.
Cyfraniadau Arian Parod y Cwmni ar gyfer KESS 2 (Gorllewin)
Cyfraniadau Arian Parod y Cwmni ar gyfer KESS 2 Dwyrain
Pwy sy’n berchen ar unrhyw HED a ddaw o ganlyniad i’r prosiect?
Er mwyn dangos eich bod cydymffurfio â rheolau Cymorth Gwladwriaethol, bydd unrhyw Eiddo Deallusol a ddaw yn sgîl prosiect KESS 2 yn eiddo i’r brifysgol berthnasol. Bydd ED cefndirol a gafodd ei ddefnyddio mewn cysylltiad â phrosiect KESS 2 yn eiddo i’r parti sy’n ei gyflwyno a bydd yn amodol ar ymrwymiadau cyfrinachedd. Bydd y brifysgol berthnasol yn gadael i’r cwmni partner gael y dewis cyntaf ar un ai trwydded gyfyngol neu anghyfyngol i ddefnyddio’r Eiddo Deallusol neu unrhyw HED arall sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r prosiect, fel sy’n cael ei drafod rhwng y partïon sydd ynghlwm ag ef.
Hyfforddiant sgiliau lefel uwch ar gyfer yr ymchwilydd ôl-raddedig
Mae gan bob ysgoloriaeth KESS 2 raglen hyfforddi sgiliau lefel uwch integredig ar gyfer yr ymchwillydd ôl-raddedig sy’n cymryd rhan, sy’n arwain at Ddyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig, ac mae’n ymdrin ag unrhyw wybodaeth neu fylchau mewn sgiliau a nodwyd.