KESS 2 i Academyddion

Beth yw KESS 2?

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn weithrediad pwysig drwy Gymru sy’n cael ei gefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru. Mae pob prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan ac mae’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor. Mae KESS 2 yn cysylltu cwmnïau â sefydliadau gydag arbenigedd academaidd yn y Sector Addysg Uwch i ymgymryd â phrosiectau ymchwil cydweithredol.

Mae pob ymchwil yn bwysig, ond heddiw fwy nag erioed, mae’n hanfodol fod busnesau a phrifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd fel bod academyddion ifanc  yn gallu ymgymryd â gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn.

Mae prosiectau KESS 2 yn rhai unigryw sydd wedi cael eu teilwra i ddarparu ymchwil cyffrous ac arloesol tra’n cwrdd ag anghenion busnes gweithredol neu anghenion ei sector.  Mae’n rhaid i ymchwil sy’n cael ei wneud drwy brosiect KESS 2 gydweddu ag un o bedwar Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru sef:

  • Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
  • Uwch Beirianneg a Deunyddiau
  • Carbon Isel, Ynni ac Amgylchedd
  • TGCh a’r Economi Ddigidol

Ffeithiau ac Ystadegau ynglŷn â KESS 2: Cliciwch yma er mwyn cael darllen mwy


Cwestiynau a ofynnir yn aml

 

Os oes gennych chi syniad am brosiect neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â rhaglen ysgoloriaeth KESS 2, cysylltwch â ni.

 

Golwg Byd Academaidd


Yr Athro/Prof Rose Cooper

“Fel academydd, mae’n bwysig fod yn gallu gweithio gyda chwmnïau.  Ambell waith, mae’r ymchwil yr ydym yn ei wneud, rydym ni’n gobeithio, yn cael ei ddatblygu gan gwmnïau eraill, ond ni allwn fyth fod yn siŵr.  Pan ydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda chwmni, rydym yn gwybod bod ein cyfraniad ni am fod yn ddefnyddiol ac y bydden nhw’n datblygu nwyddyn.  Ac wrth gwrs, mae KESS yn darparu hynny”.

Yr Athro Rose Cooper
Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 

 

 


Yr Athro/Prof Davey Jones

“Rydw i’n meddwl yn bennaf ei fod yn rhoi cyfle inni wneud rhywbeth na fyddem ni fel arfer yn ei wneud.  Fel arfer, rydym yn eithaf cul ein meddylfryd, hynny ydi, rydym ni’n canolbwyntio ar fanylion terfynol y bywyd academaidd a’r ymchwil.  Ac ambell waith, rydym ni’n anghofio beth sydd yno yn y byd go iawn, a sut y byddai o fudd, ac rydw i’n meddwl ei fod wedi rhoi’r cyfle inni gydweithredu â diwydiant, rhywbeth nad ydym ni fel arfer yn ei wneud.”

Yr Athro Davey Jones
Prifysgol Bangor

 

 


Dr Liam Kilduff

“Eto, mae ynglŷn â sicrhau bod eich ymchwil yn cael effaith, ac felly mae’n rhaid i’ch cwestiynau chi fod wedi cael eu sbarduno gan ddiwydiant, ac oherwydd y mathau hyn o bartneriaethau a’r ffordd y maen nhw’n cael eu sefydlu, mae gennych chi gyfarfodydd parhaus gyda diwydiant, mae’ch myfyriwr yn ymwreiddio yn y diwydiant. Felly, drwy’r amser, rydych chi’n sicrhau bod eich ymchwil yn cael effaith a’i fod yn ateb cwestiynau allweddol i’r bobl hyn.”

Dr Liam Kilduff
Prifysgol Abertawe

 

 


Dr Vincent Barrioz

“Mae bod ynghlwm â phrosiect KESS wedi ein galluogi i weithio’n agosach gyda’r cwmni yn ogystal â gweithio gyda myfyriwr; myfyrwyr sydd wedi’u hysgogi yn wirioneddol, gan roi’r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw i symud i waith, ac ar yr un pryd, rhoi’r cyfle inni roi iddyn nhw rhywfaint o’r wybodaeth a’r cymorth arbenigol sydd eu hangen ar gyfer symud yr ymchwil ymlaen.”

Dr Vincent Barrioz
Prifysgol Glyndwr

 

 

 


Dr Arwel Jones

“Rydw i’n meddwl bod cyfle inni yn ogystal fel arolygwyr baratoi a hyfforddi myfyrwyr eraill ar gyfer gyrfa mewn ymchwil neu efallai busnes masnachol os mai dyma y maen nhw eisiau’i wneud.”

Dr Arwel Jones
Prifysgol Aberystwyth

 

 

 

 


Dr Mathew Smalley

“Ac mewn gwirionedd, roedd yn fy ngalluogi i wella cydweithrediadau yr oeddwn i’n eu cael gyda’r cwmni fferyllol gyda phrosiect KESS, ac felly mae wedi bod yn ffactor wych.  I’m myfyriwr, bu’n ffantastig oherwydd mae gweithio mewn BBaCh wedi rhoi sgiliau academaidd gwych iddo ef.”

Dr Matthew Smalley
Prifysgol Caerdydd

 

 

 


Dr Zhidao Xia

“Yn y Brifysgol, rydym ni fel arfer yn gwneud ychydig o ymchwil sylfaenol.  Nid yw rhai cemegwyr yn glinigol berthnasol.  Fodd bynnag, wrth weithio gyda BBaChau, gyda diwydiannau bychain, daethon nhw â phrosiectau ymchwil diddorol, gyda gwerth masnachol a gellir eu defnyddio yn ogystal yn y dyfodol.  Felly, mae gweithio gyda BBaChau yn bwysig.”

Dr Zhidao Xia
Prifysgol Abertawe